“Mae wir yn bwysig bod cyrff rheoli a’r llywodraeth yn optimistig ar gyfer y sector wrth i ni ddod allan o’r argyfwng,” meddai Davies.

“Un o’r elfennau positif a ddaeth i’r amlwg ar unwaith wrth i ni fynd i mewn i’r cyfyngiadau symud oedd y pwysigrwydd oedd yn cael ei roi gan y cyhoedd – a hefyd y llywodraeth – ar weithgarwch corfforol a chadw’n iach drwy weithgarwch corfforol.                           

“Rhaid i ni adeiladu ar y cyfarwyddyd sydd wedi’i roi gan y llywodraeth. Ni ddylem dim ond disgwyl iddo barhau yn y meysydd hynny lle mae wedi cynyddu.                     

“Mae’n amlwg bod rhai grwpiau lle nad yw’r gweithgarwch yma wedi cynyddu a’n bod ni wedi colli tir. Mae’r bylchau yma mewn perygl o ehangu. 

“Po gyntaf y gallwn ni gael rhywfaint o sicrwydd ariannol ar gyfer y dyfodol – i helpu’r rhai sydd wedi ailddarganfod gweithgarwch i barhau ag o ac i helpu’r rhai sydd eto i’w ddarganfod, i’w ddarganfod – y gorau fydd hynny i’n cenedl ni.”

Cyfaddefodd Davies bod chwaraeon yng Nghymru wedi profi’n ddihangfa eithriadol werthfawr i bobl yn ystod yr argyfwng presennol ond nid yw’r mynediad i chwaraeon a’i fanteision wedi’i rannu’n deg i bawb. 

Mae ymchwil diweddar sydd wedi’i gomisiynu gan Chwaraeon Cymru wedi dangos bod lefel gweithgarwch chwaraeon plant wedi lleihau’n sylweddol yn ystod y cyfnod pan mae’r rhan fwyaf o ysgolion wedi bod ar gau. *

Yn y grŵp oedran dan 16 oed, mae 35 y cant o blant yn gwneud llai o weithgarwch corfforol na chyn y cyfyngiadau symud. Mae cyfanswm o 26 y cant yn gwneud mwy, ond dywedodd naw y cant o oedolion nad oedd eu plant yn gwneud unrhyw weithgarwch corfforol o gwbl, sy’n destun pryder mawr. 

Hefyd roedd pobl o gefndiroedd difreintiedig yn gwneud llai o weithgarwch, dangosodd yr ymchwil.             

Wrth ymateb i’r cwestiynau am lefelau gweithgarwch, dywedodd Davies wrth y pwyllgor: “I oedolion mae wedi bod yn eithaf tebyg i’r cyfnod cyn y cyfyngiadau symud, ond mae gostyngiad wedi bod ymhlith plant. 

“Mae’n ymddangos bod mân wahaniaethau rhwng y rhywiau, gyda chynnydd bach yng nghyfranogiad y benywod. 

“Yr elfen fwy pryderus yn yr arolwg yw ei fod yn awgrymu bod y bylchau anghydraddoldeb a’r problemau rhyngadrannol yr oedden ni’n eu hwynebu cyn y pandemig yn ehangu. Mae hynny’n bryder ac mae’n rhaid i ni wneud mwy o ymchwil yn y maes hwnnw.”

Hefyd cafodd Davies ei holi am sut mae clybiau a sefydliadau chwaraeon Cymru wedi ymdopi yn ystod y cyfyngiadau symud – problem y mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn rhoi sylw iddi drwy’r £500,000 sydd wedi’i ddosbarthu drwy’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng. 

Pwysleisiodd bod yr help wedi cael ei dargedu ar hyn o bryd tuag at y clybiau sy’n wynebu dod i ben, ond y bydd £9m pellach o gyllid wedi’i ailgyfeirio’n mynd tuag at gynnal clybiau a sefydliadau chwaraeon yn y dyfodol.

“Dydyn ni heb gynnal asesiad penodol o’r clybiau hynny sy’n wynebu bygythiad o ran goroesi,” ychwanegodd Davies.

“Fodd bynnag, mae’r gronfa argyfwng wedi derbyn tua 630 o geisiadau, sy’n rhoi rhyw fath o syniad o’r sefyllfa mae clybiau’n ei hwynebu.

“Mae’r dystiolaeth yn amrywio o ran graddfa’r bygythiad. Mae ein cefnogaeth wedi cael ei darparu i’r rhai oedd yn wynebu bygythiad ar unwaith. 

“Rydyn ni wedi rhoi diben newydd i £9m o’n cyllideb bresennol er mwyn ceisio helpu’r sefyllfa. Roedd mwy na hanner miliwn o bunnoedd yn y cyfnod argyfwng cyntaf ac mae’r gweddill nawr yn rhan o’r gronfa cadernid. Bydd hynny’n cael effaith pan fyddwn ni’n dod allan o’r sefyllfa hon oherwydd ni fydd ar gael i ni wedyn.”

Mae’r Prif Weithredwr yn cydnabod hefyd bod swyddi athletwyr, hyfforddwyr ac arweinwyr dan fygythiad.

“O ran gweithwyr chwaraeon proffesiynol a hyfforddwyr, mae pawb wedi cael eu heffeithio. Ond mae gwahanol sectorau wedi cael eu heffeithio i raddau amrywiol. 

“Yn y sector hyfforddwyr hunangyflogedig, bydd rhai o’r bobl hyn wedi syrthio drwy’r bylchau.                 

“Rydyn ni newydd dderbyn canlyniadau cam cyntaf ymchwil a gomisiynwyd gennym gan Brifysgol Sheffield Hallam i effaith economaidd y pandemig. Mae’n eithaf sylweddol. Rydyn ni’n sôn am ostyngiad o 18 y cant yn lefel y gweithgarwch economaidd ar gyfer chwaraeon a gostyngiad ychwanegol o 17 y cant yng ngwerth gros ychwanegol chwaraeon hefyd.”

Hefyd cynigiodd Davies obaith y bydd chwaraeon haf – fel criced a thennis – yn gallu ailddechrau ond gall hyn fod ar ffurf gyfyngedig fel sesiynau ‘rhwydi’ hyfforddi criced, yn hytrach na gemau cystadleuol.           

“Rydw i’n deall rhwystredigaeth rhai chwaraeon haf yn iawn,” ychwanegodd. 

“Ond y neges gyffredinol rydw i’n ei chael gan y chwaraeon yw eu bod yn deall y negeseuon iechyd y cyhoedd.

“Dydyn nhw ddim eisiau cael effaith negatif ar y gwaith da sydd wedi’i wneud o ran iechyd y cyhoedd, ond maen nhw angen rhyw fath o lwybr er mwyn iddyn nhw allu dychwelyd.”

*Ffynhonnell: Arolwg ComRes ar gyfer Chwaraeon Cymru - 1,007 o oedolion Cymru