Bob tro mae pob un ohonom ni’n camu ar gae hyfforddi 3G yn lle tomen o fwd, ac yn cydio mewn ffon golff carbon ffibr, neu raced tennis heb ei wneud o bren mwyach, rydyn ni’n elwa o ddatblygiadau technolegol mewn chwaraeon. 

Heddiw fe allwn ni fesur ein cyflawniadau parkrun gydag oriawr glyfar, ein dosbarth sbin ar gyfrifiaduron bach, neu gymalau’r Tour De France ar sgriniau yn ein hystafell fyw, a hyd yn oed archebu cyrtiau pêl rwyd, sboncen neu dennis ar ffôn clyfar cyn codi o’r gwely yn y bore.       

Ond beth yw’r cyfyngiadau? Pwy sy’n gallu sicrhau cae chwarae teg? Ac os yw technoleg yn ddrud, ac wedi’i chyfyngu felly i rai, sut mae’n cyd-fynd â’r syniad o chwaraeon i bawb?   

Yn y byd golff, mae’r ddadl dros dechnoleg wedi cyrraedd croesffordd yn ôl pob tebyg wrth i weithgynhyrchu soffistigedig ar ffyn a pheli alluogi i sêr mwyaf y byd chwaraeon yrru’r bêl fwy na 300 llath erbyn hyn. 

Mae’n ymddangos bod Adroddiad diweddar y Prosiect Dirnadaeth Pellter gan yr awdurdodau golff wedi eu darbwyllo ei bod yn amser gweithredu. Yr awgrym yw bod sgiliau yn awr yn cael eu tanseilio gan bŵer pur technoleg.

James Thie yw prif hyfforddwr rhedeg pellter canol a hir Cymru. Ymhlith ei stabl o redwyr elitaidd, mae llawer yn defnyddio Nike Vaporfly eisoes – sy’n gyfreithlon o hyd – rhagflaenydd i’r Alpha Fly, sydd wedi’u gwahardd. 

Mae’r ddwy esgid redeg yn cynnwys plât carbon yn y gwadn, a hefyd sbwng technoleg uchel sy’n darparu effaith garlamu o yrru’r rhedwr yn ei flaen i’w gam nesaf. 

Mae Alpha Fly Kipchoge wedi cael ei gwahardd fel esgid gan fod y gwadn yn fwy trwchus na 40mm. Dim ond aelodau o fandiau teyrnged glam roc y Saithdegau sy’n gallu gwisgo platfforms mwy, yn ôl pob tebyg. 

Mae Thie yn cyfaddef bod ganddo rai pryderon am y ffordd mae technoleg yn dylanwadu ar redeg, ac yn amharu ar recordiau presennol o gymharu â’r gorffennol, ond mae hefyd yn amheus o reolau llawdrwm mewn oes lle mae brandiau cŵl yr olwg wedi rhoi hwb mawr i redeg. 

Mae hefyd yn nodi bod datblygu esgidiau’n chwarae rhan fawr mewn lles athletwyr drwy atal anafiadau rhedeg.   

“Mae’n anodd edrych a dweud, “Mae hyn yn ofnadwy. Beth am fynd yn ôl at yr hen esgidiau,’” meddai Thie, darlithydd mewn hyfforddiant a pherfformiad chwaraeon ym Met Caerdydd a chyn arbenigwr 1500m o safon byd.

“Ble mae tynnu’r llinell gyda thechnoleg? Fe wnes i weithio i weithgynhyrchydd esgidiau am flynyddoedd. Mae gan unrhyw esgid rydyn ni’n ei gwisgo ryw fath o dechnoleg.

“Rydyn ni wedi defnyddio technoleg esgidiau i gywiro dull rhedeg ers blynyddoedd – er enghraifft, mae pobl sy’n gor-bronadu yn gwisgo esgid strwythuredig.         

“Ond y cwestiwn ydi pa mor bell mae’r dechnoleg yn datblygu fel ei bod yn amhosib ei rheoli wedyn? Mae’n rhaid cael canllawiau, fel pob camp. Beth yw’r terfyn uchaf a beth sy’n annheg? Rhaid cael ffiniau synhwyrol.”

 

Dylai unrhyw un sydd ag amheuon am fanteision esgidiau Nike ystyried y ffaith bod rhedwyr sy’n defnyddio Vaporfly wedi cymryd 31 o’r 36 o’r tri safle uchaf mewn prif farathonau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

Mae gweithgynhyrchwyr eraill yn brysur yn gweithio ar eu fersiynau eu hunain yn barod ar gyfer y Gemau Olympaidd, ond nid yw rhai athletwyr yn gallu aros ac maen nhw wedi gwisgo esgidiau Nike a gosod logo eu noddwyr eu hunain ar ben y tic enwog yna.             

Mae Thie yn rhybuddio rhag ymateb yn fyrbwyll fel hyn ac yn ychwanegu: “Wrth gwrs, y peth am athletau yw y dylai fod am natur gorfforol rhywun a’r ymarfer mae’n ei wneud.             

“Ond hefyd mae’r ochr o wneud rhedeg yn cŵl ac ennyn diddordeb pobl mewn rhedeg yn bwysig. Mae technoleg esgidiau wedi gwneud hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae pobl yn siarad amdano. 

“Ar un ochr, mae perfformiadau’n gwella ac ni fyddai hynny’n digwydd fel arall. Ar yr ochr arall, mae mwy o bobl allan yn rhedeg. Mae bwrlwm am redeg a does neb yn rhedeg i fynd yn arafach. 

“Mae rhedeg mewn rhywbeth sy’n mynd i wneud i chi redeg ar eich gorau’n mynd i fod yn atyniadol. 

“Yr hyn welson ni gyda’n rhedwyr ni yw nad yw’n eich gwneud chi’n gyflym iawn dros nos o angenrheidrwydd, ond mae’n hybu’r math o redeg rydych chi eisiau – bownsio ac ar flaen eich traed, a syrthio i mewn i’r trawiad troed nesaf, sef sut mae’r esgid wedi cael ei chynllunio. 

“Mae’r glustog yn lleihau blinder ac yn golygu y gallwch chi ddal ati’n dda am gyfnod hirach. Felly mae rhedwyr yn gallu cael y perfformiad gorau un. Mae pobl yn hyfforddi mwy ac mae mwy o bobl yn cymryd rhan mewn rasys mwy.           

“Hefyd mae’n ymddangos bod y glustog ychwanegol yn helpu gydag anafiadau, felly dyma fantais arall. Yn yr hen ddyddiau, roeddech chi’n cysylltu cymaint gyda’r concrid fel bod y pengliniau a’r fferau’n dioddef.”

Ond gyda rhedeg wrth droed y mynydd nawr o ran rasys technolegol, mae beicio wedi bod mewn mynyddoedd sy’n cael eu rheoli gan gyfrifiaduron ers blynyddoedd. 

Mae chwyldro wedi bod mewn technoleg beiciau ac nid yw technoleg yn ymwneud â dim ond paratoadau deiet mwyach, a biomecaneg beicio, a’r rhaglenni meddygol ar gyfer adferiad beicwyr – mae yno, yng nghanol y ras, gyda’r defnydd o fetrau pŵer soffistigedig 

Nid yw beicwyr fel Geraint Thomas yn teimlo’n flinedig mwyach. Maen nhw’n gweld union fesur eu blinder ar sgrin yn fflachio mewn amser real yn ystod ras.       

Yn anochel, mae gwrthwynebiad wedi dod i’r amlwg ac, yn ddiweddar, dywedodd Luca Scinto, rheolwr tîm Vini Zabù-KTM, ei fod yn gwahardd metrau pŵer o feiciau ei feicwyr. 

"Mae gan y beicwyr obsesiwn â watts. Maen nhw’n gadael iddo ddylanwadu gormod arnyn nhw. Wrth hyfforddi, mae’n beth da defnyddio metr pŵer ond nid mewn ras. Rydw i eisiau i fy meicwyr i feddwl yn rhydd eto," meddai Scinto.

Mae gan Thie amheuon am ddadansoddiad amser real fel cam rhy bell.       

“’Fyddwn i ddim eisiau i’n camp ni fynd felly. Mae purdeb o hyd mewn athletau o ran eu bod nhw’n ymwneud â bod yn gyflymach, cryfach, uwch, ond wedyn mae’n rhaid i’n camp ni berthyn i’r 21ain ganrif. 

“Mae technoleg yn beth positif, ond mae’n rhaid i chi fod yng ngofal y rheoliadau. Mae ein camp ni’n gweiddi am symud oddi wrth gyffuriau oherwydd ni yw un o’r campau sydd wedi cael eu niweidio fwyaf.”

Ond nid dim ond mewn chwaraeon elitaidd mae technoleg yn cael effaith fawr. Ac nid oes raid i’r stori dechnoleg ddechrau yn y pen elitaidd ac wedyn treiddio i lawr i’r torfeydd.           

 

Mae Tennis Cymru yn elwa o ddatblygiad a allai arwain at gyrtiau sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n well a mynediad symlach ar gyfer y rhai sydd eisiau chwarae – diolch i rwydwaith archebu ar-lein.

Mae system ClubSpark yn cael ei threialu mewn rhannau penodol o Gymru i alluogi pobl i archebu gêm o dennis ar eu ffôn drwy ap. Rydych chi’n cyrraedd, mynd i mewn drwy giât ddiogel gyda chod, a hyd yn oed yn rheoli’r llifoleuadau – os oes rhai yno. 

Wedi’i datblygu gan Sportslab Technology, mae rhai clybiau tennis wedi bod yn defnyddio’r system ers peth amser, ond nawr mae Tennis Cymru wedi ei defnyddio mewn cyrtiau cyhoeddus, yn aml mewn parciau lle mae mynediad wedi bod yn broblem.

Dywedodd Simon Johnson, prif weithredwr Tennis Cymru: “Rydyn ni’n ceisio moderneiddio ein rhwydwaith cyfan. 

“Ym Mharc y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi gweld tua 1,600 o bobl yn lawrlwytho’r ap ac yn ei ddefnyddio i archebu cyrtiau ar eu ffôn. Felly rydyn ni’n defnyddio technoleg mewn ffordd bositif i ymestyn cyfleoedd chwarae.   

“Rydyn ni wedi dewis tua 17 parc arall ledled Cymru nawr lle rydyn ni’n sgwrsio gydag awdurdodau lleol eraill am ddarparu’r profiad hawdd yma i bobl sydd eisiau chwarae.       

“Cyrtiau yw’r rhain lle’r oedd y giatiau’n arfer cael eu gadael ar agor, pobl yn mynd â chŵn am dro yno, a doedden nhw ddim wir yn cael eu defnyddio.         

“Mae’n golygu y gallwch chi dalu tair neu bedair punt, archebu cwrt ar eich ffôn, bydd y giât yn agor ac wedyn yn cau tu ôl i chi, ac wedyn fe allwch chi chwarae eich gêm. Mae posib cadw’r cwrt mewn cyflwr da ac mae’n gwneud tennis yn hygyrch.

“Rydyn ni wedi ceisio defnyddio’r gŵyn gyffredin mai ar eu ffôn mae plant o hyd i weld hynny fel rhywbeth positif. Yn yr un ffordd ag y mae tocynnau sinema, neu westai neu hediadau awyren yn cael eu harchebu, rydyn ni’n ceisio gwneud chwarae tennis mor syml â hynny.”

Ymhlith yr arloesi technolegol diweddar arall yn y byd tennis mae pyst rhwydi clyfar sy’n gallu mesur ac asesu perfformiad chwaraewr neu gyflymder serf, ac waliau taro rhyngweithiol y gellir eu defnyddio i roi mynediad newydd i’r gamp i bobl. 

Mae datblygiadau diweddar eraill mewn technoleg wedi’u hanelu lai at berfformiad neu hygyrchedd, gan ymwneud mwy â lles athletwyr.           

 

Aeth asgellwr Cymru, George North, drwy gyfnod yn ei yrfa rygbi rai blynyddoedd yn ôl pryd bu iddo ddioddef o sawl cyfergyd – maes sydd wedi dod yn broblem fwyaf y gamp erbyn hyn mae’n debyg.

Roedd North yn chwarae i’r clwb o Loegr, Northampton, ar y pryd, ond ers iddo ddychwelyd i Gymru i chwarae i’r Gweilch, mae wedi bod yn rhan o raglen arloesol sy’n defnyddio gwarchodwr dannedd arbennig i fonitro pa mor agored yw chwaraewr i niwed anafiadau i’r pen. 

Wedi’i datblygu gan dîm ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe, mae system PROTECHT yn defnyddio synwyryddion yng ngwarchodwr y geg i fesur difrifoldeb ergyd ar y cae.             

Mae’n golygu y gall maint ergyd fawr i North – neu unrhyw chwaraewr arall gyda’r Gweilch – gael ei gweld gan ddadansoddwyr sy’n defnyddio gliniadur ar y llinell ochr. Y meddygon sy’n rhoi diagnosis o gyfergyd posib o hyd, ond mae’r data’n golygu bod modd mesur effeithiau mawr a gweithredu yn unol â hynny – yn enwedig lle mae gan chwaraewr hanes o anafiadau cyfergyd o bosib.           

Meddai North: “Mae’n ddatblygiad gwych, mae’r gwarchodwr yn y geg yn teimlo fel pob un arall, ond eto mae’n darparu gwybodaeth werthfawr iawn.       

“Mae pawb yn y gêm yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch gydag anafiadau pen wrth gwrs, a pho fwyaf o wybodaeth sydd gan y staff meddygol, y gorau.

“Rydw i’n meddwl pe bai ar gael pan gefais i broblemau rai blynyddoedd yn ôl y byddai wedi helpu yn sicr gyda dadansoddi beth oedd yn digwydd. 

“Rydw i’n meddwl ei fod yn wych. Yn y diwedd bydd yn mynd allan i rygbi ar lawr gwlad ac mae’r adborth yn mynd i fod yn enfawr.”

Mae’r posibilrwydd o dechnoleg sy’n treiddio i bob maes mewn chwaraeon – a heb fod yn gyfyngedig i rai – yn ymddangos yn hanfodol. Mae hynny yr un mor wir am ddatblygiadau mewn diogelwch â gwella perfformiad.                   

Fel mae Thie yn dweud: “Does dim byd yn aros yr un fath am byth – yn enwedig mewn chwaraeon. 

“Ond yr hyn sy’n allweddol yw bod technoleg ar gael i bawb, yn cael ei rheoli a bod rheoliadau’n bodoli.”

Cynhyrchwyd yr erthygl mewn partneriaeth â Dai Sport.