Skip to main content

7 ffordd mae Cronfa Cymru Actif wedi cefnogi chwaraeon eira yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. 7 ffordd mae Cronfa Cymru Actif wedi cefnogi chwaraeon eira yng Nghymru

Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf wedi dechrau yn Beijing ac mae sylw’r genedl eisoes wedi'i hoelio ar wefr, campau, beiddgarwch a sgiliau Tîm Prydain Fawr.

Ond yn nes at adref, yma yng Nghymru, mae Cronfa Cymru Actif yn cefnogi clybiau sy’n arbenigo mewn chwaraeon gaeaf drwy gydol y flwyddyn.

Crëwyd Cronfa Cymru Actif yn 2020 gyda’r bwriad o ddiogelu a sicrhau cynnydd clybiau a sefydliadau chwaraeon cymunedol drwy bandemig Covid-19 a thu hwnt.

I wneud yn siŵr nad oedden nhw’n mynd oddi ar y piste ar ôl Covid-19, gwnaeth saith o glybiau chwaraeon eira gais i Gronfa Cymru Actif …

Curo'r cloc

Teimlo'r gwynt yn eich gwallt wrth i chi sgïo i lawr allt? Does dim byd gwell. Wel, a dweud y gwir, oes… cyrraedd y gwaelod a darganfod eich bod wedi cyflawni gorau personol.

A dyna’n union beth mae aelodau Clwb Sgïo Caerdydd yn ei ddathlu ar ôl iddyn nhw dderbyn £3571 o Gronfa Cymru Actif ar gyfer offer amseru.

Sglefrio iâ ar dir sych

Pan gafodd Arena Iâ Cymru ei gorfodi i gau ei drysau am bron i 17 mis oherwydd Covid, roedd Synchro Cardiff - clwb sglefrio iâ - yn fwy penderfynol nag erioed o ddal ati.

Er mwyn cadw ei sglefrwyr yn heini, yn hyblyg ac mewn hwyliau da, daeth y clwb at ei gilydd i gyflwyno cais i Gronfa Cymru Actif.

Ar ôl derbyn grant o £3210, roedd y clwb yn gallu llogi neuaddau chwaraeon a chynnal sesiynau ballet ac ymestyn, cryfder a chyflyru, pilates a choreograffi dawns oddi ar yr iâ.

Hwre’r Huskies am gyllid

Pan oedd Huskies Caerdydd yn cael mynd yn ôl ar yr iâ, roedden nhw angen gwneud hynny’n ddiogel. Mae gan lawer o’r chwaraewyr hoci iâ para broblemau iechyd sylfaenol ac maen nhw wedi bod yn gwarchod eu hunain drwy’r pandemig ac felly mae diogelwch wedi bod yn hanfodol. 

Buddsoddodd Cronfa Cymru Actif £645 mewn gorchuddion wyneb, offer diheintio a chonau marcio. 

Cadw’n ddiogel 

Mae Ski4all Wales yn ymwneud â chreu profiadau a chyfleoedd sy’n newid eu bywydau i oedolion ag anableddau corfforol, gweledol a niwrolegol, fel rhan o raglen adfer.                     

Wedi'i leoli yng Nghanolfan Sgïo Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin, rhoddwyd £1500 i'r clwb i brynu hancesi gwlyb, masgiau, menig, gel gwrthfacteria ac offer glanhau arall er mwyn iddo allu dal ati i wneud ei waith anhygoel!

Hyfforddi'r hyfforddwyr

Ar ôl y pandemig, gadawyd Clwb Sgïo Torfaen gyda llai o hyfforddwyr cymwys i ddysgu eu sgiliau cyntaf i ddechreuwyr ar y llethrau a chafodd ei orfodi i wrthod cwsmeriaid.

Drwy wneud cais i Gronfa Cymru Actif, llwyddodd i sicrhau £1360 i fuddsoddi mewn datblygu hyfforddwyr. Y cynllun yw annog yr aelodau presennol i ddod yn hyfforddwyr a helpu i redeg y clwb.

Criw o ddynion yn eistedd ar y llawr rinc inc yn siarad tra'n gwisgo gwisgoedd Huskies Caerdydd.

 

O rinc sglefrio i ysbyty enfys

Cafodd Clwb Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy 24 awr o rybudd cyn i’w gartref yn y ganolfan hamdden leol gael ei drawsnewid yn Ysbyty Enfys, i helpu gyda gofynion argyfwng Covid-19. Wrth ysgrifennu’r nodyn yma, mae'r rinc sglefrio yn dal i gael ei defnyddio fel canolfan frechu.

Gyda grant o £615, sicrhaodd Cronfa Cymru Actif bod y clwb yn gallu storio ei offer yn ddiogel. Mae hefyd wedi talu am gost yswiriant ac aelodaeth o’r Corff Rheoli Cenedlaethol er mwyn i’r clwb allu trefnu sesiynau pilates ac ymestyn ar-lein.

Glân gloyw 

Ar ôl i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio, roedd sgïwyr ac eirafyrddwyr yng Nghlwb Chwaraeon Eira Gogledd Cymru yn ysu am fynd yn ôl ar y llethr yn Llandudno. Camodd Cronfa Cymru Actif i’r adwy yn gyflym gyda mwy na £900 ar gyfer chwistrell diheintio, masgiau wyneb tafladwy a hancesi gwlyb.

 

Mae Cronfa Cymru Actif, sy’n werth £4 miliwn, wedi bod yn bosibl drwy arian y mae Chwaraeon Cymru yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.

Allai eich clwb chi elwa o gyllid? Mae elfen Cynnydd Cronfa Cymru Actif ar agor o hyd.

Bwriad y grant hwn yw helpu clybiau a sefydliadau cymunedol i wneud y canlynol:

  • Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb
  • Creu atebion hirdymor i fod yn fwy cynaliadwy
  • Mabwysiadu dull arloesol o weithredu 

Gall y grant Cynnydd ariannu eitemau sy’n hanfodol ar gyfer dychwelyd i chwarae hefyd.

Mae grantiau o £300 i £50,000* ar gael. 

* Bydd angen i chi wneud cyfraniad o 10% ar gyfer grantiau dros £10k neu 20% dros £25k.