“Mae ochr gymdeithasol criced yn enfawr ac, yng Nghymru, yr hyn sydd wedi fy nharo i eisoes yw’r ysbryd a’r balchder sydd yn gysylltiedig â’r gamp. Mae’n galonogol iawn.
“Mae’n golygu, pan fydd yr amser yn iawn i ddod yn ôl, na fyddwn ni wedi colli’r angerdd dros y gêm na’r hoffter ohoni, na’r brawdgarwch chwaith.”
I’r clybiau, goroesi sy’n hollbwysig – gwneud yn siŵr bod eu clybiau a’u caeau’n gallu cael eu cynnal fel bod criced yn gallu ailddechrau pan fydd y cyfyngiadau’n cael eu codi.
Mae cyngor, ar ffurf helpu i ddod o hyd i gyllid, ar gael ar wefan Criced Cymru.
http://www.cricketwales.org.uk/news.aspx?nid=615&ss=
Mae’n cynnwys cyfarwyddyd ar sut i gael cymorth i fusnesau bach gan Lywodraeth Cymru a hefyd cronfa argyfwng Chwaraeon Cymru, sy’n darparu grantiau o hyd at 5,000.
https://www.sport.wales/content-vault/emergency-relief-fund/
“Y brif flaenoriaeth yw gwarchod criced a gwarchod clybiau criced,” ychwanegodd Leshia.
“Dyma ble mae’n hadnoddau ni’n mynd i orfod mynd. Mae’n rhaid i ni gael llefydd i chwarae pan ddaw criced yn ôl. Felly mae hynny’n golygu gofalu am gaeau a sgwariau criced fel bod clybiau’n gallu bod yn weithredol pan mae criced yn gallu dechrau eto. Rydyn ni’n ceisio cael at graidd beth sy’n bwysig.”
Mae pryd yn union fydd yr ailddechrau yma’n digwydd ar bob lefel yng Nghymru’n parhau yn anhysbys.
Mae’r Cant – y twrnamaint 100 pêl newydd oedd i fod i gael ei lansio yr haf yma ac a oedd i gynnwys y Tân Cymreig o Gaerdydd – wedi cael ei ohirio am flwyddyn.
Ond mae’r gêm T20 ryngwladol rhwng Lloegr a Phacistan – sydd i fod i gael ei chynnal yng Ngerddi Sophia ar Awst 31 – yn parhau’n ansicr, ac felly hefyd tymor domestig cyfan Morgannwg, a’r holl gemau cynghrair i glybiau yng Nghymru.
“Ar ôl Cwpan Byd cartref i’r dynion a’r proffil a fwynhaodd yr ornest diolch i chwaraewyr fel Ben Stokes, roedd criced yn ôl ar y map yng ngwir ystyr y gair ac yn rhan o brif ffrwd chwaraeon,” meddai Leshia.
“Roedd y Cant ar fin dechrau a hawlio mwy o sylw ac mae’n rhwystredig iawn methu gallu adeiladu ar y sylfeini hynny.
“Ond mae’n rhaid i ni ddal ati i fod yn optimistig, cadw’n bositif, a bod yn barod i chwarae criced eto cyn gynted ag y gallwn ni.”