“Rydw i’n meddwl y byddwn ni’n gweld gwell athletwyr yr ochr arall i hyn,” meddai Nicholas.
“Yn sicr rydyn ni’n gweld nofwyr sydd wedi cael adfywiad yn feddyliol. Er eu bod nhw wedi dyheu am ddod yn ôl, mae nofio’n gamp heriol gydag athletwyr yn y pwll ddwywaith y dydd a gall rhai o’r dyddiau hynny deimlo’n debyg iawn weithiau.
“Hwn ydi’r seibiant mwyaf o’r pwll mae’r rhan fwyaf o’r athletwyr yma wedi’i gael ers 10 neu 15 mlynedd. Ond maen nhw’n dweud wrthyn ni eu bod nhw’n caru eu camp o’r newydd. Gydag egni newydd.
“Mae’r rhain yn bobl ddechreuodd nofio yn chwech neu saith oed. Maen nhw’n ymuno â chlwb nofio, yn dangos talent, yn mynd i sesiynau hyfforddi bump i chwe gwaith yr wythnos a chyn pen dim, maen nhw’n cystadlu mewn cystadlaethau cenedlaethol.
“Wedyn, maen nhw’n mynd i ddyfroedd rhyngwladol ac efallai nad ydyn nhw wedi cael amser i adlewyrchu ar ba mor rhyfeddol mae eu siwrnai wedi bod – ond mae’r seibiant yma wedi rhoi cyfle iddyn nhw wneud hynny.”
Efallai mai’r ailgysylltu emosiynol hwnnw â’r gamp oedd Thomas – a enillodd aur i Gymru yn y Gemau Cymanwlad diwethaf – yn ei awgrymu pan siaradodd yn ddiweddar am golli’r pwll mor ofnadwy fel ei bod yn treulio mwy o amser yn loetran yn y gawod.
Efallai nad yw’r nofwyr elitaidd wedi gallu bod yn unrhyw rai o’r pyllau sydd wedi cau ledled y DU, ond maen nhw wedi gallu dal ati i hyfforddi.
I griw bach lwcus – yn byw o fewn pum milltir i’r arfordir pan oedd y cyfyngiadau ar eu llymaf – roedd opsiwn i ymarfer yn yr awyr agored mewn dŵr agored.
Ond i’r rhan fwyaf, roedd yn golygu gweithio ar gryfder a siapio, a gwaith beicio, ioga, pilates ac ymarferion llif, i efelychu symudiadau yn y pwll.
“Rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o wahanol dechnegau nawr,” meddai Nicholas. “Mae’n bur debyg ein bod ni wedi symud o sefyllfa lle mae ymarferion tir wedi bod yn llai na 5% o’u gwaith – i un nawr lle mae’n fwy fel 25 neu 30%.
“Mae’n rhaid i ni ddal ati i edrych ar bob athletwr a’u nodweddion a gofyn sut allwn ni eu datblygu a’u gwella nhw. Weithiau, ni fydd y budd gorau’n dod o nofio o angenrheidrwydd.
“Mae Alys wedi bod yn gwneud llawer o waith ar y beic ac mae wedi mwynhau hynny. Mae’n dweud ei bod yn teimlo’n llawer cryfach yn aelodau isaf y corff, felly bydd yn ddiddorol sut bydd hi’n gwneud pan fyddwn ni’n cynnal rhai profion a hyfforddiant dwysedd uchel.”
Mae Thomas yn un o 11 o nofwyr sy’n defnyddio’r pwll 25m ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd. Am resymau economaidd, nid oedd yn cael ei ystyried yn ymarferol agor y pyllau 50m yn Abertawe a Chaerdydd.
Ochr yn ochr â hi a Jervis mae Kathryn Greenslade, Chloe Tutton, Xavier Castelli, Kyle Booth, Harriet Jones, Medi Harris, Lewis Fraser, Dylan Broom a Rhys Davies.
Maen nhw’n cwblhau gwasanaeth monitro dyddiol drwy ap cyn dod i’r pwll, teithio ar eu pen eu hunain neu gydag aelod o’r teulu, ac mae eu tymheredd yn cael ei gymryd cyn maen nhw’n gallu mynd i mewn i’r dŵr.
Maen nhw’n gwisgo masgiau nes eu bod nhw’n mynd i mewn i’r pwll, mae ardaloedd newid a chynhesu unigol ar gael ac mae’r nofwyr yn defnyddio lôn unigol. Mae’r hyfforddwyr yn gwisgo masg hefyd nes bod y nofwyr i gyd yn eu safle i nofio a chlywed cyfarwyddyd.
Os bydd popeth yn mynd yn dda, y gobaith yw y caiff y grŵp nesaf o nofwyr – y rhai ar y lefel oddi tanynt – ddychwelyd i’r pwll yn fuan hefyd ac, yn ei dro, gall hyn baratoi’r ffordd ar gyfer nofwyr clwb ledled Cymru.
Yr hyn sydd dal yn ansicr iawn gan fod bygythiad Covid-19 yn parhau yw pryd fydd rasio cystadleuol yn cael dychwelyd yn y DU a’r byd yn ehangach.
Mae disgwyl i obeithion Olympaidd fel Thomas, Jervis a Davies fod yn anelu eu hyfforddiant ar gyfer y rowndiau cymhwyso Olympaidd tua mis Ebrill y flwyddyn nesaf, gyda’r nod o gael lle yn nhîm Prydain Fawr ar gyfer y Gemau yn Tokyo dri mis yn ddiweddarach.
Tan hynny, fodd bynnag, mae siâp a gwedd nofio trefnus, cystadleuol i’r athletwyr elitaidd yn parhau’n ansicr iawn.
Mae Nicholas yn credu bod rhaid i’r gamp fabwysiadu dull dychmygus o weithredu, hyd yn oed os yw hynny’n golygu defnyddio technoleg i gyfateb nofwyr sy’n methu rasio pen i ben.
“Dydyn ni ddim yn gwybod a yw’n mynd i fod yn bosib, nac yn ymarferol yn ariannol, mynd yn ôl i gystadlu’n rhyngwladol eleni,” meddai.
“Efallai y bydd angen Cynllun A, Cynllun B, ac C a D hefyd. Yr hyn fydd yn allweddol fydd addasu a bod yn hyblyg i amgylchiadau’n newid.
“Mae hwn yn bandemig byd-eang ond mae cyfle enfawr i’r gamp dorri traddodiad a meddwl am ffurfiau newydd a chyffrous ar gystadlu, ar gyfer y nofwyr a’r gwylwyr.
“Hyd yn oed os nad yw’r nofwyr yn yr un lleoliad, efallai y bydd technoleg yn galluogi iddyn nhw rasio ar yr un pryd. Rhaid i ni gael meddwl agored.”