Skip to main content

Athletwyr Pen-y-bont ar Ogwr wrth eu bodd yn ôl ar y trac

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Athletwyr Pen-y-bont ar Ogwr wrth eu bodd yn ôl ar y trac

Mae aelodau Clwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr ar ben eu digon y dyddiau hyn.  

Nid yn unig maen nhw wrth eu bodd yn mwynhau’r rhyddid i ymarfer eto, ond hefyd mae ganddyn nhw fonws ychwanegol o drac wedi’i wynebu o’r newydd.

Fel plant pan ddaw’r Nadolig, mae’r athletwyr wedi gorfod aros yn amyneddgar a dim ond edmygu’r trac newydd o bell drwy’r giatiau dan glo wrth iddyn nhw fynd heibio ar eu teithiau cerdded dyddiol yn ystod wythnosau cyntaf y cyfyngiadau symud.

Nawr, gyda’r cyfyngiadau wedi’u llacio a’r sesiynau’n weithredol eto, ond gydag addasiadau, mae aelodau Clwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu camu ar y trac 300m o’r diwedd. Cafodd y trac arwyneb newydd yn ystod y gwanwyn diolch i gyllid o £50,000 o gronfa ‘Lle i Chwaraeon’ gan Chwaraeon Cymru, ynghyd â chyfraniadau gan y clwb ei hun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd cyllid Lle i Chwaraeon ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru i Chwaraeon Cymru y llynedd fel bod posib dyfarnu grantiau i wella, diogelu neu greu cyfleusterau chwaraeon newydd yng Nghymru. 

Helpodd yr arian yma i gyllido mwy na 150 o brosiectau oedd o fudd i 28 o wahanol chwaraeon ym mhob cornel o’r wlad. Roedd y prosiectau’n amrywio o draciau beicio newydd i adnewyddu ystafelloedd newid, caeau artiffisial newydd, gosod llifoleuadau yn eu lle, robotiaid hyfforddi tennis bwrdd a phopeth yn y canol! 

Dywedodd Alan Kerr, Cadeirydd Clwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr: “Oherwydd y tywydd gwlyb dychrynllyd gawson ni’r gaeaf diwethaf, doedd dim posib i ni gwblhau’r trac yn llawn tan ychydig cyn i’r argyfwng yma ein taro ni. Mae pawb wedi bod yn dyheu am ei ddefnyddio, felly mae’n wych i’n haelodau ni i allu gwneud hynny o’r diwedd. Mae llawer iawn o gyfraniad wedi bod gan ein gwirfoddolwyr ni er mwyn i ni gael ailddechrau eto ac rydyn ni’n edrych ymlaen at fanteisio ar yr hyn sydd ar ôl o’r tymor.”

Am nawr, mae’r trac yn gyfyngedig i aelodau yn unig wrth i’r clwb addasu i gyfarwyddyd newydd y coronafeirws sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Athletau Cymru er mwyn gwneud amgylcheddau mor ddiogel â phosib. Mae mesurau hylendid a chadw pellter cymdeithasol newydd yn eu lle, ac mae Clwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr wedi torri’r gwair i gael lonydd ychwanegol yn y glaswellt y tu mewn i ganol y trac hyd yn oed, i’w gwneud yn haws i gadw’r athletwyr ar wahân. 

Wrth ganmol ymdrechion clybiau athletau ledled Cymru sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau dychwelyd at y gamp maen nhw mor hoff ohoni, dywedodd James Williams, Prif Weithredwr Athletau Cymru: “Mae ein camp ni wedi’i hadeiladu o amgylch gwirfoddolwyr angerddol a brwd. Drwy gydol y cyfyngiadau symud, roeddwn i’n falch iawn o ffyrdd arloesol a dyfeisgar y clybiau o gynnal diddordeb eu haelodau a’u cael i ddal ati i gymryd rhan. Ers hynny, mae’r clybiau wedi dangos mwy fyth o ymrwymiad i gadw at yr holl gyfarwyddyd diogelwch angenrheidiol. Mae’r ymdrechion hynny’n cael eu gwerthfawrogi yn sicr gan bawb cysylltiedig ag athletau yng Nghymru.”

Ewch i wefan Athletau Cymru i gael gwybod mwy am eu cyfarwyddyd ar y coronafeirws.