Skip to main content

Mae golff yn ôl ... ryw fath

Erthygl mewn cydweithrediad â Dai Sport.

Ar gyrsiau ar hyd a lled Cymru, mae golffwyr wedi dychwelyd ar y lleiniau ac wedi bod wrth y tî yn mwynhau un o’r synau mwyaf pleserus sydd gan y gamp i’w gynnig. Thwac!

Dydi pethau ddim yr un fath yn sicr, ond gyda sylw gofalus i reoliadau Llywodraeth Cymru – a chyngor mwy penodol gan sefydliad Golff Cymru – mae llawer o olffwyr wedi bod yn mentro’n ôl yn araf bach. 

I’r golffwyr sydd heb ergydio dreifar, codi ergyd ddynesu anodd neu rolio pyt ers canol mis Mawrth, mae hynny’n destun dathlu.

Felly beth yw’r cyfyngiadau? Ac mae’n werth pwysleisio i’r golffwyr i gyd nad “rheolau’r clwb” yw’r rhain, neu ddewisiadau ar ran y corff rheoli.   

 

Maen nhw’n rhan o ddeddfwriaeth sydd wedi’i phasio gan Lywodraeth Cymru – Rheoliadau Amddiffyn Iechyd (Cyfyngiadau’r Coronafeirws) (Cymru) 2020 – a gallai unrhyw un sy’n eu hanwybyddu gael dirwy am dorri’r gyfraith. 

Mae’r rhain yn wahanol i’r rheoliadau yn Lloegr, lle mae’r rheolau ehangach ar gyfer cyfarfod un person arall o’r tu allan i’r teulu wedi cael eu llacio. 

Felly, yng Nghymru, rhaid i olffwyr naill ai:

Chwarae ar eu pen eu hunain fel chwaraewyr un bêl.   

Neu chwarae gydag un chwaraewr arall, ar yr amod eu bod yn dod o’r un cartref. 

Hefyd mae’n ofynnol iddyn nhw aros yn “lleol” (gallwch weld y cyngor hwn yma), sy’n gallu bod yn wahanol o un ardal i un arall. 

Ac fe ddylent geisio osgoi gyrru mewn cerbyd i’r cwrs os yw hynny’n bosib, ond derbynnir y gallai hynny fod yn angenrheidiol i bobl â phroblemau iechyd neu symudedd. 

Mae’r cyfan yn golygu na all golffwyr yng Nghymru chwarae gydag aelodau eraill y clwb, neu bartneriaid golffio arferol, oni bai eu bod yn byw o dan yr un to – hyd yn oed pe baen nhw’n cadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol llym.

Mewn datganiad at bob golffiwr, mae Golff Cymru yn awgrymu eu bod yn obeithiol y bydd y rheoliadau’n newid yn y dyfodol agos efallai – ond mae hefyd yn rhybuddio y gallai golff ddiflannu eto os na fydd pobl yn cadw at y rheolau. 

Maen nhw’n dweud: “Gall hyn newid y tro nesaf y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried gwneud newidiadau i’r cyfyngiadau symud. Mae Golff Cymru yn pwysleisio bod y rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi gan Lywodraeth Cymru ac nid Golff Cymru.

“Fel un o’r chwaraeon cyntaf i gael ailddechrau, mae gan glybiau golff a golffwyr gyfrifoldeb mawr i sicrhau bod ein camp ni’n cael ei gweithredu’n ddiogel ac yn gyfrifol. Mae cadw’n llawn at ddarpariaethau’r protocol yma’n hanfodol. Dylid nodi bod y Llywodraeth yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn fanwl ac mae’n cadw’r hawl i ailgyflwyno cyfyngiadau a allai arwain at glybiau golff yn cau os na fydd y protocol yn cael ei ddilyn.”

Er bod llawer o gyrsiau golff yng Nghymru wedi ailagor ddydd Llun Mai 19 – gyda newidiadau eraill, fel cyrraedd wedi gwisgo’n barod ar gyfer chwarae golff a gwisgo esgidiau golff yn y maes parcio – mae clwb enwocaf Cymru’n parhau ar gau.     

 

Nid yw’r Celtic Manor ger Casnewydd – cartref Cwpan Ryder yn 2010 a gyda thua 1,000 o aelodau ymhell ac agos – yn bwriadu ailagor ei gyrsiau tan Fehefin 1 gan obeithio y bydd y cyfyngiadau wedi’u codi ymhellach erbyn hynny.

Dywedodd siaradwr ar ran y Celtic Manor, Paul Williams: “Gan fod cyfyngiadau’n berthnasol i ddim ond gallu chwarae gydag aelodau o’r un teulu, ac aros yn lleol, nid ydym yn bwriadu ailagor ar hyn o bryd .       

“Ond rydyn ni’n gweithio’n galed i gyflwyno mesurau diogelwch ychwanegol a diwygio ein gweithdrefnau chwarae fel ein bod yn barod i ddechrau cynnig golff eto cyn gynted ag y bydd hynny’n bosib. Ac mae’r staff sy’n gweithio’n gwneud yn siŵr y bydd y cyrsiau’n barod ar gyfer chwarae arnyn nhw.”

Ond dafliad pêl golff i ffwrdd bron o’r Celtic Manor, yng Nghlwb Golff Llanwern, mae’n stori wahanol iawn.

Mae’n fath gwahanol o glwb gydag aelodaeth lawer fwy lleol ac mae’n falch o gael agor ei gwrs – er bod hynny gan gadw’n llym at y rheolau newydd. 

Dim ond hanner aelodaeth y Celtic Manor sydd gan Lanwern ac ychydig iawn o bobl sy’n byw bellter sylweddol i ffwrdd. 

Mae’r clwb eisoes wedi bod yn rhoi clipiau ar ei gyfrif Twitter o aelodau’n chwarae – gan gynnwys un o’r aelodau ifanc, Taylor Pardue, yn glanio ergyd gyntaf y dydd mewn steil ar y cwrs. 

Dywedodd Ian Harrison, cyfarwyddwr strategaeth a pholisi’r clwb, ei bod yn bwysig bod y clwb yn cyflawni ei rôl gymunedol o ddarparu manteision corfforol a chymdeithasol i’w aelodau i gyd. 

“Rydyn ni’n eithaf hapus bod y protocolau rydyn ni wedi’u sefydlu’n darparu amgylchedd gweithio diogel i’n staff a hefyd amgylchedd diogel i’r aelodau ddod i chwarae,” meddai. 

“Rydyn ni wedi addasu ein system archebu ac mae pobl yn chwarae golff un bêl ar eu pen eu hunain yn bennaf, neu mae rhai o’r rhai ffodus yn gallu chwarae gydag aelodau o’u teulu eu hunain sy’n byw gyda nhw.     

“Mae’n braf iawn cael golff yn ôl, er mor ddieithr yw hynny gyda’r cyfyngiadau. Er bod llawer o’r pwyslais wedi bod ar ymarfer corff, rydyn ni wir yn gweld gwerth yn yr agwedd gysylltiedig ag iechyd meddwl. 

“Mae gennym ni rai aelodau dros 65 oed sy’n byw ar eu pen eu hunain ac mae golff yn gyfle iddyn nhw am ryngweithio cymdeithasol allweddol. Mae hynny’n hanfodol. 

“Ar hyn o bryd, mae gennym ni un gyfres o reolau i olffwyr yr ochr yma i Bont Hafren a chyfres arall ychydig filltiroedd yr ochr arall, ond gobeithio, ymhen amser, y bydd hynny’n newid.”

Dylai’r aelodau gysylltu â’u clwb lleol i sicrhau eu bod yn deall y prosesau sydd wedi cael eu rhoi yn eu lle oherwydd gallant fod yn wahanol o glwb i glwb. Dylech gysylltu cyn mynd i gwrs eich clwb. 

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy