Skip to main content

AR EI BEN EI HUN, NI FYDD PENLINIO’N GWNEUD UNRHYW BETH I NEWID CHWARAEON, MEDDAI NIGEL WALKER

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. AR EI BEN EI HUN, NI FYDD PENLINIO’N GWNEUD UNRHYW BETH I NEWID CHWARAEON, MEDDAI NIGEL WALKER

Fel athletwr a chwaraewr rygbi wedyn, roedd Nigel Walker yn ddyn ar frys bob amser.

Fel darlledwr, swyddog gweithredol gyda’r BBC, a chyfarwyddwr cenedlaethol Athrofa Chwaraeon Lloegr bellach, mae wedi dysgu arafu ond mae rhai pethau’n ei wneud yn ddiamynedd o hyd, a newid yw un ohonyn nhw.

"Yn ôl pob tebyg, fi yw'r unig Brif Swyddog Gweithredol du ar gorff chwaraeon yn y DU," meddai.

"Fe fyddwn i’n hoffi meddwl y bydd pobl, ymhen 15 neu 20 mlynedd, wedi anghofio popeth amdanaf i ac y bydd hanner dwsin, neu 15, Prif Swyddog Gweithredol du ar gyrff chwaraeon ledled y DU, oherwydd dyna beth yw cynnydd.

"Fe all pobl siarad fel y mynnan’ nhw mewn busnes ac mewn chwaraeon am gyfle cyfartal a delfrydau a sloganau, ond oni bai fod hynny’n cael ei ategu gan y camau angenrheidiol a phriodol, ’fydd pethau ddim yn newid."

Gwnaeth rhanbarth rygbi Gleision Caerdydd newid nodedig yn gynharach eleni, gan ofyn i Walker – a fu’n chwaraewr nodedig ym Mharc yr Arfau ar un adeg - a fyddai'n ymuno â'u bwrdd cyfarwyddwyr.

Sylweddolodd fod y Gleision, flwyddyn ar ôl penodi eu haelod bwrdd benywaidd cyntaf, sef Hayley Parsons, yn chwilio am wynebau mwy amrywiol o amgylch y bwrdd – i efelychu’r byd y tu allan pe baech yn cerdded o'r cae ac i lawr Stryd Westgate.

Ond mae hefyd yn mynnu y byddai wedi gwrthod eu cais pe bai'n synhwyro mai ticio bocsys oedd ar flaen eu meddwl.

Yn yr un modd, mae'n mynnu na ddylid fyth penodi pobl nad ydynt yn wyn i swyddi dylanwadol yn y byd chwaraeon ar draul sgiliau, cymhwysedd neu arbenigedd.

"Dydw i ddim yn credu mewn camau cadarnhaol, neu wahaniaethu positif. Rydw i'n credu bod rhaid i bobl gael swyddi ar sail eu rhinweddau," meddai'r gŵr a neidiodd dros y clwydi dros Brydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Los Angeles 1984, cyn newid yn ddiweddarach i chwarae rygbi yn 29 oed ac ennill 17 o gapiau dros Gymru.

"Fe alla’ i ddweud wrthych chi beth ddywedodd Gleision Caerdydd wrthyf i pan ofynnon nhw i mi ystyried bod yn aelod o'r bwrdd - bod gen i bersbectif perfformiad, nid yn unig mewn un gamp, ond ar draws dwy gamp, nid yn unig fel chwaraewr, ond nawr fel gweinyddwr.

"Roedd diffyg hynny ar y bwrdd medden nhw ac roedd hynny’n ymddangos yn dderbyniol i mi.

"Pe baen nhw wedi dweud wrthyf i, 'rwyt ti'n ddu a dyna pam rydyn ni dy eisiau di ar ein bwrdd ni', byddai hynny wedi bod yn annerbyniol.”         

Y PRAWF PENLINIO

I rywun sy'n gallu cofio cael ei gam-drin yn hiliol yn cystadlu mewn dwy gamp, ac sy'n cyfaddef ei fod, 30 mlynedd yn ddiweddarach, yn dal i geisio mynd i'r afael â newid cyfansoddiad staff ei sefydliad ei hun, mae 2020 wedi bod yn flwyddyn ddiddorol - a sobreiddiol.

Bu’n haf llawn dicter a phrotestio yn UDA ynghylch marwolaethau a saethu pobl dduon gan yr heddlu, a chafodd hynny lwyfan yn fuan iawn ar draws y chwaraeon mawr.

Lledaenodd y protestiadau hynny i'r DU ac yn fuan iawn roedd pêl droedwyr, chwaraewyr rygbi ac eraill yn penlinio i ddangos eu cefnogaeth cyn gemau.

Ond mae i ba raddau y mae'r hyn a ddechreuodd fel rhagarweiniad cwbl nodedig i gemau wedi datblygu i fod yn rhan ddifater o’r drefn yn rhywbeth y mae llawer o leisiau duon mewn chwaraeon yn ei gwestiynu eisoes. 

Arweiniodd y diflastod gyda'r diffyg newid ystyrlon yn ystod blynyddoedd Kick It Out a Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth at greu grŵp newydd yn ddiweddar – Clymblaid Ddu Pêl Droed – yn cynnwys chwaraewyr, hyfforddwyr a sylwebwyr.

Un o'u prif gymhellion oedd newid yn ddramatig ddiwydiant lle mae 40 y cant o'r staff chwarae yn dod o gefndiroedd heb fod yn wyn, ond eto mae lefel y rheolwyr, yr hyfforddwyr, y ffisiotherapyddion, y gweinyddwyr a’r swyddogion gweithredol o’r cefndir hwn yn llai na phump y cant.

Mae'n anghydbwysedd sy'n cael ei adlewyrchu'n eang mewn llawer o chwaraeon eraill.

Dywedodd cyn chwaraewr rhyngwladol dros Loegr, Les Ferdinand, sydd bellach yn gyfarwyddwr pêl droed yn QPR, bod penlinio fel gweithred wedi dod yn ddi-werth, wedi colli'r pŵer i sbarduno unrhyw newid, ac wedi cael ei "wanhau" drwy’r ailadrodd.

DRWS AGORED

Mae Walker yn cydymdeimlo â'r farn honno ac yn dweud: "Ni fydd penlinio ar ei ben ei hun yn gwneud dim. Mae’n gorfod bod yn gatalydd i newid pellach a chamau pellach.

"Ar ei ben ei hun, ni fydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl. Rhaid i'r agenda fod, 'dyma'r hyn fyddwn ni’n ei wneud yn ystod y tair wythnos, tri mis, 12 mis nesaf i wneud newidiadau ystyrlon mewn chwaraeon'.

"Mae’r drws yn gilagored yn y rhan fwyaf o glybiau, sefydliadau a chwaraeon ar hyn o bryd. Rhaid i ni wthio yn erbyn y drws hwnnw a gwneud yn siŵr nad yw'n cau eto.

"Fedr y llywodraeth ddim jyst dal ati i ddweud, 'rydyn ni'n gwneud hyn, rydyn ni'n mynd i wneud hyn', ac yn yr un modd, mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth. Faint o adolygiadau allwch chi eu cynnal? 

"Dim ond hyn a hyn cyn i bobl golli diddordeb yw'r ateb, felly mae angen newid pendant nawr.

"Rydw i'n optimist ond yn credu bod angen i gymdeithas fod yn fwy cyfartal yn y lle cyntaf. Ac mae angen annog pobl, ac mae angen mentora pobl.

GWYN I GYD YN DA I DDIM BYD

"O ble mae Prif Swyddog Gweithredol du cyntaf clwb pêl droed yn yr Uwch Gynghrair yn mynd i ddod? Dydi ef neu hi ddim yn mynd i gael ei dynnu allan o'r awyr. Mae'n rhaid mentora rhywun i’r rôl honno."

Mae Walker, sydd â chartref teuluol yng Nghaerdydd o hyd, yn ceisio creu'r newidiadau hynny yn ei sefydliad ei hun.

Mae'r Athrofa, meddai, wedi ymrwymo i gysylltu â phrifysgolion i sicrhau eu bod yn dod yn un sefydliad chwaraeon lle mae'r weinyddiaeth yn adlewyrchu'n well yr hyn sydd i’w weld ar y maes chwarae.

"Dydyn ni ddim yn berffaith," meddai. "Pan fydda’ i’n cyfweld am uwch swyddi, mae'r rhestr fer yn wyn i gyd yn gyson."

Ond mae'n cyfeirio at sefydliad arall, bwrdd Gemau'r Gymanwlad yn Lloegr, fel esiampl o geisio creu newid a chyflawni hynny'n llwyddiannus.

"Maen nhw wedi gwneud gwaith gwych ac mae ganddyn nhw bobl wych ar y bwrdd. Nid hyrwyddo pobl yn artiffisial yw hynny. Mae'n ymwneud â chydnabod pobl sydd â thalent a gallu ac wedyn sicrhau eu bod yn cael cyfle.”  

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy