Skip to main content

Dragon Karate Cymru yn sicrhau bod chwaraeon ar gael i bob gallu yn ystod y cyfyngiadau symud

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Dragon Karate Cymru yn sicrhau bod chwaraeon ar gael i bob gallu yn ystod y cyfyngiadau symud

Nid yw addysgu carate yn ystod pandemig byd-eang yn hawdd, ond nid yw hynny wedi atal Reuben Florence rhag arddangos y gamp i bobl anabl yng Ngogledd Cymru.

Yn ddiweddar mae Reuben – sylfaenydd a phrif hyfforddwr Dragon Karate Cymru ym Mangor – wedi agor ei ddrysau i ddilynwyr newydd y gamp fel rhan o Gyfres Insport Rhithiol sy’n cael ei gweithredu gan Chwaraeon Anabledd Cymru a’i noddi gan SPAR.

Drysau rhithiol ydi’r rhain, gyda llaw. Gyda’r drysau go iawn ar gau o hyd yng nghyfleusterau clwb Dragon Karate, mae’r digwyddiadau blasu wedi symud ar-lein.

Ond fe lwyddodd Reuben i wneud ffilm gyflwyniadol fer ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i ddechrau cymryd rhan yn y gamp fel rhan o’r cyntaf o bedwar digwyddiad rhanbarthol sy’n tynnu sylw at atyniadau chwaraeon amrywiol.               

Yn ogystal â charate, roedd y digwyddiad yng Ngogledd Cymru’n cynnwys gymnasteg, pêl fasged cadair olwyn a rygbi’r undeb – gyda phob un yn rhoi sesiynau blasu ar-lein, yn dangos technegau, sgiliau ac ymarferion sylfaenol.

 

“Rydyn ni wedi recordio sesiynau y gall pobl glicio arnyn nhw a chael syniad o beth mae’r gamp yn ei gynnig,” meddai Reuben, sydd wedi ymwneud â charate ers 25 o flynyddoedd.

“Maen nhw’n heriau cyflym y gall unrhyw un ymuno ynddyn nhw. Dydi gweithgareddau ar-lein ddim yn mynd i gymryd lle cyfarwyddyd wyneb yn wyneb, ond ar hyn o bryd mae’n ffordd wych o gyflwyno’r gamp a chadw mewn cysylltiad.”

Roedd Dragon Karate wedi dechrau darparu gwersi cynhwysol eisoes i blant ar Ynys Môn ac mae cyfres Insport yn eu helpu i gynnig y gamp i gynulleidfa ehangach a mwy amrywiol.         

“Mae’n gamp wych i bawb,” ychwanegodd Reuben. “Mae carate’n gallu cynnig cymaint ac mae hi wir yn gamp i bob oedran a gallu.

“Fel clwb, rydyn ni wedi bod yn darparu gwersi i bobl ag anawsterau dysgu, ond rydyn ni eisiau ehangu a chyflwyno’r gamp i bobl ag anawsterau corfforol a hefyd pobl â nam ar y golwg.         

“Mae un o fy myfyrwyr rheolaidd i sy’n 62 oed wedi syrthio yn ei atig yn ddiweddar ac anafu ei fraich. Dydi o ddim yn mynd i allu defnyddio’r fraich yna, ond rydw i eisiau ei gael yn ôl yn hyfforddi ac yn mwynhau’r gamp gymaint â phosib.         

“Fe all carate gynnig hynny i bobl ac rydw i’n gyffrous am ehangu’r gwersi i gymaint o bobl â phosib.”

Cyn y cyfyngiadau symud presennol ar chwaraeon, roedd Cyfres Insport wedi sefydlu’n dda yn ystod y degawd diwethaf gyda mwy na dwsin o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ledled y wlad mewn lleoliadau amrywiol.

Cynhaliwyd un o’r digwyddiadau mwyaf ym Mhrifysgol Met Caerdydd, lle cyflwynwyd Phil Pratt, sy’n 11 oed, i bêl fasged cadair olwyn – camp y byddai’n dod yn Baralympiad ynddi yn ddiweddarach, gyda sgwad Prydain Fawr yn Rio yn 2016.

