Skip to main content

Rosie â’i llygaid ar fuddugoliaeth Olympaidd ar ôl torcalon Ewropeaidd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Rosie â’i llygaid ar fuddugoliaeth Olympaidd ar ôl torcalon Ewropeaidd

Dydi  Rosie Eccles  ddim yn berson sy'n  meddwl gormod am siomedigaethau'r gorffennol.  

Fis Awst, oherwydd penderfyniad dadleuol, ni chafodd le yn rownd derfynol Pencampwriaeth Focsio Ewrop a fis diwethaf, wrth golli o drwch y blewyn i wrthwynebydd o'r safon uchaf, bu'n rhaid iddi adael Pencampwriaethau'r Byd ar ôl ei hail ornest.  

"Mae mor annheg!"  fyddai cwyn sawl bocsiwr, yn enwedig ar ôl colli'n ddadleuol ym Mhencampwriaethau Ewrop yn erbyn  Angela Carini.  

Nid Eccles. Mae ei hymateb yn briodol i fenyw sydd wedi graddio'n ddiweddar gyda gradd meistr mewn seicoleg chwaraeon.  

Yn lle methu credu ei lwc, dysgu oddi wrth wersi'r anawsterau hynny yw unig fwriad y focswraig pwysau welter o Galdicot, a defnyddio'r wybodaeth honno wedyn i wireddu ei huchelgais mawr i gystadlu yn y Gemau Olympaidd nesaf yn  Tokyo.  

Mae'r ferch 23 oed yn benderfynol o fod yn bositif yn dilyn ei phrofiadau yn nhwrnameintiau Ewrop a'r byd.             

"Fe es i allan i bencampwriaethau'r byd yn Rwsia yn bocsio'n dda,"  meddai Eccles. "Fe wnes i drechu rhif pedwar y byd yn fy ngornest gyntaf ac  wedyn colli i rif dau y byd o Tsieina yn yr ail.   

"Roedd yn ergyd enfawr, ond roeddwn i'n teimlo 'mod i wedi perfformio'n dda yn y frwydr honno." Fe aeth ymlaen i drechu pencampwr presennol y byd yn ei gornest nesaf a daeth â medal arian y byd gartref yn y diwedd. Roedd yn ferch dda.     

"Fel y dywedodd pawb ar y diwedd, pe baen nhw wedi ei rhoi i mi (y ddedfryd), ni fyddai unrhyw un wedi gallu dadlau. Pe baen nhw wedi ei rhoi iddi hi,  'fyddwn i ddim wedi gallu dadlau.              

"Fe roddais i gyfri'n sefyll iddi hi yn yr ail rownd, felly roeddwn i'n meddwl y byddwn i wedi cael y penderfyniad, ond fedrwn i ddim cwyno. Roedd yn gystadleuol iawn ac yn ornest agos iawn.  

"Roedd hi'n lletchwith a dweud y gwir - llawchwith, hir, tal. Felly  er nad oes unrhyw focsiwr eisiau colli, o ran perfformiad a chalibr y gwrthwynebydd es i allan iddi, ac ansawdd y ferch wnes i ei churo cyn hynny hefyd, roedd llawer o bethau positif o ran ble rydyn ni yn y cylch  Olympaidd.      

"Fe wnes i frwydro yn erbyn gwrthwynebwyr o'r safon uchaf o'r dechrau a pherfformio'n dda, felly mae'n anffodus ac yn rhwystredig, ond mater o amser yw pethau nawr a gobeithio y daw popeth at ei gilydd."  

Roedd colli ym mhencampwriaethau Ewrop yn anos ei dderbyn.       

"Roedd pencampwriaethau Ewrop yn anodd oherwydd hwnnw oedd fy nghyfle i am le yn y rownd derfynol ac roedd yn glir iawn ei fod yn benderfyniad anghywir.  

"Ond mae dwy ffordd i edrych ar y peth. Os ydych chi'n chwerw, 'wnewch chi ddim dysgu llawer.  

"Hyd yn oed pan rydych chi'n ennill, mae rhywbeth  i'w ddysgu . . . 'fe allwch chi ennill yn well' yw beth rydw i'n ei ddweud wrth bawb. Mae lle bob amser i chwilio am rywbeth y gallwch chi ei wneud yn well.  

"Iawn, efallai na chefais i'r penderfyniad, ond rydw i'n gwella a dyna holl bwrpas bocsio. Chi sy'n gyfrifol a does dim posib rheoli'r beirniaid bob tro.              

"Gobeithio, pan fydd yn amser y gornestau cymhwyso Olympaidd, y daw popeth at ei gilydd ar yr amser iawn."  

Mae'r Gemau Olympaidd yn freuddwyd i Eccles ers amser maith.  Pan ofynnwyd iddi beth fyddai cystadlu yn Tokyo  yn ei olygu iddi, dywedodd: "Dydw i ddim yn gallu rhoi'r peth mewn geiriau."  

Er hynny, mae'n llwyddo i wneud hynny'n berffaith: "Fel plentyn, cyn i mi ddechrau bocsio hyd yn oed, fy mreuddwyd i oedd bod yn Olympiad ac enillydd medal aur  Olympaidd.  Doeddwn i heb ddod o hyd i fy nghamp hyd yn oed!  

"Mae'n teimlo'n afreal bron nawr ei fod yn bosibilrwydd. Mae'n freuddwyd dwy ran, bod yn  Olympiad ac wedyn ennill medal . . .  medal aur.           

"Mae'n bosib, ond mae'n rhaid i chi binshio eich hun a bod â ffocws. Rydych chi'n teimlo mor agos ato ond mae'n rhaid gwneud popeth yn iawn. Byddai'n golygu popeth.        

"Mae llawer o bobl yn anghofio bod gennych chi, fel athletwr, gymaint o bobl sy'n eich  helpu chi ar hyd y daith a byddai'n anhygoel rhoi rhywbeth yn ôl iddyn nhw.     

"Rydych chi'n mynd â phobl gyda chi, maen nhw'n dod yn rhan o'r freuddwyd ac mae'n perthyn iddyn nhw hefyd. Dyna'r hud.  

"Mae Gemau  Olympaidd yn teimlo fel pe bai pawb yn ei rannu. Yr hyfforddwyr i gyd sydd wedi bod yn rhan ohono, yr holl bobl wnaeth i chi ddechrau arni, eich teulu sy'n eich cefnogi chi.  

"Dyna hud y Gemau Olympaidd, mae mor fawr fel bod pawb yn gallu bod yn rhan hefyd. Mae'n rhywbeth arbennig."  

Ni fydd cymhwyso'n hawdd. Dim ond un bocsiwr Prydeinig o bob adran pwysau fydd yn cael ei ddewis i gystadlu yn y cystadlaethau cymhwyso y flwyddyn nesaf.            

Prif elyn  Eccles ym Mhrydain am le yn y  cystadlaethau cymhwyso  yw Sandy Ryan.  Trechodd y Saesnes hi yn y frwydr am y fedal aur yng Ngemau Cymanwlad 2018  ond cafodd Eccles gyfle i ddial yn y Pencampwriaethau  Ewropeaidd a mynd ymhellach ar lefel Byd.  

Meddai  Eccles: "Bocsio yw un o'r campau anoddaf i gymhwyso ynddi ar gyfer y Gemau Olympaidd.  Dim ond un bocsiwr o Brydain Fawr ym mhob pwysau sy'n cael ei ddewis ar gyfer  y cystadlaethau cymhwyso a 'dyw'r bocswyr hynny ddim wedi cael eu cyhoeddi eto.  

"Mae cystadlaethau cymhwyso'r byd yn cael eu cynnal ym mis Mai, ond rydych chi'n gobeithio cymhwyso yn Llundain ym mis Mawrth.           

"Fe gawn ni wybod ar  ddiwedd y flwyddyn yma, neu ddechrau'r flwyddyn nesaf, am y tîm swyddogol sy'n mynd i'r cystadlaethau cymhwyso."  

Cyn hynny, bydd Eccles yn gweithio'n galed yn hyfforddi gartref a thramor fel rhan o sgwad podiwm bocsio Prydain.  

"Cyn y Nadolig, fe fydd gen i wersylloedd hyfforddi yn  Sheffield ac wedyn yn y Flwyddyn Newydd fe fydda' i'n mynd i Golorado  ar gyfer gwersyll Prydain ac efallai y bydd twrnamaint cyn y cystadlaethau cymhwyso, mae'n dibynnu sut bydd pethau'n ffitio. Efallai mai dim ond gornestau a phaffio yn y gampfa gawn ni."  

Mae  Eccles  yn dweud bod y gefnogaeth a gafodd hi i ddechrau gan Chwaraeon Cymru a Bocsio Cymru, a Chyllid y Loteri Genedlaethol yn awr fel rhan o sgwad podiwm Prydain Fawr, wedi bod yn amhrisiadwy - gyda chyllid y Loteri'n  rhoi terfyn ar yr anawsterau cyson i sicrhau cydbwysedd rhwng nifer  o swyddi rhan amser, hyfforddi a'i hastudiaethau yn y brifysgol.    

"Rydw i'n ffodus iawn 'mod i'n cael cyflog nawr a bod fy holl gostau hyfforddi i'n cael eu talu gan y Loteri. Mae wedi trawsnewid pethau'n enfawr, yn enwedig nawr gan fy mod i wedi gorffen fy ngradd.  

"Cynt, roeddwn i'n jyglo cymaint wrth orfod ennill cyflog i dalu fy rhent a 'miliau. Ar ben hynny, roeddwn i'n gwneud gradd fel cymhwyster wrth gefn fel 'mod i'n gallu ennill mwy o arian na dim ond swyddi cyflog isel. Wedyn, roeddwn i'n ymarfer mewn gwersyll llawn bedwar diwrnod yr wythnos ac yn ymarfer bob diwrnod arall o'r wythnos hefyd.            

"Ond nawr, rydw i wedi gorffen yn y brifysgol a does dim rhaid i mi weithio. Rydw i'n dibynnu rhywfaint ar noddwyr hefyd, ond mae'n golygu bod yr holl ffocws yn gallu bod ar hyfforddi nawr. Dyna'r byd o wahaniaeth mae wedi'i wneud."  

Nawr mae Eccles  yn gobeithio y gall elwa yn y cylch bocsio.  "Er na chefais i'r medalau oeddwn i eu heisiau ym mhencampwriaethau'r byd, dyna sut aeth pethau.  

"Dydych chi ddim bob amser yn gallu rhagweld yn y byd bocsio, ond roedd y perfformiadau'n iawn ac mae wedi dechrau talu ar ei ganfed nawr. Mae'n dechrau dangos y fantais o gael digon o amser i hyfforddi."  

Newyddion Diweddaraf

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy

Paneli solar yn rhoi ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae chwyldro ynni gwyrdd ar droed mewn chwaraeon cymunedol yng Nghymru, gyda phaneli solar yn dod yn…

Darllen Mwy