Skip to main content

Mwy o gyfleusterau 3G i bêl droed a rygbi

I helpu i fodloni'r galw am fwy o gyfleusterau pêl droed a rygbi pob tywydd ledled Cymru, mae tua £1m yn cael ei fuddsoddi gan Chwaraeon Cymru i greu 12 cae 3G maint bach yn lle hen gyrtiau tennis a chaeau Tyweirch Astro sydd wedi gweld dyddiau gwell.          

Er na fydd y cyfleusterau wedi'u hailwynebu'n ddigon mawr i ddarparu ar gyfer caeau maint llawn, byddant yn ddelfrydol ar gyfer sesiynau hyfforddi a gemau plant gyda thimau llai.   

Mae'r cyllid - rhan o ddyraniad o £5m i gronfa 'Lle I Chwaraeon' gan Lywodraeth Cymru yn 2019 i wella cyfleusterau chwaraeon - yn cael ei rannu ymhlith dwsin o brosiectau mewn dinasoedd, trefi a phentrefi gan gynnwys Casnewydd, yr Wyddgrug, Caernarfon, Pontyberem, Bae Cinmel, Trefynwy a Rhaeadr.    

I helpu gyda phenderfynu ble orau i wario'r arian, ymunodd Chwaraeon Cymru gyda Chymdeithas Bêl Droed Cymru, Hoci Cymru ac Undeb Rygbi Cymru yr haf diwethaf i roi gwybod i glybiau ac awdurdodau lleol am yr arian sydd ar gael.

Lluniwyd rhestr hir o brosiectau posib cyn dod â'r ymgeiswyr i lawr i 12 prosiect, oedd â photensial i gyd i gael eu cwblhau erbyn mis Mawrth 2020.

Gall y cyllid gyfrif am gyfran sylweddol o gost pob prosiect, gyda'r ymgeiswyr angen darparu'r gwahaniaeth. 

Ymhlith y clybiau gafodd arian mae Clwb Pêl Droed Albion Rovers yng Nghasnewydd. Byddant yn derbyn £60,000 a fydd yn golygu y gallant droi cyrtiau tennis gwag yn arwyneb 3G bach ar gyfer pêl droed. Dywedodd y Cadeirydd Terry Wilkins: "Bydd yr arwyneb newydd yma'n allweddol i'r clwb. Mae ein cae cartref ni mewn cyflwr difrifol, sydd wedi golygu nad yw bechgyn a merched yr adran iau wedi gallu ymarfer am fwy na blwyddyn. Bydd y cae 3G yn galluogi ein plant ni i ymarfer a chwarae gemau mewn pob math o dywydd, ac rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd y gymuned ehangach yn gwneud defnydd da ohono, fel y feithrinfa leol a'r ysgol."

Dywedodd Brian Davies, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: "Mae'r hydref gwlyb iawn rydyn ni newydd ei gael unwaith eto wedi tynnu sylw at yr angen am fwy o gaeau artiffisial yng Nghymru er mwyn i fwy o bobl allu mwynhau eu camp heb y rhwystredigaeth o orfod canslo sesiynau hyfforddi a gemau oherwydd y tywydd. 

"Rydyn ni'n parhau i weithio'n agos gyda Chymdeithas Bêl Droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Hoci Cymru i ddarparu caeau artiffisial priodol mewn rhannau priodol o Gymru, ac rydyn ni wrth ein bodd bod y cyllid hwn wedi dod ar gael gan Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau. Ond mae galw mawr o hyd am fwy o gaeau 3G, felly fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ffyrdd o wella cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru."

Gan eich bod yn gallu chwarae arnynt ym mhob tywydd, ac nad oes angen llawer o waith cynnal a chadw arnynt, ac oherwydd ansawdd yr arwyneb drwy gydol y flwyddyn, mae'n hawdd gweld pam mae caeau 3G mor boblogaidd. Maent yn berffaith ar gyfer pêl droed wrth gwrs, ac ar yr amod bod padiau sioc o dan yr arwyneb, maent yn ddelfrydol ar gyfer rygbi hefyd.   

Fodd bynnag, arwyneb AstroTurf traddodiadol mae hoci'n ei ffafrio, sy'n galluogi i'r bêl symud yn gyflymach. Yn llawn, mae dwsin yn derbyn cyfran o'r £1m o gyllid: Cyngor Cymuned Pontyberem (£148,706), Clwb Rygbi Pêl Droed yr Wyddgrug (£162,516), Clwb Pêl Droed Albion Rovers (£60,000), Cyngor Sir Fynwy (£46,640), Cyngor Sir Ynys Môn (£72,000), Cymdeithas Chwaraeon a Hamdden Bae Cinmel a Thowyn (£69,360), Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (£110,000), Aura Leisure a Llyfrgelloedd Tredegar (£131,253), Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (£200,000), Clwb Pêl Droed Iau Caersws (£54,000), a Chae Lles Waun-Capel yn Rhaeadr (£46,476). Bydd yr olaf i dderbyn arian, Clwb Rygbi'r Undeb a Phêl Droed Caernarfon a'r Fro, yn defnyddio ei gyllid o £199,180 i drawsnewid ardal hyfforddi o laswellt yn arwyneb 3G.        

Roedd rhaid i bob ymgeisydd fodloni rhai meini prawf penodol i dderbyn eu cyllid, ac un gofyniad oedd bod rhaid cwblhau'r prosiectau erbyn diwedd mis Mawrth 2020. Mae rhai o'r prosiectau ar droed eisoes, ac eraill mewn camau cynnar.    

Newyddion Diweddaraf

Tanni yn canmol effaith y Loteri Genedlaethol sy’n ‘newid y gêm’

Tanni Grey-Thompson yn dathlu'r Loteri Genedlaethol ar ei phen-blwydd yn 30 oed

Darllen Mwy

Cronfa Cymru Actif yn ailagor ar gyfer ceisiadau

Mae Cronfa Cymru Actif yn ailagor nawr gyda gwerth £1m o gyllid yn weddill.

Darllen Mwy

30 o ffyrdd y mae’r Loteri Genedlaethol wedi cael effaith ar chwaraeon yng Nghymru dros 30 mlynedd

Dyma 30 o ffyrdd y mae'r Loteri Genedlaethol wedi mynd â chwaraeon yng Nghymru i lefel arall.

Darllen Mwy