Roedd Anna Markall o Glwb Triathlon Caerffili yn un o'r rhai digon dewr i brofi'r dŵr yn Llandegfedd.
“Rydw i’n nofio yn y môr fel rhan o fy hyfforddiant triathlon. ’Sa i erioed wedi nofio mewn cronfa ddŵr o’r blaen, ond roedd yn braf mynd i mewn, ”meddai. “Roedd yn rhewi!
“Rydw i wedi nofio mewn dŵr agored ers tair neu bedair blynedd. Mae wedi bod yn rhywbeth gwahanol ac yn her oherwydd nid yw nofio wedi bod yn hawdd i mi. Rydw i wedi gorfod gweithio arno ac rydw i’n dal i gael anhawster weithiau.
“Ond rydw i’n 50 eleni felly mae wedi bod yn braf gwneud rhywbeth newydd sy’n gwneud i chi deimlo’n dda. Rydw i wedi cwrdd â llawer o bobl newydd ac mae yna ymdeimlad o gymuned sy'n wych. ”
Dywedodd triathletwr arall, Alex Burridge, 33, o Gaerdydd: “Rydw i wedi bod yn nofio dŵr agored ers blwyddyn bellach yn ysbeidiol. Dydi e ddim wedi bod yn amser hir. Mae Covid-19 wedi cael effaith ar bobl yn mynd allan ac yn mynd i nofio.
“Mae’n ffordd wych o fwynhau’r dŵr. Mae'n well gen i ddŵr halen yn bersonol, ond does dim byd tebyg i ddŵr agored i adfywio'r enaid. Mae wedi bod yn grêt i mi, mynd allan yn y dŵr agored.
“Mae'r buddion iechyd corfforol a meddyliol yn enfawr.”
Dywedodd Beverley Lewis, prif weithredwr Triathlon Cymru: “Mae’r triathletwyr presennol yn gwybod pa mor anhygoel yw nofio mewn dŵr agored.
“Rydyn ni'n gwybod nad yw rhai pobl yn hoffi'r clorin mewn pwll nofio ac rydyn ni'n gwybod bod rhai pobl yn ofni nofio oddi ar yr arfordir neu mewn dŵr halen.
“Mae nofio mewn llyn yn rhywbeth gwahanol iawn ac yn fendigedig.”
Mae diogelwch, wrth gwrs, yn hollbwysig a dyma pam mae Dŵr Cymru wedi cefnogi SAFE Cymru i ateb y galw gan bobl sydd eisiau cael mynediad i lynnoedd a chronfeydd dŵr yn ogystal â dyfroedd arfordirol.
“Rydyn ni wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y bobl yn y gamp yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf,” meddai Alun Shurmer o Dŵr Cymru.
“Mae’r diddordeb wedi bod yn ffenomenal. Mae pobl wedi bod yn aros gartref a ddim yn mynd dramor ar eu gwyliau.
“Maen nhw wedi bod yn chwilio am bethau eraill i'w gwneud, ond os ydych chi'n mynd i nofio dŵr agored yna fe ddylech chi ei wneud yn ddiogel a'r ffordd orau o wneud hynny yw drwy gyfleuster wedi’i achredu. Wedyn fe fyddwch chi’n ddiogel ac yn gwybod bod gennych chi warchodwyr bywyd o'ch cwmpas chi a bod popeth yn ei le. "