Dim ond newydd ddychwelyd at hyfforddi oedd y fenyw 35 oed, ar ôl rhoi genedigaeth i’w merch, pan oedd ei phroblemau cefn mor ddifrifol fel bod rhaid iddi gael llawdriniaeth i uno’r esgyrn yn asgwrn ei chefn.
Dywedodd meddygon wrthi nad oedd yn debygol o gystadlu eto, ond roedd y tân yn ei bol o hyd – nid cymaint dros gystadlu, ond dod dros yr anaf er mwyn gallu rhedeg, nofio a beicio eto, a chadw’n iach.
Ond pan ddaeth Max, fe deimlodd yr athletwraig o Ben-y-bont ar Ogwr – sy’n cael ei hyfforddi gan ei gŵr a thriathletwr rhyngwladol arall, Marc – y poenau yn ei chefn yn cilio.
Ac felly, ddechrau mis Chwefror – fwy na thair blynedd ers ei thriathlon diwethaf – cystadlodd Jenkins yng nghystadleuaeth Dyn Haearn Dubai 70.3. Cwblhaodd y cwrs a hefyd gorffennodd yn bumed mewn criw safonol iawn.
“Pan gefais i lawdriniaeth ar fy nghefn ddechrau 2018, nid cystadlu oedd y flaenoriaeth – ond gallu byw bywyd egnïol,” meddai Jenkins.
“Rydw i wrth fy modd yn ymarfer a chymryd rhan mewn chwaraeon, felly os nad oeddwn i’n mynd i allu cystadlu eto, roeddwn i eisiau gallu ymarfer – mynd ar fy meic ac i redeg. Dyna beth rydw i wedi hoffi ei wneud erioed.
“Nid cystadlu sydd wedi bod yn ffocws i fy meddwl i yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond sut mae fy nghefn i a chael bod yn egnïol.
“Roedd cystadlu wastad yn mynd i fod yn fonws. Ar ôl y llawdriniaeth, roedd yn annhebygol iawn y byddwn i’n cystadlu eto, felly mae’n ychwanegiad enfawr.”
Jenkins oedd triathletwraig orau’r byd yn 2008 a 2011, ond ar ôl bod allan o’r gamp cyhyd, mae hi ormod y tu ôl i’w holl wrthwynebwyr i fod â gobaith o fod yn aelod o dîm Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo yr haf yma.
Yn hytrach, mae ei dychweliad yn debygol o ganolbwyntio am nawr ar bellter cystadlaethau Dyn Haearn, lle mae’r calendr yn fwy hyblyg ac mae’n gallu dewis ei rasys wedyn.
“Un o’r rhesymau dros ddewis pellter mwy oedd bod llai o bwysau gyda hynny. Pan rydych chi’n cystadlu ar bellter Olympaidd mae llawer mwy o bwysau a ffocws.