Skip to main content

Alun Wyn Jones yn canmol fel mae chwaraeon yng Nghymru yn newid

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Alun Wyn Jones yn canmol fel mae chwaraeon yng Nghymru yn newid

Mae llygaid Alun Wyn Jones ar drip i Rufain yr haf nesaf - hyd yn oed os bydd galwad arall i chwarae yn erbyn y Crysau Duon yn rhoi stop ar ei gynlluniau yn y diwedd.

Mae Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales ar gyfer 2019 yn gefnogwr brwd i holl chwaraeon Cymru a siaradodd am ei edmygedd o'i gydathletwyr yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru yn y Celtic Manor.

Llwyddodd capten rygbi Cymru i oresgyn her yr athletwraig a ddaeth yn ail, Sabrina Fortune, a'r drydedd, Jade Jones, ym mhleidlais y cyhoedd. Ar noson gofiadwy iawn, roedd Jones hefyd yn rhan o'r garfan a gipiodd wobr Tîm y Flwyddyn.    

Roedd yn ddwbl nodedig i gapten 34 oed buddugol y Gamp Lawn a arweiniodd ei dîm i rowndiau cyn-derfynol Cwpan y Byd - yn enwedig wrth i dîm pêl droed dynion Cymru ddod â'r flwyddyn i ben drwy gymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop y flwyddyn nesaf.      

Mae dynion Ryan Giggs yn mynd i herio'r Eidal yn Rhufain ar Fehefin 21 y flwyddyn nesaf yn Stadio Olimpico - lleoliad a dinas sy'n gyfarwydd iawn i Jones yn dilyn ei ymweliadau fel rhan o ornest y Chwe Gwlad - ac mae ganddo ffansi mynd fel cefnogwr.   

"Fe wnes i ddilyn yr Ewros y tro diwethaf ac mae gweld y bois yn trosglwyddo'r baton i griw newydd o fois yn wych," meddai Jones.

"Efallai y gwna i geisio dianc allan i Rufain gydag ambell un. 'Sa i'n siŵr a fyddai fy ngwraig yn maddau i mi, ar ôl treulio cymaint o amser yn Japan, ond fe fydda' i'n siŵr o ddilyn y twrnamaint yn frwd.

"Mae'r un peth yn wir am athletwyr eraill Cymru a'r rhai sydd wedi'u henwebu ar gyfer cystadlaethau eraill y flwyddyn nesaf - rydw i'n hoffi eu dilyn nhw i gyd."

Gan fod tîm rygbi Cymru'n chwarae gêm Brawf yn erbyn Seland Newydd ar Orffennaf 4 - dim ond 13 diwrnod ar ôl dyddiad y gêm bêl droed yn Rhufain - efallai y bydd rhaid i Jones siarad yn glên gydag ambell un er mwyn sicrhau bod ei gynllun fel cefnogwr pêl droed yn un llwyddiannus.

Ond mae digon o chwaraeon eraill yn digwydd i Gymru drwy gydol 2020 i gadw seren Llewod Prydain ac Iwerddon yn brysur iawn.            

Er bod Jones ym mhen arall y sbectrwm o ran oedran cystadlu i rywun fel Lily Rice, enillydd WCMX (croesfoduro cadair olwyn) gwobr Athletwraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James, mae sêr chwaraeon ifanc newydd - gan gynnwys merched ifanc yn eu harddegau sy'n gallu gwneud tin-dros ben mewn cadair olwyn - yn rhywbeth mae'n gwbl gefnogol iddo. 

Roedd y ddwy agosaf at Jones ar y rhestr fer - Fortune, para-athletwraig sy'n taflu siot a'r seren taekwondo Jade Jones - yn bencampwyr byd ac roedd yr ymgeiswyr eraill yn cynnwys rhagor o bencampwyr byd - para-athletwraig taflu gwaywffon Hollie Arnold, y feicwraig Elinor Barker, para-sgïwraig Menna Fitzpatrick, yr hwylwraig Hannah Mills a'r focswraig Lauren Price.

"Mae chwaraeon wedi newid ac roedd angen newid," meddai Jones. "Mae'r ffocws ar chwaraeon ar gyfer mwynhad a dysgu amdanoch chi eich hun. Mae chwaraeon yn gallu bod yn gyfrwng i lawer o hynny, a chreu straeon ysbrydoledig i ddangos bod unrhyw beth yn bosib. 

"Mae gweld cymaint o athletwyr a chystadleuwyr benywaidd yn gwneud mor dda yn wych ac rydw i'n dweud hynny fel tad i ddwy ferch fach. Mae'r rhain yn arwresau chwaraeon iddyn nhw eu hedmygu.

"Mae ymgyrch bob amser i gael mwy o ferched i fwynhau chwaraeon ac roedd y noson wobrwyo'n llwyfan gwych i ddangos beth sy'n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd. 

"Rydw i wastad wedi dweud bod maint yn gallu bod yn gryfder hefyd yn y byd rygbi yng Nghymru, ac rydw i'n teimlo bod hynny'n wir am chwaraeon yng Nghymru yn gyffredinol. Mae llawer o lwyddiant positif yn bodoli."

Mae Jones yn glir nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i ymddeol eto ac mae taith arall gyda'r Llewod yn 2021 yn bosibilrwydd gwirioneddol.

Mae'r mwynhad cynhenid mae'n ei gael o ddim ond chwarae rygbi yr un mor glir heddiw ag yr oedd pan oedd yn fachgen bach wyth mlwydd oed yn adran iau Bonymaen, ond mae'n cyfaddef ei fod yn cael cefnogaeth hynod werthfawr gan ei wraig, ei deulu a'i ffrindiau.         

Gyda'r tîm tu ôl iddo, ychydig iawn fyddai'n betio yn erbyn y posibilrwydd y bydd yn ymestyn ei sefyllfa fel y chwaraewr rygbi sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau'n chwarae dros Gymru i fod y chwaraewr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau yn y byd.

Ar hyn o bryd mae gan Jones 143 o gapiau Prawf ac yn 2020 dylai fynd heibio'r record o 148 sydd wedi'i gosod gan gyn gapten y Crysau Duon, Richie McCaw.

"Rydw i'n dal i fwynhau'r gêm, er mae'n gallu bod yn anodd. Rydych chi'n gallu bod y beirniad llymaf arnoch chi eich hun ac mae disgwyliadau gwlad fechan - yn enwedig yn dilyn llwyddiant - yn cynyddu'n arw, ac yn eithaf sylweddol. 

"Ond mae'n rhaid i chi dderbyn hynny, ac mae'n rhaid i mi fod yn onest - 'sa i'n dda am wneud hynny bob amser. Ond y rheswm am hynny yw am fy mod i'n gwybod faint mae'n ei olygu i bobl, a beth mae'n ei gynrychioli.

"Ond mae'n grêt cael noson pryd rydych chi'n gallu dangos beth mae'n ei olygu i chi a rhannu hynny gyda phobl debyg.

"Mae'n bur debyg 'mod i wedi treulio mwy o amser ar awyrennau, bysiau a chaeau chwarae ac mewn ystafelloedd newid nag ydw i gyda fy nheulu eleni. Felly mae'n neis treulio ychydig bach o amser gartref o'r diwedd.

"Mae gen i system gefnogi wych ac, yn y pen draw, pan fydd y cyfan drosodd - sydd ddim yn mynd i ddigwydd am sbel eto - fe fyddan nhw dal yno."

 

Newyddion Diweddaraf

Rhowch gynnig ar nofio dŵr oer mewn digwyddiad nofio Nadoligaidd yng Nghymru

Ydych chi’n meddwl rhoi cynnig ar nofio dŵr oer mewn sesiwn nofio Nadoligaidd yng Nghymru?

Darllen Mwy

Pethau am ddim i’w gwneud yng Nghymru i gadw’n actif dros yr ŵyl

Dyma rai gweithgareddau i gael eich corff i symud a rhoi hwb i’ch lles dros y Nadolig.

Darllen Mwy

Grantiau ar gyfer clybiau chwaraeon sydd wedi cael eu heffeithio gan ddifrod storm

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio Cronfa Difrod Storm ar ôl i nifer o gyfleusterau chwaraeon ddioddef…

Darllen Mwy