Gan nad oes posib cynnal digwyddiadau mewn lleoliadau ar hyn o bryd, mae’r byd rhithiol yn galluogi’r gyfres i barhau ac, ar Fehefin 19, bydd yr ail ddigwyddiad yn cael ei gynnal, gyda chlybiau’n cael eu gwahodd o ranbarth Gwent.

Maent yn cynnwys arddangosfa gymnasteg gydag Academi Gymnasteg Valleys, tennis gyda Little Hitters, rygbi cadair olwyn gyda Rygbi Cadair Olwyn y Dreigiau, a boccia gyda Chyngor Sir Fynwy.           

Ar Orffennaf 3, mae digwyddiad ar gyfer clybiau yn rhanbarth De Cymru ac, wythnos yn ddiweddarach, tro clybiau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru fydd hi. Mae’r digwyddiadau’n parhau am ddim i’w gwylio ar-lein, ar unrhyw adeg, ar ôl diwrnod y digwyddiad ei hun.

Dywedodd Tom Rogers, uwch swyddog prosiect Insport gyda Chwaraeon Anabledd Cymru: “O dan amgylchiadau arferol, byddai’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal yn gorfforol, mewn lleoliadau ledled y wlad drwy gydol y flwyddyn.   

“Mae cadw pellter cymdeithasol i’n cadw ni i gyd yn ddiogel rhag y coronafeirws wedi gorfodi pawb ohonom i addasu, ac am nawr, bydd digwyddiadau Cyfres Insport yn cael eu cynnal ar-lein. Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal gan glybiau o ranbarth penodol yng Nghymru, gan gyflwyno amrywiaeth o gyfleoedd cynhwysol i chi roi cynnig arnyn nhw gartref. 

“Mae’r clybiau wedi creu cynnwys fideo sydd wedi cael ei olygu ar gyfer yr ymwelydd ar-lein. Felly, er enghraifft, gyda gymnasteg, mae clip cynhesu y gallwch chi ei gwblhau, ac wedyn pedwar clip gweithgarwch. 

“Mae posib aros ar bob clip fideo am gyn hired â maen nhw eisiau. Os ydyn nhw’n teimlo’n sicr nad yw camp neu weithgaredd ar eu cyfer nhw, gallant glicio i ffwrdd a mynd ymlaen i’r un nesaf. Mae’r holl gynnwys yn rhywbeth y gallwch chi ei gopïo yn eich cartref eich hun.” 

 

Ewch i insportseries.co.uk am ragor o wybodaeth am sut i fynychu’r digwyddiadau am ddim yma. 

Sylwer: Mae’r digwyddiadau yma ar agor i bob oedran, ond bydd rhaid i chi gael rhywun dros 16 oed i gofrestru.     

Cyfres Insport Rhithiol

 

Gogledd – 12fed Mehefin 2020

Gymnasteg - Clwb Gymnasteg Bangor a Môn Actif (Cyngor Sir Ynys Môn)

Carate - Dragon Karate Cymru

Pêl Fasged Cadair Olwyn - Pêl Fasged Cadair Olwyn Gogledd Cymru

Rygbi’r Undeb – Stingrays Bae Colwyn ac Undeb Rygbi Cymru         

 

Gwent – 19eg Mehefin 2020

Gymnasteg - Academi Gymnasteg Valleys

Tennis - Little Hitters

Rygbi Cadair Olwyn - Rygbi Cadair Olwyn y Dreigiau 

Boccia - Mon Life (Cyngor Sir Fynwy)

 

Y De – 3ydd Gorffennaf 2020

Pêl Fasged – Archers

Pêl Droed – Clwb Pêl Droed Tref y Barri Unedig

Aml-Chwaraeon – SportFit

Dawns – Impetus Dance

Pêl Gôl – Clwb Pêl Gôl De Cymru     

 

Y Canolbarth a’r Gorllewin – 10fed Gorffennaf 2020

Tennis – Clwb Chwaraeon Integredig Aberhonddu        

Athletau – Clwb Athletau Maldwyn 

Aml-Chwaraeon – I’w Gadarnhau 

Codi Pwysau – Clwb Codi Pwysau Sir Benfro 

 

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy