Skip to main content

Clod i’r hyfforddwyr sy’n sicrhau dychwelyd diogel at chwaraeon

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Clod i’r hyfforddwyr sy’n sicrhau dychwelyd diogel at chwaraeon

Mae Chwaraeon Cymru yn dathlu Wythnos Hyfforddwyr y DU (14-18 Medi) drwy ddiolch i’r holl hyfforddwyr chwaraeon ymroddedig sy’n addasu i heriau cadw’r genedl yn actif yn ystod y cyfnod anodd yma.

O lawr gwlad i elitaidd, mae rôl yr hyfforddwr chwaraeon yn bwysicach nag erioed. Yn ystod y cyfyngiadau symud, roedd grwpiau whatsapp clybiau’n pingio i sain hyfforddwyr yn cynnal diddordeb eu haelodau gyda syniadau ar gyfer hyfforddi gartref, a rhoddodd lawer gynnig ar sesiynau ar-lein ar zoom.

Ers llacio’r cyfyngiadau, mae hyfforddwyr wedi croesawu canllawiau newydd Covid-19 er mwyn sicrhau dychwelyd diogel at chwaraeon. Maen nhw wedi gorfod dod yn gyfarwydd yn gyflym iawn â’r holl ofynion glanhau a chadw pellter cymdeithasol angenrheidiol ac addasu eu sesiynau yn unol â hynny.
 

Hyfforddwr yn helpu canŵiwr ifanc

 

Yn y cyfamser, ar gyfer y rhai sy’n ystyried cymryd rhan, mae’n haws nag erioed nawr i wirfoddolwyr newydd gymryd eu camau cyntaf ar yr ystol hyfforddi diolch i’r nifer cynyddol o gyrsiau ar-lein mae cyrff rheoli’n eu darparu.

Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, y sefydliad sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru: “Mae chwaraeon yng Nghymru angen eu hyfforddwyr yn fwy nag erioed. Mae nifer dirifedi o arwyr tawel allan yna sy’n gweithredu’n gwbl wirfoddol ac yn gwneud ymdrech enfawr i helpu chwaraeon yng Nghymru i oroesi.       

“Fel sefydliad byddem yn hoffi ymuno â’r holl gyfranogwyr, rhieni a chymunedau ledled Cymru i fynegi ein diolch am eu hymdrechion. Heb ein hyfforddwyr, byddai manteision anhygoel cymryd rhan mewn chwaraeon yn cael eu colli i gymaint o bobl. 

“Hefyd byddem yn hoffi cydnabod gwaith eithriadol y partneriaid rydyn ni’n eu cyllido, fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Pêl Rwyd Cymru ac Undeb Rygbi Cymru, am yr arloesi sydd wedi’i wneud ganddyn nhw wrth addasu i’r amgylchiadau newydd drwy ddatblygu mwy o gyrsiau ar-lein i roi hwb i sgiliau a hyder ymhlith hyfforddwyr. Mae cyrff rheoli eraill gan gynnwys Ffensio Cymru hefyd yn diwygio cynnwys eu cwrs i ddysgu’r wybodaeth dechnegol ofynnol i hyfforddwyr er mwyn cynnal eu sesiynau ar-lein eu hunain.” 
 

 Hyfforddwr Gower Riders yn arwain sesiwn feicio ar-lein
Hyfforddwr Gower Riders yn arwain sesiwn feicio ar-lein

 

Awgrymodd ymchwil a gynhaliwyd yn ystod y cyfyngiadau symud gan Savanta ComRes ar ran Chwaraeon Cymru bod byddin o wirfoddolwyr newydd yn awyddus i chwarae eu rhan mewn helpu chwaraeon ar lawr gwlad i adfer wedi argyfwng Covid-19.

Ar hyn o bryd mae tua 10 y cant o bobl yng Nghymru’n gwirfoddoli mewn chwaraeon, ond gallai’r nifer hwnnw dreblu’n fuan wrth i 30% o oedolion a gymerodd ran mewn arolwg ar arferion ymarfer yn ystod y cyfyngiadau symud ddweud y byddent yn hoffi gwirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf er mwyn cefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.           

Gyda phoblogaeth o ychydig dros dair miliwn yng Nghymru, mae hyn yn awgrymu bod tua miliwn o bobl yn ystyried gwirfoddoli mewn chwaraeon!      

Ychwanegodd Sarah Powell: “Mae’n amlwg bod gwahaniaeth rhwng bwriadau da a gwneud ymrwymiad cadarn i hyfforddi, ond mae’n wych clywed bod grŵp mawr o bobl o bosib sydd â brwdfrydedd newydd dros gymryd rhan mewn rhyw ffordd. Bydd ymdrech ar y cyd yn hanfodol wrth i ni geisio gwarchod y cyfleoedd chwaraeon rydyn ni wedi gweithio mor galed i’w datblygu yng Nghymru.”

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli, siaradwch gyda’ch clwb lleol i gael gwybod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael. 

Os ydych chi’n rhedeg clwb chwaraeon yng Nghymru ac os hoffech chi gael cyngor ar recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr, ewch i www.atebionclwb.cymru i gael gwybod mwy.