Skip to main content

Allech chi fod yn athletwr sy’n serennu yn y dyfodol?

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Allech chi fod yn athletwr sy’n serennu yn y dyfodol?

Am y tro cyntaf erioed mae UK Sport ac Athrofa Chwaraeon Lloegr (EIS) yn cydweithio â Team GB, ParalympicsGB ac 19 o chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd i lansio’r ymgyrch chwilio ddiweddaraf am athletwyr y dyfodol – From Home 2 The Games. 

Yr ymgyrch chwilio yw'r 17eg i gael ei chynnal yn genedlaethol ers 2007 gan UK Sport, mewn partneriaeth ag EIS a chymuned perfformiad uchel Olympaidd a Pharalympaidd y DU, gyda From Home 2 The Games y cyntaf i ddefnyddio pŵer Team GB a ParalympicsGB.

Mae From Home 2 The Games wedi'i chynllunio'n benodol i annog ac ymgysylltu â phobl ifanc o bob cymuned yn y DU i edrych ar eu posibiliadau mewn chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd na fyddent wedi meddwl am gymryd rhan ynddynt erioed o'r blaen efallai ac, o ganlyniad, darganfod potensial nad oes unrhyw un wedi manteisio arno.

Mae'n ceisio cyrraedd ac ymgysylltu â phobl ifanc 11 i 23 oed sy'n hoff o chwaraeon neu'n gorfforol actif i gymryd rhan mewn chwaraeon Olympaidd a phobl ifanc 15 i 34 oed sydd â nam sy'n eu gwneud yn gymwys i gymryd rhan mewn chwaraeon Paralympaidd.

Athletwyr Olympaidd Cymru gyda'u medalau yn Y Senedd
Athletwyr Olympaidd Cymru gyda'u medalau yn Y Senedd

 

Wedi'i lansio'n swyddogol heddiw ym Mharc Olympaidd y Frenhines Elizabeth, gall darpar athletwyr ymuno bellach â From Home 2 The Games drwy gwblhau tair her syml a chyflwyno eu canlyniadau yn www.FromHome2TheGames.com. Yr heriau yw:

  • Ar gyfer chwaraeon Olympaidd, mae angen i ddarpar athletwyr gwblhau sbrint 20m, naid lydan a her sgiliau agored.
  • Ar gyfer chwaraeon Paralympaidd, mae angen i ddarpar athletwyr gwblhau gwthiad neu sbrint 20m, codi a thaflu a her sgiliau agored.

Fel rhan o'r broses, anogir darpar athletwyr i uwchlwytho eu sgoriau a llenwi ffurflen fer amdanynt eu hunain a'u cefndir chwaraeon. Bydd y cyflwyniadau'n cau am hanner nos, nos Lun 6 Medi ac wedyn yn cael eu hadolygu gan dîm o wyddonwyr a hyfforddwyr chwaraeon arbenigol.

Gwahoddir nifer dethol o ddarpar athletwyr i symud ymlaen i gam nesaf y broses yn yr hydref gyda sesiynau'n cael eu cynnal i edrych ymhellach ar eu cyfle i fod yn Olympiad neu Baralympiad yn y dyfodol a'r posibilrwydd y bydd nifer yn cael eu dewis i ymuno â rhaglenni datblygu Cyrff Rheoli Cenedlaethol.

Dywedodd y Fonesig Katherine Grainger, Cadeirydd UK Sport: "Ein gobaith ni yw y bydd pob person ifanc sy'n ymwneud â From Home 2 The Games yn cael profiad gwych, positif o chwaraeon a, lle bynnag y bydd yn arwain, byddant yn well o fod wedi cymryd rhan. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarganfod talent chwaraeon eithriadol y genedl yfory a chreu teulu Olympaidd a Pharalympaidd mwy cynhwysol ac amrywiol.

"Mae From Home 2 The Games yn enghraifft wych o'r gymuned perfformiad uchel Olympaidd a Pharalympaidd yn dod at ei gilydd i roi cyfle i bobl ifanc na fyddent wedi'i gael fel arall erioed efallai. Rydyn ni eisiau cyrraedd man lle mai'r unig rwystr i lwyddiant yn y byd chwaraeon yw potensial, ac felly byddwn yn annog pobl o bob cefndir a phob cwr o'r DU i roi cynnig ar hyn a chael hwyl gydag ef."

Hannah Mills gyda'i fedal aur Olympaidd
Morwr Cymru, Hannah Mills gyda'i fedal aur Olympaidd

 

Mae From Home 2 The Games yn cael ei sbarduno'n ddigidol ac yn gweithio gyda saith llysgennad athletau a fydd yn defnyddio eu sianeli i adrodd eu straeon personol eu hunain am ymgysylltu â chwaraeon, lle mae eu siwrnai wedi mynd â hwy a rhai o'r heriau maent wedi'u hwynebu ar hyd y ffordd.

Y saith llysgennad athletau yw Adam Peaty, Ali Jawad, Bianca Walkden, Laura Muir, Kadeena Cox, Kye Whyte a Tegan Vincent-Cooke. Ymgysylltodd Cox ei hun am y tro cyntaf ag UK Sport ac EIS fel darpar athletwr yn ystod ymgyrch 2014.

Waeth beth fydd eu cynnydd ac unrhyw benderfyniadau dewis ar gyfer rhaglenni datblygu Cyrff Rheoli Cenedlaethol, bydd yr holl bobl ifanc sy'n ymgysylltu â From Home 2 The Games yn cael eu cyfeirio at sut gallent ymwneud â chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd yn eu hardaloedd a'u cymunedau lleol.

Dywedodd Adam Peaty, pencampwr Olympaidd, byd, Ewropaidd a'r Gymanwlad: "I unrhyw oedolyn ifanc sydd allan yna – beth sydd gennych chi i'w golli? Dyna'n union ddywedais i wrthyf i fy hun. Byddwch yn dysgu cymaint o bethau drwy chwaraeon nad ydych hyd yn oed yn gwybod amdanyn nhw eto oherwydd nad ydych yn adnabod eich hun eto. Os ydych chi wedi wynebu’r anhawster hwnnw o beidio â bod â digon o arian, yn methu gwneud hyn, rydw i'n credu ei fod yn gwneud y siwrnai honno ychydig yn well. Roeddwn i'n gaeth i nofio ar unwaith. Fe wnaeth fy machu i – fy nal a fy nhynnu i mewn. Fe ddechreuodd yr hoffter gynyddu’n gyflym iawn ar ôl i mi ddechrau rasio."

Ers 2007 mae UK Sport wedi gweithio mewn partneriaeth ag Athrofa Chwaraeon Lloegr a mwy na 22 o chwaraeon yn y gymuned perfformiad uchel Olympaidd a Pharalympaidd i gynnal 16 o ymgyrchoedd chwilio cenedlaethol am athletwyr y dyfodol, gan ymgysylltu â mwy nag 11,000 o bobl ifanc. 

Ymhlith yr athletwyr hynny sydd wedi llwyddo i ddod drwy’r ymgyrch recriwtio ac ar y Rhaglenni o Safon Byd sy’n cael eu cyllido gan y Loteri Genedlaethol mae nifer o bencampwyr ac enillwyr medalau Olympaidd a Pharalympaidd gan gynnwys Lizzy Yarnold, Helen Glover, Lutalo Muhammad, Laura Deas, Jon-Allan Butterworth, Joanna Butterfield yn ogystal â Kadeena Cox.

Yr 19 Corff Rheoli Cenedlaethol sy'n ymwneud â From Home 2 the Games yw: 

  • Archery GB
  • Badminton Lloegr
  • GB Boccia
  • GB Snowsport
  • Athletau Prydain
  • Canŵio Prydain
  • Beicio Prydain
  • Ffensio Anabledd Prydain
  • Deifio Prydain
  • Gymnasteg Prydain
  • Tennis Bwrdd Para Prydain
  • Rhwyfo Prydain
  • Saethu Prydain
  • Sgeleton Prydain
  • Nofio Prydain
  • Triathlon Prydain
  • Codi Pwysau Prydain
  • Y Gymdeithas Tennis Lawnt
  • Pentathlon GB

Newyddion Diweddaraf

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy

Paneli solar yn rhoi ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae chwyldro ynni gwyrdd ar droed mewn chwaraeon cymunedol yng Nghymru, gyda phaneli solar yn dod yn…

Darllen Mwy