Skip to main content

Mae CRONFA CYMRU ACTIF yn helpu 100 o fowlwyr i ailgychwyn

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Mae CRONFA CYMRU ACTIF yn helpu 100 o fowlwyr i ailgychwyn

Mae George Gibb yn cyfaddef ei fod yn bryderus iawn wrth iddo sbecian dros y clawdd ar lawnt Clwb Bowlio Caerllion yn gynharach yr haf yma. 

“Roedd yn dipyn o jyngl a dweud y gwir,” meddai cyn gadeirydd y clwb.       

“Roeddwn i’n edrych draw ac yn poeni ychydig am gyflwr pethau, oedd ddim yn dda. Doedd ein contractwr arferol sy’n gofalu am y lawnt ddim yn gallu gwneud y gwaith ac ar ôl llawer o law yn gynharach yn ystod y flwyddyn, roedd pethau’n dechrau tyfu’n gyflym iawn.

“Y peth am lawnt fowlio yw os ydych chi’n colli rheolaeth, mae’n gallu cymryd llawer o amser i’w chael yn ôl mewn cyflwr da.       

“Unwaith mae mwsogl yn tyfu ar lawnt, mae’r darnau noeth yn ymddangos, ac mae’n gallu bod yn amhosib chwarae arni’n sydyn iawn.” 

 

GRANT £400 GAN CRONFA CYMRU ACTIF

Yn ffodus i’r tua 50 o aelodau sy’n chwarae yn y lleoliad ar draws y ffordd i glwb pêl droed y dref, roedd help wrth law ar ffurf cyllid argyfwng gan Chwaraeon Cymru.           

Gwnaeth y clwb gais a derbyn grant o £400 o Gronfa Cymru Actif, sydd wedi galluogi iddynt nid yn unig gadw’r blaidd o’r drws, ond hefyd y mwsogl oddi ar y tyweirch.      

Sylfaenwyd Caerllion yn 1951 ac mae’n glwb i aelodau gyda phedwar tîm dynion ac un tîm merched. Maen nhw i gyd yn cystadlu mewn cynghreiriau lleol. Mae pedwar hyfforddwr cymwys yn cynnig sesiynau sgiliau ar nosweithiau Iau. 

Mae’r clwb wedi rhedeg ei gyfleuster ei hun yn Cold Bath Lane ar brydles gan Gyngor Dinas Casnewydd ers 2013.

Ers y flwyddyn honno, mae hefyd wedi rhannu ei lawnt gyda Chlwb Bowlio Athletig Casnewydd, a adawyd heb gartref pan benderfynodd rhanbarth rygbi’r Dreigiau ailddatblygu Rodney Parade.

Heb y grant i dalu am gynnal a chadw’r lawnt, byddai hyd at 100 o fowlwyr yng Ngwent wedi cael eu gadael heb rywle i chwarae ar nosweithiau braf o haf unwaith y cafodd cyfyngiadau pandemig y coronafeirws eu llacio ddigon ar gyfer bowlio gan gadw pellter cymdeithasol fis yn ôl.

Clwb Bowlio Caerllion
Clwb Bowlio Caerllion

 

“Gyda refeniw y bar i lawr, mae’r tymor yma wedi bod yn anodd yn ariannol gan mai dim ond ffioedd yr aelodau sy’n dod i mewn,” meddai George.

“Os bydd y tymor nesaf yn un arferol, fe fydd posib i ni oroesi colledion eleni gobeithio.  

“Ond os bydd tarfu o hyd yr haf nesaf oherwydd y pandemig – rhwng mis Ebrill a mis Medi – fe fydd gen i bryderon mawr am y dyfodol. Ac nid dim ond ar gyfer y clwb yma mae’r pryderon hynny, ond pob clwb bowlio yng Nghymru.”

Dylai hynny fod yn bryder nid dim ond i bobl sy’n hoff o chwaraeon ledled y wlad ond i unrhyw un sy’n cydnabod gwerth cymdeithasol camp y gall pob oedran ei chwarae.            

Roedd y cyfyngiadau symud am fisoedd yn fygythiad mawr i rai o ran bod yn ynysig – her a gafodd ei chydnabod yn gyflym iawn gan George a swyddogion eraill y clwb yng Nghaerllion.

“Mae nifer o’n haelodau ni’n byw ar eu pen eu hunain felly fe wnaethon ni wneud yn siŵr ein bod ni’n cadw mewn cysylltiad dros y ffôn.

“Felly mae wedi bod yn grêt iddyn nhw gael mynd yn ôl ar y lawnt i ymarfer a chael awyr iach, ac mae cymdeithasu yr un mor hanfodol hefyd. Hyd yn oed wrth gadw pellter o ddau fetr, fe allwch chi gael sgwrs braf yr un fath. 

“A diolch i’r cynnal a chadw hanfodol ar y lawnt, mae gennym ni arwyneb chwarae da hefyd, felly mae digon i’w drafod.”