Skip to main content

Y pencampwr byd sy’n dosbarthu caws yn ystod y cyfyngiadau symud

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y pencampwr byd sy’n dosbarthu caws yn ystod y cyfyngiadau symud

Mae Matt Bush eisoes yn gwneud ei farc yn y byd taekwondo ond nawr mae’n gwneud defnydd da o’i dalentau er mwyn ein cadw ni i gyd rhag llwgu.                       

Mae pencampwr para-taekwondo y byd o Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin yn helpu gyda dosbarthu bwyd ledled Gorllewin Cymru wrth iddo gadw’n brysur yn ystod y cyfyngiadau symud.

Fe ddylai Bush – sy’n cystadlu yn y categori K44 ar gyfer athletwyr sydd wedi colli un fraich neu sydd wedi colli swyddogaeth gyfatebol – fod yn paratoi ar gyfer Gemau Paralympaidd Tokyo, oedd i fod i gael eu cynnal yr haf yma. 

Ond yn lle ymladd yn erbyn ei wrthwynebwyr yn y twrnamaint cymhwyso oedd i fod i gael ei gynnal ym mis Ebrill, mae un o bencampwyr y byd chwaraeon yng Nghymru wedi bod yn dosbarthu caws, wyau a menyn i siopau lleol ledled de orllewin Cymru. 

Mae Evan Rees Dyfed Limited yn fusnes teuluol a sefydlwyd gan daid Matt.

 

Maen nhw’n dosbarthu bwyd i archfarchnadoedd a siopau bychain gan ddefnyddio fflyd o faniau ac meddai Matt: “Rydw i wedi helpu gyda’r busnes yn y gorffennol ond nawr mae’n brysurach nag erioed.                   

“Mae llawer o alw ac mae problemau staffio, felly rydw i wedi bod yn dosbarthu bwyd a hefyd yn torri ac yn pacio caws.         

“Mae’n gallu bod yn brysur iawn ar hyn o bryd oherwydd mae’r cyfyngiadau symud wedi golygu bod pobl yn dibynnu ar eu siopau lleol llawer mwy ac mae mwy o alw nawr. 

“Felly rydw i wedi bod yn codi’n eithaf cynnar, gwneud fy sesiwn hyfforddi gartref, ac wedyn mynd i’r gwaith. ’Sa i’n achub bywydau, ond mae’n neis cael cyfrannu mewn rhyw ffordd.”

Pan nad yw’n dosbarthu’r Cheddar, fel rhan o sgwad taekwondo Prydain Fawr sydd wedi’i leoli ym Manceinion, mae Bush wedi cael rhaglen hyfforddi syml i’w dilyn.             

Mae’n seiliedig ar ymarferion cryfder a siapio y gall eu gwneud yn y tŷ a’r ardd, gydag absenoldeb amlwg unrhyw bartneriaid hyfforddi i ymladd wrth gwrs.               

“Mae sawl wythnos wedi mynd heibio ers i mi gael cyswllt go iawn gyda rhywun mewn sesiwn hyfforddi ac mae hynny’n teimlo braidd yn rhyfedd. Ond mae hwn yn gyfnod rhyfedd ac rydw i wedi dod i arfer â’r drefn newydd.   

“Chi ond yn gallu rheoli beth allwch chi ei reoli a fi’n hapus gyda’r hyn rydw i wedi gallu ei wneud. Pan fydd y sefyllfa’n newid, fi’n credu y galla’ i fynd nôl i drefn yn eithaf cloi.”

Fel cyn gystadleuydd MMA a jujitsu, roedd y gŵr 31 oed yn hwyr-ddyfodiad at gamp taekwondo. Ond er ei ddiffyg profiad, roedd ganddo ddigon o dalent a phenderfyniad ac roedd ei effaith ar y gamp i’w gweld ar unwaith. 

Ef yw’r gwryw cyntaf o Brydain i hawlio teitl pencampwr para-taekwondo y byd - yn Nhwrci y llynedd yn yr adran +75kg, ddwy flynedd yn unig ar ôl dechrau cymryd rhan yn y gamp – ac roedd mewn lle da iawn i ategu hynny gyda medal aur yn Tokyo.

 

Mae’r freuddwyd yma wedi gorfod cael ei roi i’r naill ochr am flwyddyn, ond mae’r hyder yn parhau y gall sicrhau mwy o lwyddiant yn y gamp y mae’r partner hyfforddi ar lefel Prydain Fawr a’r Pencampwr Olympaidd dwbl Jade Jones wedi hoelio sylw Cymru gyfan arni. 

“Pan wnes i ddechrau cymryd rhan mewn taekwondo, doedd y llwyddiant gefais i ddim yn syndod,” cyfaddefa. “Roeddwn i’n disgwyl ennill. 

“Dyna sut ydw i. Fi’n cystadlu i ennill – nid dim ond i greu sgwad. Roedd gen i gefndir mewn chwaraeon eraill, oedd o help, ond does dim llwybr cyflym.

“Roedd gen i sylfaen athletig a rhywfaint o allu, ond roedd rhaid i mi dreulio llawer o amser yn dysgu’r system bwyntiau, a thriciau bach y gamp, a sut mae’r cyfan yn gweithio gyda’i gilydd. 

“Nawr rydw i’n cyrraedd y cam o wybod manylion y gamp, felly rydw i’n sicr yn teimlo bod mwy i ddod.” 

Pryd daw’r cyfle i brofi hynny, does neb wir yn gwybod eto. Cafodd y rowndiau cymhwyso Paralympaidd a oedd wedi’u trefnu ar gyfer Milan eu symud i ddechrau i Rwsia cyn cael eu canslo yn llwyr wrth i’r byd chwaraeon orfod cau yn fyd-eang.         

“Yr awgrym oedd y byddai’r rowndiau cymhwyso hynny ar gyfer Tokyo yn cael eu cynnal yn awr ddiwedd y flwyddyn yma, ond does dim byd yn bendant eto,” ychwanegodd Matt.

“Rydw i’n dal ati i ymarfer ac fe fydda’ i’n cynyddu hynny cyn gynted ag y galla’ i, ac felly pan fydd y rowndiau cymhwyso’n cael eu cynnal, fe fydda’ i’n barod. Os byddan’ nhw’n dweud, ‘maen nhw’n digwydd fory’, bydd rhaid i mi fod yn barod am hynny.”       

Ond tan hynny, yn ôl at y pwysau a’r sesiynau beicio hyfforddwr tyrbo yn y bore mae’n mynd – ac wedyn pacio caws yn y prynhawn.               

Os yw hynny’n swnio’n bryderus i’r deietegwyr sy’n cael eu cyflogi gan GB Taekwondo, does dim angen iddynt boeni. 

“’Sa i’n bwyta caws, fi wedi cael digon,” meddai Matt.

“Roedd yr un peth pan oeddwn i’n pacio siocled. Ar ôl ychydig o wythnosau a bwyta chryn dipyn, roeddwn i wedi cael digon ar hwnnw hefyd.” 

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy