Skip to main content

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. 5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod newid yn yr hinsawdd yn cael effaith ddinistriol ym mhob rhan o’r byd. Ond ydych chi wedi ystyried faint mae chwaraeon yng Nghymru yn teimlo effeithiau llifogydd, gwres eithafol, a phrinder dŵr hefyd? A sut gall chwaraeon chwarae eu rhan wrth amddiffyn ein planed ni?

I helpu clybiau a sefydliadau i wneud eu rhan i leihau eu heffaith amgylcheddol, mae hwb ar-lein newydd gwych ar gael yn llawn syniadau, canllawiau a gwybodaeth.

Felly, beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Arbed arian

Yn ogystal â helpu'r blaned, gall dod yn glwb mwy cynaliadwy eich helpu chi i arbed arian hefyd.

Gall paneli solar, goleuadau LED ynni-effeithlon a synwyryddion symudiad, gwell systemau gwresogi a dŵr poeth eich helpu chi i gyd i ostwng eich biliau ynni.

Oeddech chi’n gwybod bod 58 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi derbyn Grant Arbed Ynni gan Chwaraeon Cymru i helpu i dalu cost mesurau arbed ynni?

Yn Llandudno, mae Clwb Golff Maesdu yn gweithio gyda Dŵr Cymru a’i brosiect Rainscapei gynaeafu dŵr fel bod posib ei ddefnyddio mewn chwistrellwyr o amgylch y cwrs, gan leihau dibyniaeth y clwb ar system y prif gyflenwad – a lleihau costau.

Mwy o wybodaeth am beth mae Golff Cymru yn ei wneud i chwarae ei ran.

Cyngor Doeth: Cadwch lygad am gyfle arall i wneud cais am Grant Arbed Ynni yn fuan!

Denu pobl newydd

Mewn byd sy'n ymdrechu i fod yn sero net, bydd aelodau newydd a gwirfoddolwyr yn gwerthfawrogi'r ymdrechion rydych chi’n eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Fwy a mwy, mae cwsmeriaid eisiau gwneud penderfyniadau moesegol felly cofiwch dynnu sylw at y camau rydych chi'n eu cymryd i fod yn wyrddach.

Yn 2023, dywedodd Run 4 Wales bod 75% o’r cyfranogwyr a gwblhaodd arolygon ar ôl digwyddiad gyda nhw wedi nodi bod diogelu’r amgylchedd yn bwysig iawn iddyn nhw wrth ddewis digwyddiadau. Dywedodd 21% pellach ei fod yn bwysig.

Dywedodd Gareth Ludkin, y Pennaeth Cynaliadwyedd yn Run 4 Wales:

“Rydyn ni’n gweld bod cyfranogwyr yn cael eu dylanwadu fwyfwy gan gynaliadwyedd wrth benderfynu pa ddigwyddiadau i gymryd rhan ynddyn nhw. Rydyn ni wedi lansio Cronfa Gweithredu dros yr Hinsawddsydd wedi codi £38,000 hyd yn hyn. Mae’n rhoi cyfle i’n cyfranogwyr ni gefnogi prosiectau cadwraeth, lleihau carbon ac addasu i’r hinsawdd.”

Cyngor Doeth: Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n hyrwyddo'r hyn rydych chi'n ei wneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar. Edrychwch ardudalen Cynaliadwyedd Run 4 Walesam rai syniadau.

Plogwyr Run 4 Wales - grŵp o bobl sy'n casglu sbwriel i'w ailgylchu wrth iddynt redeg
Plogwyr Run 4 Wales - grŵp o bobl sy'n casglu sbwriel i'w ailgylchu wrth iddynt redeg

Gwella eich enw da

Bydd cymryd camau bach i fod yn fwy cynaliadwy yn gwella eich enw da gyda noddwyr a phartneriaid.

Llwyddodd Clwb Rygbi Uplands Abertawe i hawlio’r penawdau hyd yn oed pan wnaethon nhw roi’r gorau i ddefnyddio plastig untro.

Dywedodd Trysorydd y Clwb, Peter Hansford:

“Mae pobl yn fwyfwy angerddol am yr amgylchedd ac maen nhw’n ymwybodol o’r hyn rydyn ni’n ei wneud fel clwb. Ac mae hefyd yn cael ei gydnabod gan ein cyllidwyr ni. Mae URC a Chwaraeon Cymru yn gofyn beth rydyn ni’n ei wneud i fod yn fwy cynaliadwy yn eu ceisiadau am gyllid.”

Cyngor Doeth: Cadwch gofnod o’r holl gamau rydych chi’n eu cymryd i’w cynnwys mewn ceisiadau am gyllid yn y dyfodol.

Creu teimlad da

Gall cydweithio fel clwb ar fentrau amgylcheddol gyfeillgar hybu morâl ymhlith aelodau a gwirfoddolwyr.

Mae Rhwyfwyr Llandysulyn gwneud eu rhan yn sicr i lanhau Afon Teifi. Yn eu canŵs, eu rafftiau a’u caiacs, maen nhw'n clirio cymaint o sbwriel â phosib.

Dywedodd Joey Chapman o’r clwb: “Fe gawson ni fwy na 50 o bobl wedi dod lawr i helpu. Mae'n dod â ni at ein gilydd fel clwb ac fe gymerodd lawer o'r rhieni ran. Rydyn ni wrth ein bodd yn mynd â phobl allan i’r afon ac rydyn ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig iawn helpu i’w gwneud yn lle glanach a’i gwarchod hi rhag difrod fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu ei mwynhau.”

Cyngor Doeth: Cofiwch fynd ati i ofyn i'ch aelodau oes unrhyw brosiectau amgylcheddol y gallech chi ymgymryd â nhw fel clwb.

Cynyddu ymgysylltu cymunedol

Mae gweithio i wella eich amgylchedd lleol yn rhoi eich clwb chwaraeon chi wrth galon y gymuned. Mae bod yn fwy cynaliadwy yn dangos bod yr ardal o'ch cwmpas chi’n bwysig i chi.

Mae Clwb Rygbi’r Trallwng, ynghyd â Phonthafren – elusen sy’n helpu pobl gyda’u hiechyd meddwl – yn trefnu sesiynau casglu sbwriel o amgylch y dref yn rheolaidd ac mae hefyd wedi cefnogi cynghorwyr lleol gyda phrosiectau plannu coed. Dywedodd Huw Williams, Swyddog Cymuned a Lles y clwb:

“Mae’r clwb wedi cael ei gydnabod am ei ymdrechion gan y gymuned leol. Mae cynghorydd lleol wedi ymgysylltu mwy â’r hyn rydyn ni’n ei wneud ers i ni ddechrau hyn. Maen nhw wedi’n gweld ni’n casglu sbwriel ac maen nhw wedi gofyn a fydden ni’n gallu helpu gyda phlannu coed o ganlyniad. Mae ymuno â Phonthafren yn ffordd wych o gael pobl newydd i gymryd rhan ac rydyn ni’n defnyddio’r cyfle i ddweud popeth wrthyn nhw am ein rhaglen rygbi cerdded ni.”

Cyngor Doeth: Holwch a oes mentrau lleol y gallwch chi eu cefnogi ac annog elusennau lleol i gymryd rhan.

Pedwar aelod o Glwb Rygbi'r Trallwng yn casglu sbwriel
Pedwar aelod o Glwb Rygbi'r Trallwng yn casglu sbwriel
Dau aelod o Glwb Rygbi Y Trallwng yn plannu coed
Dau aelod o Glwb Rygbi Y Trallwng yn plannu coed

Felly sut gall eich clwb chi ddechrau ar ei siwrnai cynaliadwyedd?

Ewch ati i roi cychwyn i’ch sgwrs gynaliadwy – os ydych chi’n glwb neu’n sefydliad chwaraeon, ewch i’r hwb ar-lein newyddsydd â gwybodaeth ddefnyddiol iawn, gan gynnwys taflenni gwaith, fideos a chanllawiau. Hefyd, efallai y byddwch chi eisiau...

Newyddion Diweddaraf

Sut perfformiodd athletwyr Cymru ym Mharis 2024?

Wel mae wedi bod yn haf gwych! Efallai bod Paris 2024 wedi dod i ben, ond bydd atgofion Olympiaid a…

Darllen Mwy

‘Oedi’ Cronfa Cymru Actif ar gyfer ceisiadau newydd

Oherwydd y nifer aruthrol o geisiadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn eleni, mae Chwaraeon Cymru yn oedi…

Darllen Mwy

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy