Skip to main content

Cronfa’n rhoi help hanfodol i gael pobl ifanc yn actif eto

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cronfa’n rhoi help hanfodol i gael pobl ifanc yn actif eto

Yn hanesyddol, mae chwaraeon wedi bod yn bresenoldeb sy’n uno mewn cymdeithas – rhywbeth sy’n gallu helpu grŵp o bobl drwy argyfwng.       

Mae hyn wedi bod yn wir yn sicr am Ganolfan Ieuenctid Margam ym Mhort Talbot, lle mae grant o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru wedi galluogi pobl ifanc yr ardal i ailddechrau chwarae pêl droed.                       

Mae derbyn £1,500 – a hefyd grant pellach yn gysylltiedig â’r coronafeirws – wedi helpu’r gymuned leol drwy effeithiau pandemig presennol Covid-19.

Mae Canolfan Ieuenctid Margam yn cael ei gweithredu gan yr ysgrifennydd George Ridgeway, sy’n rhoi ei amser sbâr i sicrhau bod gan ieuenctid yr ardal yr hyn y mae arnynt ei angen. 

Mae gan y ganolfan ieuenctid gyfanswm o 90 o chwaraewyr iau ac mae’r gronfa’n galluogi’r ieuenctid hyn i ddychwelyd ar y cae. 

 

“Fe wnaethon ni gais am grant sefydlu er mwyn gallu cael ein caeau’n ôl i safon ac er mwyn i’r plant allu dod yn ôl i ymarfer,” meddai George, sy’n gweithio i’r bwrdd iechyd lleol. 

“Fe wnaethon ni roi gwrtaith ar y caeau i gyd a’u hail-wneud nhw, a hefyd fe gafodd y glaswellt ei dorri cyn i’r chwaraewyr ddychwelyd i hyfforddi dair wythnos yn ôl. 

“Mae gennym ni saith cae yn ein sefydliad. Mae gennym ni ddau maint llawn a hefyd caeau llai ar gyfer y criw dan un ar ddeg, dan naw a dan chwech.             

“Heb y gronfa yma, fe fydden ni wedi gorfod gwario rhwng £1,500 a £2,000 ar y cae. Fel arfer, mae ein contract ni gyda’r cyngor sy’n torri’r glaswellt ac yn rhoi bil i ni bob mis. 

“Maen nhw’n codi £100 a TAW am dorri’r cae bob 10 diwrnod, sy’n swm anodd dod o hyd iddo.       

“Fel rheol, mewn argyfwng, y peth cyntaf sy’n dod i feddwl pobl yw bod rhaid iddyn nhw gynyddu eu ffioedd misol. Ond mae’r grant wedi galluogi i ni ostwng ein ffioedd er mwyn helpu rhywfaint ar ein haelodau. 

“Dim ond hyfforddi ydyn ni ar hyn o bryd. Fe wnaethon ni ostwng ein ffioedd ym mis Medi o £12 i £5 oherwydd rydyn ni’n gwybod bod rhai rhieni’n cael amser anodd, felly roedden ni’n meddwl y byddai gostwng ein ffioedd ni’n dangos ewyllys da. 

“Mae’r rhieni i gyd yn falch iawn ac yn methu credu’r peth. Cydweithio sy’n bwysig, a gofalu am ein gilydd.” 

Roedd y cyfyngiadau symud yn straen fawr ar iechyd a lles plant ar hyd a lled Cymru. Ac mae Ridgeway yn barod iawn i bwysleisio pa mor fuddiol mae’r grant wedi bod er mwyn gwarchod iechyd yr aelodau. 

“Iechyd corfforol a meddyliol y plant yw’r ffocws. Yn ystod y cyfyngiadau symud, roedden nhw’n chwarae dan do yn aml – ar yr X-Box a’r I-Pad.

“Yr hyn rydw i wedi sylwi arno pan ddaeth y plant yn ôl yw eu bod nhw’n fwy awyddus, yn fwy cyffrous, yn gwenu ac yn edrych ymlaen at chwarae pêl droed. 

“Ar ddiwedd y dydd, rhoi gŵen yn ôl ar wynebau’r plant sy’n bwysig. Mae gennym ni tua 90 o aelodau iau yn chwarae yn ein grwpiau oedran ni, o dan chwech i fyny. Hefyd fe wnaethon ni groesawu ein tîm pêl droed cynhwysol i blant anabl yn ôl yr wythnos ddiwethaf.

“Fel sefydliad, rydyn ni hefyd yn ffodus iawn o fod wedi cael grant ar gyfer Covid-19, wnaeth ein galluogi ni i brynu offer diogelwch fel diheintyddion dwylo, archwiliadau tymheredd, masgiau, platiau tafladwy a hefyd offer glanhau ar gyfer y ganolfan ieuenctid.” 

Mae Canolfan Ieuenctid Margam wedi mynd yr ail filltir i gynorthwyo teuluoedd ei haelodau. Gyda llawer o rieni wedi gweld gostyngiad yn eu hincwm oherwydd eu bod ar ffyrlo, neu wedi colli eu swyddi, mae’r elusen wedi ceisio gwneud pethau’n haws i bawb. 

Ychwanegodd George: “Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, fe wnaethon ni roi hamper bwyd gwerth £50 i bob aelod hefyd. Fe gawsom ni negeseuon gan aelodau’n dweud eu bod wedi bod o fudd mawr i’w teuluoedd. 

“Rydyn ni wedi cael cymaint o negeseuon. Mae llawer o bobl wedi cael eu heffeithio’n ariannol gan y cyfyngiadau symud, felly roedden ni eisiau gofalu am y bobl yn ein cymuned ni. 

“Mae’r tîm pêl droed a’r ganolfan ieuenctid yn ganolbwynt yn y gymuned yma ac roedd yn hanfodol ein bod ni’n goroesi’r cyfnod yma.” 

Mae arian grant Cronfa Cymru Actif wedi bod yn bosib diolch i Lywodraeth Cymru ac arian sydd wedi cael diben newydd gan y Loteri Genedlaethol, sy’n parhau i fod yn un o gefnogwyr mwyaf chwaraeon yng Nghymru.     

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy