Skip to main content

Aled Davies - Cofleidio cyfrifoldeb mewn mwy nag un ffordd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Aled Davies - Cofleidio cyfrifoldeb mewn mwy nag un ffordd

Mae Aled Davies, arwr i Gymru mewn chwaraeon Paralympaidd, wedi ennill aur yn y Gemau Paralympaidd ddwywaith eisoes felly byddech yn cael maddeuant am feddwl ei fod wedi profi'r cyfan.

Ond y tro yma mae ei baratoadau wedi bod ychydig yn wahanol oherwydd bod y pandemig wedi tarfu.

Mae Davies unwaith eto yn anelu am fedal arall, y tro yma yn y taflu maen F63, sy'n dechrau ar Fedi 4 yn Tokyo.

Dywed y chwaraewr 30 oed fod delio â sgil-effeithiau ansicrwydd, y cyfyngiadau a orfodwyd a’r oedi dilynol ar gyfer y Gemau wedi bod yn her iddo.

Ond mae edrych yn ôl ar yr hyn mae wedi'i gyflawni yn y gamp hyd yma wedi ei helpu i fod yn ôl ar y trywydd iawn.

Aled Davies yn codi pwysau

 

“Mae wedi bod yn anodd iawn cymell fy hun a hyd at y cyfnod clo roedd yn galed iawn, iawn,” esboniodd Davies, o’i leoliad yn Japan.

“Pan gafodd Tokyo ei ohirio a phan ddigwyddodd holl sefyllfa Covid, fe roddodd flwyddyn ychwanegol i mi a fy ngorfodi i gael seibiant bach i ffwrdd o’r gamp a chael yr amser hwnnw gyda fy nheulu.

“Ond fe wnaeth hefyd roi llawer o bethau mewn persbectif. Mae gen i swydd gwbl wych, oes wir.

“Mae hyn yn rhywbeth rydw i wedi bod eisiau ei wneud erioed ac rydw i'n teimlo bod gen i lawer i'w roi o hyd. Mae gen i recordiau i'w torri o hyd ac fe alla’ i wneud llawer mwy o ddifrod.

“Rydw i’n caru’r gamp yma. Rydw i wrth fy modd yn cystadlu, yn mynd o amgylch y byd, ac ni fyddwn yn ei newid am unrhyw beth. Cyn belled â mod i'n iach ac mewn cyflwr da, fe fyddaf bob amser yn gwneud fy ngorau i ymladd am fedalau.”

Dywedodd yr athletwr a anwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr bod yr ansicrwydd ynghylch a fyddai'r Gemau'n cael eu cynnal y llynedd wedi achosi llawer o broblemau iddo o ran ei hyfforddiant. 

“Roedd yn hunllef,” meddai Davies.

“Pan ddaeth y cyfnod clo i ddechrau, roedd Tokyo yn mynd ymlaen yr un fath a’r peth cyntaf ddaeth i fy meddwl i oedd, ‘sut mae paratoi i gystadlu am fedal aur mewn ychydig fisoedd yn fy ngardd gefn?’ 

“Wrth lwc, roedd posib i mi droi’r garej yn gampfa ac fe wnes i adeiladu cylch taflu a rhoi ychydig o ddur gyda rhwyd rhwng y goeden afalau a’r goeden gellyg felly roeddwn i’n taflu i mewn i hwnnw.

“Dim ond ers tua mis oedden ni wedi symud i mewn i’r tŷ cyn y cyfnod clo felly doedden ni heb gael cyfle i gwrdd â phobl yn yr ardal. Eu cipolwg cyntaf arna’ i oedd yn troelli ac yn sgrechian yn yr ardd, yn taflu pethau.

“Roedd yn brofiad gwahanol iawn, ond ar yr un pryd roedd yn magu cymeriad, ac roedd gorfod addasu i'r her honno, wel, roeddwn i wrth fy modd.

“Fe wnaeth fy nysgu i i fod yn hunangynhaliol felly os bydd unrhyw beth yn digwydd nawr, cyfnod clo arall neu rywbeth, mae gen i bopeth sydd arna’ i ei angen yn fy ngardd.”

Un peth positif a ddeilliodd o’r cyfnod clo i Davies oedd y cyfle i dreulio mwy o amser gwerthfawr gyda'i ferch gymharol newydd ar y pryd.

“Chwe wythnos cyn Pencampwriaethau’r Byd yn 2019, fe ddois i’n dad ac roedd honno’n foment arbennig iawn.

“O ran yr amser y byddwn i wedi bod i ffwrdd yn paratoi ar gyfer 2020, fe fyddwn i wedi colli rhai rhannau pwysig iawn ohoni yn tyfu i fyny felly fe roddodd y cyfnod clo yr amser hwnnw na fyddwn i erioed wedi'i gael i mi.

“Fe fyddwn i wrth fy modd pe bawn i’n gallu treulio bob dydd gyda hi. 

“Mae hi’n troi’n ddwy wythnos ar ôl i mi gyrraedd yn ôl sy’n wallgof i feddwl, y ffordd mae’r ddwy flynedd yma wedi mynd. Mae wedi newid fy mywyd i, rhoi strwythur i mi nad oeddwn i erioed yn gwybod ’mod i ei angen.

“Y rheolaeth ar amser, yr holl bethau hynny lle mae'n rhaid i chi fod yn drefnus ar gyfer yr un fach a'i rhoi hi yn gyntaf.

“Rydw i’n lwcus iawn ac, wrth gwrs, mae gen i ddyweddi anhygoel hefyd.

“Mae'n drueni na allan’ nhw fod yma ond rydw i'n credu y byddai fy merch wedi bod ychydig yn rhy ifanc i ddeall. 

“Dim ond tair blynedd sydd tan fydd Paris ac fe fydd hi’n bump erbyn hynny ac yn gwybod beth sy’n digwydd.

“Gobeithio erbyn hynny y byddan nhw’n Gemau arferol.”

Mae Davies bellach yn enw cyfarwydd iawn yn y byd chwaraeon ym Mhrydain ac mae athletau Team GB wedi rhoi’r anrhydedd iddo o gael ei benodi’n gyd-gapten ar gyfer y Gemau.

“Rydw i wedi cael fy newis yn gapten ar gyfer y tîm ac rydw i wedi cofleidio’r rôl honno ac wedi cynnig fy nghefnogaeth, dros Zoom neu beth bynnag, i'r tîm gan ganolbwyntio ar fy hyfforddiant fy hun hefyd. 

“Doeddwn i ddim yn gallu credu.

“Mae wedi bod yn freuddwyd gen i erioed i fod yn gapten ar unrhyw fath o dîm, ond mae bod yn gapten ar dîm Prydain Fawr sy’n mynd i’r Gemau Paralympaidd a chael eich dewis gan eich cyd-chwaraewyr yn brofiad hyfryd iawn.

“Mae’n anrhydedd jyst bod yn rhan o’r tîm athletau Para yma, yn fy marn i, dyma un o’r timau athletau Para gorau yn y byd.

“Mae gennym ni oreuon byd-eang yn sicr, rhai athletwyr sydd wedi bod o gwmpas ers tro, sydd wedi rheoli, ond mae gennym ni hefyd lawer o bobl ifanc llawn dyhead sydd wedi cael eu hysbrydoli gan rai ohonom ni dros y blynyddoedd ac maen nhw'n dod drwodd i roi eu stamp eu hunain ar bethau.

“Mae’n gyffrous i’w weld, ond mae’r llanw’n troi hefyd. Rydw i wedi mynd o fod yn un o'r rhai ifanc i fod yn un o'r rhai mae’r lleill yn ei edmygu, felly mae'n rôl newydd.”

Ar nodyn personol, mae Davies yn teimlo'n hyderus cyn y Gemau ac yn dweud na allai fod mewn cyflwr gwell i amddiffyn ei deitl. 

“Rydw i’n teimlo’n dda. Fe wnes i gystadlu yn Charnwood wythnos i ddydd Mercher diwethaf ac ymestyn fy rhagoriaeth ar lefel byd i 16.45m.

“Roeddwn i wir eisiau rhoi metr rhyngo’ i a Rhif 2 y byd, dim ond i osod marciwr cyn i mi ddod i’r Gemau yma.

“Rydw i yn y cyflwr gorau erioed. Rydw i’n gyffrous nawr ac yn methu aros i gyrraedd yno. Beth bynnag fydd y canlyniad, rydw i'n barod.”

Er mai ennill medalau yw nod Davies, mae hefyd yn ymfalchïo yn y modd y mae'r Gemau Paralympaidd a chwaraeon anabledd yn helpu pobl i ddod i delerau â'u hanableddau.

“Rydw i’n ystyried fy hun yn lwcus o fod â’r swydd orau yn y byd ac os galla’ i ysbrydoli pobl ag anabledd i gymryd rhan mewn chwaraeon a newid barn pobl, mae’r nod wedi’i gyrraedd. 

“Rydw i’n meddwl yn ôl i pan oeddwn i’n iau a wnes i ddim gwisgo siorts nes fy mod i tua 15 oed neu rywbeth gwirion felly, am nad oeddwn i eisiau dangos fy anabledd.

“Roedd gen i ryw fath o gywilydd ohono ond mae’r math yna o agwedd wedi diflannu nawr. Mae'n hyfryd gweld hynny, a bod yn onest.”

Mae Davies wedi cyflawni cymaint yn ei yrfa hyd yma a phwy fyddai’n betio yn ei erbyn yn ennill medal Paralympaidd arall naw mlynedd ar ôl ei gyntaf.

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy