Skip to main content

Y ffordd amgen o gymryd rhan mewn chwaraeon

Erthygl mewn cydweithrediad â Dai Sport.

Mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i gymhelliant yn ystod misoedd y gaeaf wrth geisio dal ati i fod yn egnïol ac yn iach yng Nghymru a hithau’n wlyb, oer a gwyntog. 

Felly, estynnwch am feiro a dyddiadur a chylchu rhai o’r dyddiadau yma fel uchafbwyntiau i gymryd rhan ynddyn nhw yn ystod y misoedd sydd i ddod. 

Mae gan Gymru ddigon i’w gynnig – yn gwylio neu’n cymryd rhan – o ddycnwch y cystadlaethau Dyn Haearn yn Ninbych-y-pysgod i’r llwybr Ras Cwningod hwyliog dros dwyni tywod Merthyr Mawr, neu wallgofrwydd Pencampwriaethau Snorcelu Cors y Byd yn Llanwrtyd.

Does dim rhaid i chi fod yn driathletwr o safon byd fel Non Stanford, na bod ag uchelgais i redeg y marathon yng Ngemau Olympaidd Tokyo eleni, fel Dewi Griffiths. Fe all unrhyw un gymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n darparu ar gyfer pob talent a chwaeth.                           

Os ydych chi jyst eisiau cael blas ar ryw fath o weithgaredd trefnus, fe allai Parkrun fod yn fan cychwyn da gan fod y mudiad yn trefnu rasys 5km i bob oedran a gallu ledled Cymru.                 

 

Mae tua 30 o leoliadau mewn parciau ac ar lwybrau ar hyd a lled y wlad ac maen nhw i gyd am ddim. Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw cofrestru ar-lein ymlaen llaw yn https://www.parkrun.org.uk/ ac wedyn i ffwrdd â chi. 

Mae’n gallu bod yn gymdeithasol neu’n weithgaredd i chi ei fwynhau ar eich pen eich hun. Chi sydd i ddewis. Rhowch eich clustffonau i mewn a’ch sbectol haul dros eich llygaid ac wedyn troi am adref ar ôl croesi’r llinell derfyn os mai dyna sy’n mynd â’ch bryd chi. Neu mae cyfle i rannu coffi ar ôl y ras gyda’r rhedwyr eraill a thrafod goreuon personol neu bengliniau gwan. 

Fe allwch chi gerdded yn lle rhedeg, cymysgedd o redeg a cherdded, a hefyd mwynhau cefn gwlad hardd Cymru, fel Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn Colby, Gwarchodfa Natur yr RSPB yng Nghyffordd Llandudno, Conwy, neu lwybr yr arfordir ym Mae Abertawe.

Os yw 5k yn swnio’n ormod o her, hyd yn oed yn cerdded, beth am gynhesu gyda ras hwyl 2k i’r teulu. Mae Ras Hwyl 2k Bae Caerdydd i Deuluoedd yn cael ei chynnal ddydd Sul Mawrth 29, gan ddechrau yn y Senedd, cyn 10k Bae Caerdydd. 

Ac os mai 10k yw’r pellter rydych chi’n ei hoffi, mae’r calendr yng Nghymru’n cynnig digon o ddewis. Yn ystod y tri mis nesaf yn unig, mae 5k a 10k Rhuthun (Chwefror 23) yn cael eu cynnal, Ras Dewi Sant (Chwefror 29), 10k Ynys Môn (Mawrth 1), y Llwybr Ysbrydoli ym Merthyr (Mawrth 8), 10k Sir Ddinbych (Mawrth 8), 10k y Red Warrior ym Mhen-bre (Mawrth 15), 10k Aberteifi (Mawrth 29) a 10k Llwybr Llangollen (Mai 3).

Os yw hyn i gyd yn ymddangos braidd yn ddiflas i chi, a chyffredin, ac os ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy ... gwreiddiol, lle bydd mwd a bryniau’n profi eich dycnwch chi, beth am roi cynnig ar y Ras Cwningod – llwybr 7.5 milltir ym Merthyr Mawr, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r rhedwyr yn mynd drwy gaeau, ar hyd ffyrdd ac wedyn coetir, cyn troi am y llwybrau bryniog ac wedyn drwy’r twyni tywod enfawr, cyn croesi Afon Ogwr – at eich pengliniau mewn dŵr. 

Mae ras teulu a phlant bach wedi’u cynnwys, i sicrhau digon o hwyl, ac mae’r digwyddiad eleni’n cael ei gynnal ar Fehefin 20.

Os mai nofio sy’n mynd â’ch bryd chi ac os ydych chi’n teimlo’n ddewr, beth am fentro cymryd rhan yn Ras Nofio Cymru ar Chwefror 29 yn Llanberis.

Rhaid magu plwc, cofiwch – ac mae angen bod wedi paratoi drwy nofio mewn dŵr oer ymlaen llaw. Ond os ydych chi wedi rhoi cynnig ar drochi mewn dŵr awyr agored yn ystod misoedd oeraf y gaeaf, ewch draw i Lyn Padarn lle bydd y golygfeydd o’r Wyddfa yn cynhesu eich calon chi o leiaf! 

Mae rasys unigol 50m, 100m a 250m yn cael eu cynnal, a her ddygnedd galed 500m, gyda gwobrau i’r enillwyr. Mae posib gwisgo siwtiau gwlyb ond chewch chi ddim ymgeisio am wobrau wedyn, sydd ar gyfer y rhai dewrach na hynny! 

Fe allai hyn eich arwain chi tuag at fwy o nofio ac – os oes gennych chi fwy o gefndir rhedeg – fe allai eich cyfeirio chi at driathlon.

Mae digwyddiadau addas ar gyfer y rhai sydd eisiau cael eu cyflwyno i’r gamp, fel Aquathlon Harlech ar Fawrth 22.

Nofio 400m braf ym mhwll Harlech ac wedyn ras 5k ar hyd y traeth – jyst y peth i’ch rhoi chi ar y llwybr i ddilyn cewri’r byd triathlon yng Nghymru fel Stanford a Helen Jenkins.

Ar ôl i chi ddal y byg nofio a rhedeg, fe allwch chi berffeithio eich sgiliau beicio yn y Tour de Shane ar Fawrth 29. Ras 50 milltir – neu 70 – o amgylch Sir Benfro, wedi’i henwi ar ôl un o gewri’r byd rygbi, Shane Williams, ac yn dechrau yn Nhyddewi.

Efallai y bydd hynny’n eich ysbrydoli chi i anelu’n uwch a chyn pen dim, fe allech chi fod yn barod am ddigwyddiadau cymryd rhan mwyaf ac anoddaf Cymru yn ystod yr haf – y Penwythnos Cwrs Hir a Dyn Haearn Cymru, dwy gystadleuaeth yn Ninbych-y-pysgod, sy’n cael ei hadnabod nawr fel y “Dref Haearn” gan y New York Times dim llai. 

Y Penwythnos Cwrs Hir sy’n cael ei gynnal gyntaf, ar Orffennaf 3-5. Mae’n cynnwys nofio, beicio a rhedeg pellter amrywiol – ar gyfer pob lefel a gallu – tra mae’r athletwyr elitaidd yn paratoi ar gyfer nofio 2.4 milltir, 112 milltir ar y beic a marathon 26.1 milltir.     

Os cewch chi flas, dewch yn ôl am fwy ar Fedi 6 a Dyn Haearn Cymru. Mae’n 10fed pen blwydd y gystadleuaeth eleni a bydd miloedd ar strydoedd y dref, ac i lawr ar y traeth, i wylio mwy na 2,000 o athletwyr o bob cwr o’r byd.     

Neu efallai bod triathlon dyn haearn dal braidd yn ... chi’n gwybod ... rhy gall.

O felly, ewch draw i Lanwrtyd ar Awst 30 ar gyfer Pencampwriaethau Snorcelu Cors y Byd. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar gors Waen Rhydd ar gyrion y dref, sy’n dechrau tua 10am.

Maen nhw’n hoffi pethau rhyfedd yn Llanwrtyd, lle maen nhw hefyd yn cynnal y ras draws gwlad 22 filltir flynyddol Dyn v Ceffyl ar draws Mynyddoedd y Cambrian. Mae’n cael ei chynnal ar Fehefin 13.

Mae rhywbeth at ddant pawb ar gael.         

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy