Ond yr ochr arall i’r geiniog wrth gwrs yw’r gofynion diogelwch hollbwysig wrth i’r DU barhau i fynd i’r afael â phandemig y coronafeirws – yn ogystal â’r cyfyngiadau ar gapasiti wrth geisio adfer lleoliadau sydd wedi gorfod dod i stop i fod yn gweithredu eto.            

Bydd dychweliad yr athletwyr yn digwydd yn raddol, fesul cam, ac yn ofalus.                     

Bydd hefyd yn gwbl wirfoddol.     

Fel y dywed Owen Lewis, cyfarwyddwr cynorthwyol y systemau chwaraeon, y strategaeth a’r gwasanaethau yn Chwaraeon Cymru: “Does dim gorfodaeth ar unrhyw athletwr i ddychwelyd at hyfforddi. Mae hynny’n greiddiol. Mae wir yn ddewis i bawb.”

Os gall 50 o athletwyr elitaidd Cymru fod yn ôl yn hyfforddi o fewn chwech i saith wythnos, bydd y rhai sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith cynllunio’n gweld y nifer hwn yn llwyddiant ysgubol. 

Mae’r athletwyr wedi cael eu rhannu’n grwpiau neu “garfannau” gan ddibynnu ar addasrwydd eu camp i ddychwelyd, elfennau ymarferol y protocolau newydd, a hefyd pa mor frys yw’r angen o ran cystadlaethau.         

Mae’r garfan gyntaf yn debygol o gynnwys nifer bach o athletwyr ar draws dim mwy na phum camp os credir ei bod yn bosib darparu’r cyfleusterau priodol, strwythur meddygol ac amgylchedd hyfforddi penodol.         

Y chwaraeon sydd wedi’u clustnodi ar gyfer carfan un yw nofio, athletau, bocsio, sboncen a gymnasteg – ond bydd yn dibynnu o hyd ar roi nifer o ffactorau yn eu lle.       

Mae jiwdo, gymnasteg rhythmig a beicio trac yn debygol o fod yng ngharfan dau, gyda chwaraeon tîm – fel hoci a phêl rwyd – yng ngharfan tri.               

“Pe bai hyn yn hawdd, fe fydden ni’n dod â phawb yn ôl ar unwaith,” meddai Chris Jenkins, prif weithredwr Gemau Cymanwlad Cymru, sydd, fel Owen Lewis, wedi bod yn cysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch dychweliad chwaraeon elitaidd, ynghyd ag eraill yn y sector chwaraeon, gan gynnwys Cymdeithas Chwaraeon Cymru. 

“Ond mae’n gymhleth iawn ac yn wahanol i bob camp, pob lleoliad, pob cyfleuster a phob grŵp oedran.”

 

Yn ogystal â gosod y chwaraeon amrywiol mewn grwpiau, gofynnwyd i gyfarwyddwyr perfformiad pob camp ddarparu rhestr o athletwyr y byddent yn hoffi eu gweld yn ôl fel blaenoriaeth.           

Wedyn bydd ymdrechion yn cael eu gwneud i gael yr enwau hynny’n ôl yn weithredol cyn gynted ag y bo hynny’n ddiogel ac yn ymarferol. 

Mae’r ystyriaethau ymarferol hynny’n cynnwys nid dim ond pa mor barod fydd y lleoliad hyfforddi, ond hefyd yr angen amlwg am oruchwyliaeth feddygol. 

Gyda chadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau ar nifer yr athletwyr a’r hyfforddwyr, bydd lleoliadau hyfforddi’n cyrraedd lefel newydd, isel o gapasiti yn fuan iawn. 

Yn yr un modd, mae lefel y gefnogaeth feddygol yn mynd i olygu bod dychweliad yr athletwyr yn mynd i fod ar raddfa fechan i ddechrau, yn hytrach na llif mawr. 

Mae’r rhwystrau hyn, mynna Lewis, yn berthnasol i Loegr hefyd, er bod dychweliad yr athletwyr elitaidd fesul cam dros y ffin wedi digwydd, mewn gwirionedd, yn gyflymach nag yng Nghymru.

“Y ffordd fwyaf diogel o leihau’r risgiau yw drwy ddod yn ôl yn raddol a gyda nifer mor fach â phosib o athletwyr,” meddai. 

“Mae’n rhaid wrth oruchwyliaeth feddygol a does dim digon o feddygon chwaraeon yng Nghymru i alluogi i ni ddod â llawer o athletwyr yn ôl.

“Dydi hon ddim yn broblem unigryw i Gymru. Mae’r un fath yn Lloegr. O ran y gymhareb o feddygon i athletwyr, dydyn nhw ddim mewn sefyllfa well na ni.”

Yr egwyddor arweiniol o hyd gyda dychweliad unrhyw athletwr mewn unrhyw gamp fydd lleihau’r risgiau i iechyd y cyhoedd.                 

Mae hynny, mynna Jenkins, yn rhywbeth y mae’r athletwyr, yr hyfforddwyr a’r swyddogion i gyd yn gytûn arno, er ei fod yn cyfaddef y bydd rhai athletwyr ifanc addawol yn eiddigeddus o hyn wrth weld eraill o’u blaen yn y ciw.

“Dydi pawb ddim yn mynd i fod yn mynd yn ôl yn syth,” meddai. “A does dim capasiti chwaith.

“Hefyd, nid Seland Newydd ydyn ni. Mae cyfradd yr haint yn rhy uchel o hyd. Nid yw athletwyr eisiau dal y feirws a mynd ag e i bartner neu riant. Na’r hyfforddwyr chwaith. 

“Y neges yw bod yn amyneddgar a chadw’n ddiogel. Mae pawb yn cydweithio’n galed iawn er mwyn cael yr athletwyr yn ôl yn ddiogel. Gweithiwch gyda ni a bod yn amyneddgar. Byddwch yn mynd yn ôl a hynny o dan amgylchiadau diogel.”

Os yw hynny’n swnio braidd yn rhwystredig i’r athletwyr hynny sy’n dyheu am fynd yn ôl, mae Lewis yn cynnig dau gyngor pellach.

I ddechrau, nid oes llawer o werth i waith caled ar y cae hyfforddi os nad oes gan athletwr ddyddiad cystadleuaeth ar ei galendr.

Ac yn ail, gallai dysgu bod yn graff ac yn ddyfeisgar drwy hyfforddi gartref yn ystod cyfnod o bandemig byd-eang fod yn gam doeth iawn.

“Does neb yn gwybod sut mae hyn yn mynd i ddatblygu, ond efallai y bydd bod yn dda iawn am hyfforddi gartref yn fantais gystadleuol yn y diwedd,” meddai. 

“Os bydd y pandemig yma gyda ni am sbel, efallai nad y ffordd orau i chi baratoi ar gyfer Birmingham 2022 fydd hyfforddi mewn canolfan elitaidd am gyfnod byr, ond ceisio bod cystal ag y gallwch chi yn hyfforddi gartref.”