Ar ôl misoedd o gyfyngiadau symud Covid-19, mae chwaraeon awyr agored trefnus yn ailddechrau yng Nghymru.
Mae campfeydd yn defnyddio eu gofod awyr agored i gael pobl i fod yn actif ac i annog aelodau i ddychwelyd i ymarfer.
Mae’r Fitness Locker ym Merthyr Tudful yn un gampfa sydd wedi ailagor, gyda mesurau diogelwch yn eu lle. Ac mae eisoes yn cael effaith fawr ar iechyd a lles pobl.