Skip to main content

Y clwb gwych o Gymru sy’n gwneud dim byd ond ennill

Erthygl mewn cydweithrediad â Dai Sport.

Dydi rhedeg clwb chwaraeon ffyniannus ddim yn dasg hawdd, ond dylai unrhyw un sy’n chwilfrydig am weld sut beth yw llwyddiant ymweld ag Academi Gymnasteg Valleys. 

Ar barc diwydiannol rhwng Crymlyn ac Oakdale yng Nghymoedd Gwent, mae’r clwb yn edrych fel cymaint o rai eraill – uned fasnachol ar rent wedi’i haddasu yn gyfleuster chwaraeon, gyda ffrwd brysur o rieni’n cludo plant i’r maes parcio, a loris mawr bob ochr iddo’n gwasanaethu’r adeiladau gerllaw. 

Ond efallai mai hwn yw’r clwb chwaraeon unigol gyda’r cyfranogiad mwyaf yng Nghymru, gyda bron i 3,000 o aelodau’n chwarae, 95 o weithwyr a saith lleoliad ar draws pump o awdurdodau lleol. 

Mae’n gyflawniad sy’n tynnu sylw pawb yn y byd gymnasteg yn y DU, ac er ei bod yn gynnar yn y flwyddyn, mae Academi Gymnasteg Valleys (VGA) eisoes yn dathlu dwy wobr a rhagor o enwebiadau.           

 

Cipiodd y clwb ddwy wobr anrhydeddus yn Noson Wobrwyo Genedlaethol Gymnasteg Prydain – gan ddod yn gyntaf yn y categori clwb cenedlaethol (ar gyfer y rhai ag aelodaeth dros 250) a hefyd ennill y wobr genedlaethol ar gyfer cydraddoldeb a chynhwysiant, am weithio’n gyson yn y gymuned a darparu cyfleoedd ar gyfer grwpiau a dangynrychiolir.  

Mae’r clwb wedi cael ei enwebu ar gyfer teitl “clwb y flwyddyn” bedair gwaith yn flaenorol ac meddai’r rheolwr gyfarwyddwr, y prif hyfforddwr a chydsylfaenydd y clwb, Melissa Anderson: “Rydyn ni’n teimlo’n falch iawn ac ar ben ein digon.  

“Rydyn ni wedi ennill gwobr clwb y flwyddyn Gymnasteg Cymru ddwywaith yn y gorffennol, ond dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw glwb arall o Gymru wedi cyrraedd y rhestr fer erioed ar gyfer gwobr Prydain Fawr.  

“Mae ennill, ac ennill y wobr am gydraddoldeb a chynhwysiant, yn golygu mai ni yw’r unig glwb i ennill dwy wobr yn yr un gystadleuaeth.  

“Rydw i’n gwybod pa mor galed mae pawb yn gweithio a faint maen nhw eisiau darparu cyfleoedd yn y gymuned. Mae’n hyfryd cael cydnabyddiaeth am hynny fel tîm. Roedd llawer o glybiau eraill wedi dweud wrthyn ni eu bod nhw’n gobeithio y bydden ni’n ennill, felly roedd yn wych.”

Gyda dwy wobr wedi’u cipio, cafodd y clwb ei enwebu yn ddiweddar hefyd ar gyfer gwobr y sefydliad cymunedol yn y Gwobrau Amrywiaeth Cenedlaethol, a gynhaliwyd ar y cyd ag ITV News.

Felly sut beth yw llwyddiant i glwb sydd hefyd yn fenter gymdeithasol? Beth all clybiau gymnasteg eraill – a chwaraeon eraill – ei ddysgu gan VGA?

Brwdfrydedd diddiwedd, gwaith caled, penderfyniad, synnwyr cyffredin a rhai egwyddorion tryloyw yn arwain y gwaith ac yn ysbrydoli staff, gwirfoddolwyr ac athletwyr yw trefn y dydd yn ôl pob tebyg.  

Mae VGA yn cyllido ei hun. Nid yw’n cael hwb ariannol rheolaidd gan gyrff rheoli, awdurdodau lleol na noddwyr. Ac mae wedi bod felly ers iddo gael ei sefydlu 15 mlynedd yn ôl ar ôl uno clwb yn Abertileri ag un arall yng Nglynebwy.                                        

Mae’n torri ei gwys ei hun ac yn gwneud ei benderfyniadau ei hun. Mae wedi gwneud defnydd achlysurol o grantiau ar gyfer offer a chyfleusterau – ond gan fwyaf, mae gweithrediadau’r clwb yn seiliedig ar yr un model â’r rhan fwyaf o dimau pêl droed a rygbi – tanysgrifiad aelodau.  

Mae’n ymddangos mai’r gyfrinach yw creu profiad mor bleserus – ar gyfer y rhai â breuddwydion gymnasteg elitaidd yn ogystal â’r rhai sy’n chwilio am gyfeillgarwch a hwyl – fel bod yr aelodau (neu eu rhieni’n amlach na pheidio) yn fodlon cyfrannu.    

Cerddwch i mewn i’r gampfa drefnus ym mhrif ganolfan y clwb yn Uned 3H ar Stad Ddiwydiannol Croespenmaen ac mae’n bosib gweld pam mae’n gweithio mor dda, a sut.  

Mae’r gymnastwyr yn brysur. Mae digonedd o hyfforddwyr. Mae’r grwpiau’n fach.                                                  

Ym mhob cornel, mae rhyw weithgaredd yn cael ei gynnal dan oruchwyliaeth ac mae awyrgylch hamddenol, manwl, fel busnes i’w deimlo yma, ond awyrgylch sydd hefyd yn teimlo fel hwyl i’r rhai sy’n cymryd rhan.    

Mae hyn yn cael ei efelychu mewn saith lleoliad arall, unedau eraill neu ganolfannau chwaraeon rhent mewn lleoliadau fel Cwmbrân, yn ogystal ag eiddo ysgolion. Mae’r niferoedd mor drawiadol â’r ddarpariaeth eang – gyda 2,900 o aelodau’n talu ffioedd sydd rhwng £4.50 am sesiwn awr a mwy na £100 am 20 awr o hyfforddiant dwys yr wythnos.

 

 

“Ni yw’r clwb gymnasteg mwyaf yng Nghymru o bell ffordd,” meddai Melissa. “Mae rhai aelodau’n cymryd rhan unwaith yr wythnos – rhai dair, bedair neu bum gwaith, gan ddibynnu ar eu lefel o ymrwymiad a’u gallu. 

“Hefyd, rydyn ni’n cynnal sesiynau galw heibio – sesiynau cyn ysgol, dull rhydd ac anabledd. Bob wythnos, mae mwy na 3,000 o blant yn cymryd rhan mewn gymnasteg gyda ni.”

Ac nid dim ond gwobrau ar y cyd a chymunedol sy’n cael eu cipio gan VGA chwaith. Mae’r gymnastwyr unigol yn ffynnu hefyd.                 

Mae Amy Oliver, tair ar ddeg oed, wedi cael lle yng ngharfan hyfforddi Prydain Fawr, a hefyd Halle Cegielski a Ben Scourse, y ddau yn 10 oed.

Hefyd, fe enillodd aelod o’r clwb, Bethany Paull, 18 oed, dair medal aur a dwy arian yn y Gemau Olympaidd Arbennig y llynedd yn yr Emiradau Arabaidd Unedig.                 

I Melissa, mae’r gydnabyddiaeth am gynhwysiant yn rhan sylfaenol o ethos y clwb – a bydd yn parhau felly.         

“Doeddwn i ddim eisiau i ni jyst bodoli fel sefydliad ar gyfer plant talentog yn unig. Mae cymaint i bawb elwa o gymnasteg – boed yn blentyn dwy oed yn datblygu sgiliau llythrennedd corfforol, ieuenctid yn eu harddegau yn dal ati i fod yn egnïol neu rywun yn meithrin sgiliau arweinyddiaeth. 

“Dyna beth sy’n ein sbarduno ni. Dydyn ni heb symud oddi wrth gymnasteg draddodiadol o gwbl, ond mae’n bwysig ein bod ni yma i bawb yn y gymuned. Rydyn ni’n canolbwyntio ar sut all pobl elwa o gymryd rhan, nid dim ond perfformiad. 

“Fel menter gymdeithasol, mae hynny’n eithriadol bwysig. Rydyn ni’n ymwneud yn llawn â gemau stryd, yn casglu ar gyfer banciau bwyd lleol, yn arwain ar ymgysylltu â theuluoedd yng Nghaerffili, ac yn gweithio gyda sefydliadau partner eraill.   

“Mae un o’n prosiectau ni nawr yn ymwneud â chynnig grŵp cerdded i deuluoedd. Roedden nhw eisiau bocsio yng Nghaerffili. 

“Dydyn ni ddim yn poeni bod rhaid i’r ddarpariaeth fod yn gymnasteg bob tro.”

Gymnasteg ochr yn ochr â bocsio – ’fyddai hyd yn oed Joe Calzaghe, oedd â’i gampfa enwog i lawr y ffordd yn Newbridge, ddim yn gallu llwyddo i gyflawni hynny. 

Newyddion Diweddaraf

7 ffordd o fod #NôlYnYGêm i roi hwb i’ch lles

Ar ôl bod yn styc yn syllu ar yr un pedair wal am y flwyddyn ddiwethaf, mae'n amser bod #NôlYnYGêm.

Darllen Mwy

Mae’n amser dod nôl i’r gêm!

Wrth i Gymru barhau i ddod allan o'r cyfyngiadau symud, mae'r genedl yn cael ei hannog i ddod 'nôl i’r…

Darllen Mwy

Y CLWB RYGBI O GYMRU SY’N SGORIO PWYNTIAU I'R BLANED DIOLCH I'R LOTERI GENEDLAETHOL

Mae prosiect yng Nghaerdydd y mae ei waith cymunedol hanfodol yn arloesi gyda chynaliadwyedd wedi cael…

Darllen Mwy