Skip to main content

7 gweithgaredd chwaraeon y gallwch eu mwynhau gyda’r teulu yr haf yma

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. 7 gweithgaredd chwaraeon y gallwch eu mwynhau gyda’r teulu yr haf yma

Beth am fwynhau haf llawn chwaraeon anhygoel i’ch ysbrydoli, a rhoi cyfle i’r teulu cyfan fod ‘Nôl yn y Gêm’?

Gyda’r cyfyngiadau’n llacio, mae modd bellach i oedolion a phlant yng Nghymru ddychwelyd at y rhan fwyaf o’r chwaraeon a’r gweithgareddau ffitrwydd roedden nhw’n eu mwynhau cyn i’r pandemig daro.

Boed hynny’n golygu bod yn rhan o dîm, y teimlad yna rydych chi’n ei gael o sesiwn galed o ymarfer corff, cyfle i gwrdd â ffrindiau, rhyddhau eich ochr gystadleuol, neu’r pleser syml o gael y bêl i mewn ar un cynnig, mae’n bryd i Gymru fwynhau unwaith eto.

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio ymgyrch #NôlynyGêm gyda’r nod o ysbrydoli pobl i syrthio mewn cariad â chwaraeon ac ymarfer corff unwaith eto yr haf yma.

Mae yna ddigwyddiadau a gweithgareddau’n digwydd ledled y wlad, gyda rhywbeth i bawb ei fwynhau. Felly beth am ailddechrau’r chwaraeon a’r gweithgareddau roeddech chi a’ch teulu yn eu mwynhau cyn y pandemig, neu ddefnyddio’r cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd?

1. Dewiswch weithgaredd Haf o Hwyl

 

Ar ôl misoedd heriol a llai o gyfleoedd i’ch plant wneud ymarfer corff a’r pethau maen nhw’n eu mwynhau, beth am gael haf o hwyl?

Mae rhaglen Haf o Hwyl yn llawn digwyddiadau sy’n cael eu rhedeg gan bob cyngor ledled Cymru tan 30 Medi. Mae’n cynnig ystod o weithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliannol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed - ac mae rhai ohonyn nhw am ddim.

I gael gwybodaeth am y gweithgareddau sy’n digwydd yn eich ardal chi, ewch i wefan Haf o Hwyl.

2. Bachwch eich beic

 

Ydych chi am i’r plant gael rhywfaint o awyr iach, neu hoffech chi eu helpu nhw i fagu hyder ar y beic?

Mae digonedd o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ledled Cymru dros yr haf sy’n addas i bobl o bob oed a gallu ac i helpu pawb i ailddechrau beicio.

Archebwch le heddiw drwy fynd i wefan Beicio Cymru. Gallwch hefyd anfon e-bost at [javascript protected email address] i gael rhagor o wybodaeth.

3. Gwnewch filltir yn Her Actif y Genedl

 

Os ydych chi’n chwilio am ffordd o gael y teulu cyfan i fod yn heini yn ystod gwyliau’r haf, yna mae her arbennig ar eich cyfer.

Mae Run4Wales wedi lansio Her Actif y Genedl, sy’n gofyn i bobl Cymru ymuno â nhw rhwng 6 ac 8 Awst ac i ddechrau symud unwaith eto drwy gofrestru i gerdded, loncian, neu redeg milltir rhwng 6 ac 8 Awst.

Mae mynediad AM DDIM a gall unrhyw un gymryd rhan. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i’r wefan.

4. Mireiniwch eich sgiliau mewn gwersyll criced

 

Hoffech chi i’ch plentyn roi cynnig ar hobi neu sgil newydd yr haf yma?

Os felly, beth am roi cynnig ar griced - rhywbeth y gallwch ei chwarae mewn unrhyw fan gwyrdd fwy neu lai. Os yw eich plant rhwng 5 ac 11 oed, mae gan Criced Cymru ddigwyddiadau ym mhob rhan o’r wlad, gydag wythnosau llawn dop o hwyl, gweithgareddau a datblygu sgiliau.

Er mwyn dysgu mwy, ewch i wefan Criced Cymru.

5. Cofrestrwch am wersyll rygbi am ddim

 

Cymerwch ysbrydoliaeth gan daith y Llewod yn Ne Affrica, ac ennyn diddordeb eich plant mewn rygbi am ddim.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn cynnal gwersylloedd am ddim mewn clybiau rygbi ledled Cymru dros yr haf ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 6 a 15 oed.

Bydd y cyfan yn digwydd ar draws 96 safle, ac mae’n cynnwys diwrnod o sgiliau rygbi hwyliog, gyda chinio wedi’i ddarparu.

I ddysgu mwy, anfonwch e-bost at [javascript protected email address].

6. Rhowch gynnig ar weithgaredd tebyg i driathlon

 

Os oes gan eich plant ddigon o egni a’u bod wrth eu boddau’n rhoi cynnig ar wahanol sgiliau, yna mae’n bosib y bydd triathlon yn berffaith i chi.

Gweithgaredd bach tebyg i driathlon yw Tri Active Cymru, a gall fod ar ffurf triathlon (nofio, beicio, rhedeg); acwathlon (nofio, rhedeg); neu ddeuathlon (rhedeg, beicio, rhedeg).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Triathlon Prydain neu anfonwch e-bost at [javascript protected email address].

7. Sblasiwch mewn sesiynau nofio am ddim

 

Mae pob canolfan hamdden yng Nghymru yn cynnig sesiynau nofio am ddim neu am bris gostyngol i bobl o dan 16 oed ar hyn o bryd.

Mae’n gyfle i fwynhau’r dŵr, cael hwyl, a sblasio gyda’r teulu. O bodiau teuluol i sesiynau hyder dŵr, mae pob awdurdod lleol yn cynnig darpariaeth unigryw.

Cysylltwch â’ch pwll lleol i weld beth sydd ganddyn nhw ar gyfer pobl o dan 16 oed o dan y “cynllun nofio am ddim”.

Nôl yn y Gêm
 

Gobeithio y byddwch chi wedi cael eich ysbrydoli i gofrestru ar gyfer un neu fwy o’r gweithgareddau yma. Ond os oes angen rhagor o ysbrydoliaeth arnoch chi, gallwch weld sut mae pobl eraill yn rhoi cynnig ar fod ‘Nôl yn y Gêm’ drwy fynd i wefan Chwaraeon Cymru.

Newyddion Diweddaraf - Unigolion a Theuluoedd

Hwb i chwaraeon eira drwy uwchraddio llethrau artiffisial

Mae Cymru'n dod yn lle gwell ar gyfer chwaraeon eira diolch i arian grant o £100,000 gan Chwaraeon Cymru…

Darllen Mwy

Dynion a Merched gyda’i gilydd – rhai o’r tueddiadau mewn chwaraeon cymysg

Yn y  1970au gwelwyd Brwydr y Rhywiau rhwng seren y byd tennis i ferched  Billie Jean King…

Darllen Mwy

Mae’n amser am Ionawr Tri

Mae llawer o bobl yn addo cael Ionawr Sych y mis yma, ond beth am Ionawr Tri?Mae Triathlon Cymru yn…

Darllen Mwy