Neu a oes tir canol, lle mae’r plaŧfform yn gyfle am gyfathrebu rhwng athletwyr a chefnogwyr – neu glybiau a’u haelodau – heb droi’n eiriau cas a diflas? 

Roedd cyn asgellwr rhyngwladol Cymru, Alex Cuthbert – arwr y Gamp Lawn dim llai – yn teimlo bod yr ymosodiadau personol arno ef ar ôl perfformiadau yn ei flino gymaint fel ei fod wedi gadael y wlad yn y diwedd i ymuno â’r Exeter Chiefs.

Nid yr effaith uniongyrchol ar Cuthbert – a honnodd ei fod yn cadw draw o’r plaŧfformau i gyd – oedd yn bennaf gyfrifol am hyn, ond y straen ar ei ffrindiau a’i deulu.                             

“Doeddwn i ddim yn arfer edrych arnyn nhw, ond wedyn fe fyddai ffrind yn gofyn i mi oedd pob dim yn iawn mewn ffordd bryderus iawn,” meddai Cuthbert.

“Wedyn fe fyddai fy nheulu i’n clywed am y peth ac yn poeni amdana’ i, ac wedyn roeddwn i’n poeni amdanyn nhw. Mae’n mynd rownd mewn cylch dieflig, hyd yn oed os yw’r person yn y canol yn llwyddo i osgoi’r ymosodiadau uniongyrchol.”

Hyfforddwr Cuthbert ar y pryd gyda Gleision Caerdydd oedd Danny Wilson, sydd bellach yn hyfforddwr y blaenwyr gyda thîm cenedlaethol yr Alban.  

Gallai weld yr effaith bwerus yr oedd y cyfryngau cymdeithasol yn ei chael ar berfformiad ei chwaraewr, yn rhoi pwysau ar ei ysgwyddau ac yn bwydo gorbryder a fyddai o dan reolaeth fel arfer.                      

Mae Wilson yn cyfaddef nad yw’n deall pam oedd rhai pobl yn mwynhau mynd ati ar eu ffôn i fod yn gas tuag at chwaraewr o’r tîm cenedlaethol yr oedden nhw i fod yn ei gefnogi.                                                              

“Doeddwn i ddim yn gweld beth oedd diben y feirniadaeth pan oedd hi mor bersonol a chas,” meddai Wilson.

“Mae pob chwaraewr rygbi wedi cael dyddiau gwael a gwneud camgymeriadau, ond does neb yn trïo gwneud hynny. Roedd fel pe bai’r geiriau cas yn ceisio gweld pa mor groendenau oedd y chwaraewr, faint o gasineb fedrai e ei gymryd.    

“Bob tymor, mae fel pe bai rhywun sy’n chwarae i Gymru’n gorfod dioddef y math yma o gasineb – stwff personol iawn, pan ddylai’r ffocws fod ar ffeithiau a pherfformiad.”

Mae un arall a arferai chwarae gyda Cuthbert gyda Gleision Caerdydd a Chymru, Gareth Anscombe, wedi bod yn darged i’r byddinoedd ar-lein hefyd, sy’n ymosod ar un unigolyn.          

 

Y cyngor swyddogol gan gyrff rheoli, clybiau a’u rheolwyr amrywiol yw peidio ag ymateb, ond fel mae Anscombe yn cyfaddef, haws dweud na gwneud yw hynny i athletwyr sy’n hynod gystadleuol ac ymatebol ym mhob rhan arall o’r proffesiwn maen nhw wedi’i ddewis.                         

“Mae’n rhwystredig iawn oherwydd rydych chi eisiau ymateb i rai pobl, ond wedyn maen nhw’n cael beth maen nhw eisiau,” meddai Anscombe yn ddiweddar. 

“Os byddwch chi’n ceisio rhoi rhywun yn ei le, y chwaraewr sy’n cael ei groeshoelio bob amser. Mae rhai pobl eisiau ennyd o enwogrwydd ac felly maen nhw’n ceisio meddwl am neges glyfar, ond diolch byth, rydw i’n hŷn nawr ac ychydig yn ddoethach, ond roedd yna amser pan oedd yn pwyso’n fawr arna’ i.”

Yn y byd pêl droed, mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru yn rhoi canllawiau penodol ar gyfer delio gyda’r math o rwystredigaeth mae Anscombe wedi’i deimlo.

Mae Cod Chwarae Teg y Gymdeithas yn cynghori pawb sydd ar gyfryngau cymdeithasol i “Sicrhau bod eich meddwl yn y lle iawn wrth ysgrifennu neges. 

“Ni ddylai unigolion greu neges yn flin, yn ddigalon neu heb allu barnu’n iawn, oherwydd gall hyn arwain at ymddwyn yn anaddas a dieithrio unigolion eraill.”

Mewn geiriau eraill, anadl ddofn a chadw eich ffôn – beth bynnag yw’r pryfocio. Mae’n haws ysgrifennu hynny na’i reoli mewn realiti, ond mae’n gyngor doeth iawn er hynny. 

A dyma gyngor doeth arall o’r un cod – “Cofiwch bod y rhyngrwyd yn barhaol a bod gwybodaeth yn teithio’n rhwydd ac yn gyflym ar-lein. Bydd llawer o gynulleidfaoedd gwahanol yn gweld neges ac felly dylai unigolion gofio bod posib dod o hyd i negeseuon wedi’u dileu bob amser. Ni ddylai unigolion bostio unrhyw beth na fyddent yn gyfforddus yn ei weld ar y cyfryngau.”

Hefyd mae gan ganllaw Cymdeithas Bêl Droed Cymru ddigon i’w ddweud am ochr iachach y cyfryngau cymdeithasol, fel y byddech yn ei ddisgwyl gan sefydliad a aeth ati’n glyfar iawn i farchnata ei ymgyrch “Gyda’n Gilydd, Yn Gryfach” yn nyddiau braf cystadleuaeth yr Ewros yn 2016.

Tynnwyd sylw at bŵer cynnwys cymdeithasol da gan Trefelin BGC wrth drydar fideo o un o gewri Dinas Abertawe, Lee Trundle, yn sgorio mewn gêm feterans ddiweddar. Wrth ysgrifennu’r darn yma, mae’r fideo wedi cael ei wylio fwy na 400,000 o weithiau.

Fel y dywedodd un Trydarwr, gall cwmnïau dalu miloedd o bunnoedd am y math yma o sylw.  

Mae’n ymddangos bod pêl rwyd yn gamp lle mae’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn cynnig mwy o fanteision nac anfanteision, gyda chwaraewyr, clybiau a chefnogwyr clybiau lefel uchaf Uwch-gynghrair Vitality yn defnyddio sawl platfform mewn ffordd bositif. 

Mae sêr Cymru fel Nia Jones, un o gonglfeini’r Dreigiau Celtaidd nes iddi symud yn ddiweddar at y Seven Stars, yn cyfrannu personoliaeth a gwybodaeth at ei negeseuon yn gyson, fel fideo diweddar am ei threfn gynhesu cyn gêm.     

Dywedodd Will Rees, rheolwr cyfathrebu a marchnata Pêl Rwyd Cymru: “Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn adnodd marchnata enfawr i ni. Fe fyddwn i’n dweud bod tua 75 y cant o’n marchnata ni’n digwydd drwy gyfryngau cymdeithasol.

“Roedd Nia Jones yn eithriadol. Roedd hi’n rhannu cynnwys gwych, gydag digon o hwyl a phersonoliaeth. Gobeithio y gallwn ni feithrin hynny ymhlith rhai o’r chwaraewyr iau eraill nawr. Rydw i bob amser yn eu hannog nhw i fod yn feiddgar. Os bydd rhywbeth gwael yn digwydd, rydyn ni’n delio â’r peth ar y pryd.

“Instagram yw’r prif adnodd i gysylltu chwaraewyr a chefnogwyr. I noddwyr a newyddiadurwyr, Twitter. Ac i famau a phrynwyr tocynnau, y bobl sydd yng ngofal y pwrs, Facebook yn aml iawn. Felly mae’n rhaid i chi gofio am bob un.”

Wrth gwrs, mae pethau gwael yn digwydd weithiau a gall geiriau cas am athletwyr benywaidd ddeillio yn aml o gymhelliant gwahanol i’r rhai mae athletwyr gwrywaidd yn eu dioddef.       

Mae’r bêl droedwraig sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau dros Gymru, Jess Fishlock, wedi siarad am gam-drin ar-lein, ac mae’n ymddangos bod y cecru am hawliau trawsryweddol mewn chwaraeon wedi cymryd cam i gyfeiriad anodd, tuag at unrhyw un sy’n ddigon dewr i fentro’n rhan o’r drafodaeth. 

Ychwanegodd Will Rees: “Mewn chwaraeon merched, mae trolio’n gallu bod yn broblem enfawr. Mae proffil pêl rwyd yn llawer llai na phêl droed wrth gwrs ac nid yw’r chwaraewyr yn cael eu targedu gymaint â’r merched sy’n chwarae pêl droed. Ond pan mae’n digwydd, mae’r effeithiau’n anghysurus iawn. Gall amrywio o feirniadaeth annheg i bethau corfforol.”

Ym myd pêl droed y dynion, cyfaddefodd Cymdeithas y Pêl Droedwyr Proffesiynol (PFA) yn ddiweddar eu bod yn gweld gostyngiad yn nifer y chwaraewyr sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol oherwydd trolio, ac mae nifer y chwaraewyr sy’n defnyddio gwasanaethau cwnsela y PFA wedi codi i gyfanswm uwch nag erioed o 643 yn 2019, cynnydd o bron i 50% ar y flwyddyn flaenorol. 

Y llynedd hefyd, fe wnaeth pêl droedwyr proffesiynol droi eu defn ar y cyfryngau cymdeithasol am 24 awr er mwyn protestio yn erbyn y ffordd yr oedd yr awdurdodau pêl droed wedi ymateb i wawdio hiliol.

Gall hyn i gyd ymddangos yn fyd dieithr iawn i chwaraeon ar lawr gwlad ac ar lefel leol mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu cynnig manteision hynod bositif.

Mae’r llifogydd diweddar ledled Cymru wedi gadael dwsinau o glybiau pêl droed, rygbi a chriced gyda’u caeau o dan ddŵr ac, mewn sawl achos, eu hadeiladau wedi’u dinistrio.   

Daeth y cyfryngau cymdeithasol nid yn unig yn adnodd hanfodol i drefnu a symud pobl yn ystod y gwaith glanhau yn syth ar ôl y dinistr, ond hefyd mae’r platfformau’n gyfle gwych i godi arian fel ymateb i’r argyfwng.         

Yr hyn sy’n bwysig yma yw strategaeth ofalus yn hytrach na chyflymder. Gall darlun o gae neu glwb dan ddŵr ar Twitter ennyn llawer o gydymdeimlad, ond mae cyfeirio hynny tuag at dudalennau codi arian ac addewidion gwirioneddol yn gofyn am fwy o feddwl. 

Cafodd clybiau rygbi Cross Keys a Bedwas ddifrod sylweddol yn eu hadeiladau oherwydd llifogydd. Erbyn dechrau mis Mawrth, ychydig dros £3,000 oedd tudalen GoFundMe Cross Keys wedi’i godi, ond roedd clwb cyfagos Bedwas wedi codi mwy na £18,000.

Mae rhoddion Bedwas wedi cynnwys addewidion o Oman, Dubai, Tsieina, yr Almaen ac Awstralia, yn ogystal â chyfraniadau gan enwogion fel y gyflwynwraig Carol Vorderman. 

Mae Will Rees wedi bod yn arwain ymdrech codi arian ar-lein Bedwas. Mae’n gefnogwr brwd i’r clwb rygbi pan nad yw’n marchnata pêl rwyd Cymru.                   

Dywedodd: “Roedd llawer o bwysau ar y clwb yn syth gyda phobl yn dweud bod rhaid i ni gael tudalen cyllid torfol a bod clybiau eraill yn gwneud hynny eisoes.

“Ara’ deg ddywedais i. Roedd yn rhaid i ni fod yn glir iawn gyda phobl am beth oedd wedi digwydd, beth oedd y difrod, pam oedden ni angen yr arian. Ar gyfryngau cymdeithasol rhaid i chi gael datganiad clir am beth sydd wedi digwydd i’w ddangos yn glir i’r person lleyg. 

“Roedden ni eisiau bod yn atebol am yr arian hefyd. Doedd dim posib i’r arian gael ei lyncu gan orddrafft.                   

“Hefyd roedd rhaid i chi roi gwybodaeth gyson i bobl am ble oedd yr arian yn mynd. 

“Dyna sy’n effeithiol am y cyfryngau cymdeithasol. Maen nhw’n dweud stori ac mae’r stori’n para.”