Skip to main content

Digwyddiadau chwaraeon Cymru dros y degawd diwethaf

Gofynnwch i unrhyw banel beirniaid neu gynhyrchydd teledu lunio rhestr enwebu o gyflawniadau chwaraeon dros gyfnod o flwyddyn ac fel rheol byddant yn cwyno am annhegwch y dasg. 

Ond beth os ydych chi'n adlewyrchu ar ddegawd cyfan? Ble mae dechrau a sut mae ceisio crynhoi digwyddiadau gorau'r 10 mlynedd ddiwethaf wrth i'r calendr droi i'r 2020au? 

Dyma rai rheolau sylfaenol i ddechrau. Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr o gyflawniadau chwaraeon mwyaf nodedig a theilwng Cymru rhwng 2010 a diwedd y flwyddyn hon. 

Yn hytrach, procio'r cof yw'r nod. Y proc sydd ei angen efallai i chi gofio ble roeddech chi, a sut oeddech chi'n teimlo, pan wnaeth rai o oreuon y wlad yma gynhyrfu eich enaid chi.

Felly ble oeddech chi pan groesodd y siwmper felen ar olwynion chwim y llinell derfyn ar y Champs-Elysees ar Orffennaf 29, 2018? Hwn oedd y diwrnod pryd gwelwyd Geraint Thomas, y Cymro cyntaf erioed, yn ennill y Tour de France.

Neu a yw'n well gennych chi gofio'n ôl at y cyn-feiciwr gyda'r Maendy Flyers yn gollwng y meic ar ôl ei araith fuddugol, neu wychder aruthrol ei fuddugoliaeth epig yn y cymal ar yr Alpe d'Huez rai dyddiau ynghynt?

Roedd ei ymweliad ar ei feic â Chastell Caerdydd ychydig bach yn fwy sidêt yn nes ymlaen yr haf hwnnw, ond fe heidiodd y tyrfaoedd i'r ddinas gan wneud y diwrnod yr un mor gofiadwy.           

Erbyn y cyfnod hwnnw yn ystod y degawd, wrth gwrs, roedd Cymru wedi hen arfer â gorymdeithiau i groesawu Cymry llwyddiannus gartref.

Efallai mai eich uchafbwynt chi yw prynhawn Gorffennaf 8, 2016, pan deithiodd Chris Coleman a thîm pêl droed Cymru drwy'r dorf i fwynhau'r diolch iddyn nhw am eu cyflawniad anhygoel yn cyrraedd rownd gyn-derfynol Ewros 2016 yn Ffrainc.   

Neu efallai bod eich uchafbwynt chi wedi bod yn ystod y twrnamaint ei hun - yn gwylio gartref ar y teledu, mewn bar, neu ar Gaeau Pontcanna yng Nghaerdydd yn y cwtsh cefnogwyr wrth i Hal Robson-Kanu dwyllo Gwlad Belg gyda'i dro Cruyff syfrdanol a'r gôl a drodd y chwarae yn y rownd gogynderfynol.  

Roedd yn gôl mor dda fel ei bod wedi creu crys T ffrâm wrth ffrâm personol. 

Neu efallai mai'r digwyddiad gorau gennych chi yw'r teimlad dwys, syml hwnnw o lawenydd mawr yn y bariau o amgylch Bordeaux ar y noson y trechodd Cymru Slofacia o 2-1 - a bod yn dyst i ddychweliad Cymru i rowndiau terfynol y twrnamaint ar ôl 58 o flynyddoedd. Yr hyfrydwch pur o fod yn un fricsen yn y Wal Goch gadarn.            

Ond am lawenydd pur, diderfyn, does dim llawer o ddigwyddiadau'n gallu cymharu â'r ferch ifanc, Jade Jones, yn taflu ei gwarchodwr pen i'r awyr ac yn sgipio o amgylch y mat ar ôl ennill aur y taekwondo yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012. Roedd hi newydd drechu Hou Yuzhou o Tsieina yn y rownd derfynol.  

Ond efallai eich bod chi'n fwy parod i edmygu gallu cystadleuol gwir bencampwr. Os felly, efallai ei bod yn well gennych chi gofio'n ôl i'r digwyddiad pan wnaeth yr "Head Hunter" amddiffyn ei theitl Olympaidd bedair blynedd yn ddiweddarach yn Rio de Janeiro - drwy drechu'r Sbaenwraig, Eva Calvo Gomez.

Mae dwy fedal aur Olympaidd yn gryn dipyn o gamp, ac mae Jones hefyd wedi ennill teitl byd eleni, i'w osod ochr yn ochr â'i medalau aur Ewropeaidd yn 2016 a 2018.

Ond os mai aur yw'r lliw sy'n eich cyffroi chi, efallai mai Aled Davies yw eich ffefryn - casglwr medalau gwerthfawr y degawd o bersbectif Cymru.   

Cewch ddewis unrhyw un. Ei aur yng Ngemau Paralympaidd 2012 yn Llundain yn y ddisgen, ac wedyn ei fuddugoliaeth yn y taflu siot yn Rio bedair blynedd yn ddiweddarach. Neu efallai mai un o'r chwe medal aur arall mae wedi'u hennill mewn tair o Bencampwriaethau Para Athletau'r Byd dros y degawd yw eich ffefryn.  

Ac os ydych chi angen un digwyddiad penodol, beth am ei aur Ewropeaidd yn Berlin yn 2018? Fe dorrodd y brês ar ei goes, ond rhoddodd dâp ar y darnau wedi torri ei hun ac ennill eto.

Os ydych chi'n mwynhau buddugoliaethau yn wyneb poen ac adfyd, efallai mai Sam Warburton yn codi tlws y Chwe Gwlad, gyda'i un fraich iach, yn 2012 fydd yn mynd â'ch bryd chi.

Cafodd capten Cymru anaf yn erbyn Ffrainc, ond 'wnaeth hynny ddim ei atal ef na thîm Warren Gatland rhag ennill y cyntaf o ddwy Gamp Lawn yn ystod y degawd yma - gyda'r llall yn digwydd eleni.    

Roedd hefyd yn gwneud rhywfaint o iawn am anfon Warburton o'r cae yn erbyn Ffrainc yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd 2011 - ond, i rai, nid yw hyd yn oed trosgais Dan Biggar i ennill y gêm yn erbyn Lloegr yng Nghwpan y Byd 2015, na chyrraedd y rownd gyn-derfynol yn y twrnamaint eto eleni, wir yn gallu gwneud iawn am y cyfle a gollwyd yn 2011.

Efallai mai Cymro yng nghrys y Llewod yw eich dewis chi. Fe allech chi dynnu sylw at fuddugoliaeth Alun Wyn Jones fel arweinydd yn y trydydd Prawf i benderfynu ar y canlyniad yn erbyn Awstralia yn 2013, neu ymdrechion chwaraewr y gyfres, Jonathan Davies, yn y gyfres yn erbyn Seland Newydd yn 2017.

Wedyn, mae digwyddiadau unigol sydd wedi cael sylw ym mhob cwr o'r byd - fel yr ergyd ragorol gan y golffiwr o Gymru Jamie Donaldson a laniodd ger y faner i gipio Cwpan Ryder 2014 i Ewrop yn Gleneagles, neu'r gic dros ei ben i herio disgyrchiant gan Gareth Bale i sicrhau buddugoliaeth i Real Madrid yn erbyn Lerpwl yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2018.

Wedyn, roedd y gôl honno a benderfynodd ar wobr ariannol fwyaf y byd pêl droed - gôl wych Scott Sinclair yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley a aeth â Dinas Abertawe i'r Uwch Gynghrair yn 2011 mewn buddugoliaeth o 4-2 yn erbyn Reading.

Neu'r rheolwr Malky Mackay yn chwifio pan enillodd Dinas Caerdydd deitl y bencampwriaeth yn 2013 a sicrhau dyrchafiad, neu Neil Warnock yn ysgwyd ei ddwrn i ddathlu'r un peth yn 2018.

Neu beth am ddigwyddiadau'n newid y drefn, fel yr arbedion gan Laura O'Sullivan dros Gymru yn erbyn Lloegr yn 2018 a aeth â'i thîm ar siwrnai a ddaeth i ben o drwch y blewyn i rowndiau terfynol Cwpan y Byd, gan newid proffil pêl droed merched yn y wlad.          

Heb gael eich darbwyllo gan yr un o'r rhain? Os felly, beth am y canlynol: medalau aur Paralympaidd Mark Colbourne a Josie Pearson yn 2012; buddugoliaeth Non Stanford i gipio teitl triathlon y byd yn 2013; medalau aur Gemau'r Gymanwlad Frankie Jones, Natalie Powell, Jazz Carlin a Georgia Davies yn 2014, wedyn Alys Thomas; aur Elinor Barker yng Ngemau'r Arfordir Aur yn 2018; aur mewn hwylio i Hannah Mills yng Ngemau Olympaidd Rio; a'r un lliw i'r beiciwr Owain Doull yn Rio.

Neu beth am bedair medal aur Becky James ym mhencampwriaethau beicio trac y byd yn 2013; y bocsiwr Lee Selby yn dod yn bencampwr byd yn 2015; trebl Devils Caerdydd yn 2017; medal gyntaf Cymru yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf i Laura Deas yn 2018; neu Mark Williams yn ailafael yn y ciw i ddod yn bencampwr snwcer y byd eto y llynedd.       

Ond os mai rhamant a dagrau sy'n eich symud chi, beth am hyn?   

Roedd gan Gilbert Miles, a oedd yn 72 oed ar y pryd, un bowl ar ôl i sicrhau bod Cymru'n cael medal yn y parau B2/B3 cymysg i gystadleuwyr â nam ar y golwg yng Ngemau'r Arfordir Aur yn 2018.

Gofynnodd beth oedd y llinell, cymerodd anadl ddofn a rholiodd yn berffaith i sicrhau lle i Gymru ar y podiwm.

Wrth gwrs, nid ar ddamwain mae'r holl weithgarwch yma'n digwydd - a'r atgofion mae'n eu creu. Mae trefnu a chefnogaeth y tu ôl i'r llenni, rhywbeth y mae Brian Davies, prif weithredwr dros dro Chwaraeon Cymru, yn barod iawn i'w gydnabod.

"Mae wedi bod yn gyfnod o lwyddiant digyffelyb," meddai Davies.

"Diolch i'w talent a'u hymrwymiad nhw, mae athletwyr a hyfforddwyr Cymru wedi creu cymaint o uchafbwyntiau a fydd yn aros yn y cof am hir. Os oeddech chi'n bresennol mewn digwyddiad ac yn gwylio'r ddrama wrth iddi fynd yn ei blaen, neu o flaen sgrin eich teledu gartref, bydd gan bawb ddigwyddiad cofiadwy mae wedi'i fwynhau.             

"Wrth adlewyrchu ar yr holl ddigwyddiadau yma, ac edrych ymlaen at y llwyddiant sydd i ddod yn y dyfodol yn ystod y degawd nesaf gobeithio, mae'n bwysig cofio effaith arwyddocaol y Loteri Genedlaethol, ochr yn ochr â chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ar gefnogi chwaraeon yng Nghymru.

"Ers iddi ddechrau yn 1994, mae £309m o gyllid y Loteri Genedlaethol wedi cael ei fuddsoddi mewn bron i 26,000 o brosiectau chwaraeon yng Nghymru. Mae mwyafrif helaeth y prosiectau hynny, mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad, yn darparu chwaraeon ar lawr gwlad i bobl yn eu hardaloedd lleol bob diwrnod o'r wythnos, gan alluogi pawb i fwynhau manteision chwaraeon ble bynnag maen nhw'n byw.

"Mae'r genhedlaeth o athletwyr sydd wedi cyflawni cymaint o lwyddiant yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf wedi elwa o'r buddsoddiad enfawr hwnnw, o gyfleoedd chwaraeon gwell ar lawr gwlad i gyfleusterau o safon byd fel y Pwll Cenedlaethol yn Abertawe, y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol yng Nghaerdydd a'r Felodrom Cenedlaethol yng Nghasnewydd - a'r cyfan wedi'u cyllido diolch i'r Loteri Genedlaethol.

"Heb chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a'u cefnogaeth i chwaraeon, ni fyddai llawer o'n llwyddiant diweddar ni wedi bod yn bosib ac ni fyddai chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru wedi cael yr effaith bositif mae wedi'i chael."

Ar hyn o bryd mae Chwaraeon Cymru yn gwahodd cefnogwyr chwaraeon ar hyd a lled y wlad i helpu i benderfynu ar y digwyddiad mwyaf cofiadwy yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf. Cadwch lygad am gystadleuaeth cwpan #DegawdChwaraeonCymru sy'n cael ei chwarae ar gyfrifon twitter, facebook ac Instagram Chwaraeon Cymru yn ystod mis Rhagfyr.   

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy