Bydd Canolfannau Cenedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd a Chaernarfon (Plas Menai) yn cau i’r cyhoedd yn weithredol o 18:00 dydd Mercher Mawrth 18fed 2020.
Bydd Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd a Chanolfan Awyr Agored Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Plas Menai, yn cael eu cau hyd nes ceir rhybudd pellach i aelodau’r cyhoedd yn dilyn y cyngor diweddaraf gan Lywodraeth y DU.
Archebion
Os oes gennych chi gwestiynau neu bryderon am archeb yn un o’r cyfleusterau, dylech gysylltu â’r canolfannau ar e-bost ar:
Caerdydd: [javascript protected email address]
Plas Menai: [javascript protected email address]
Sylwer y bydd yr archebion sy’n digwydd tra mae’r canolfannau ar gau yn cael ad-daliad llawn neu gallwn edrych ar aildrefnu ar ddyddiad arall. Dylech anfon eich cais am ad-daliad neu aildrefnu ar e-bost i’r cyfeiriadau e-bost uchod.