Skip to main content

Y pencampwr sboncen iau sy’n breuddwydio am fwy o lwyddiant

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y pencampwr sboncen iau sy’n breuddwydio am fwy o lwyddiant

Mae gan Archie Turnbull bedigri sboncen yn rhedeg trwy ei wythiennau, ond y gobaith o wneud ei farc ei hun yn y gamp sy'n gwneud i'w galon guro’n gyflym.

Ar ôl cael blas ar fuddugoliaeth yn Rowndiau Cenedlaethol Dan 15 Ieuenctid Prydain yn ddiweddar, mae’r bachgen 14 oed yn dyheu am fwy ac yn ymroi ei ethig gwaith anhygoel a’i ffocws yn ei ddatblygiad yn y dyfodol.

Cydiodd Archie mewn raced yn ifanc, pan ddechreuodd ei dad, James, fynd ag ef i chwarae yn eu clwb sboncen lleol pan oedd Archie yn bump oed.

Roedd yn teimlo’n gartrefol ar y cwrt – dim cyd-ddigwyddiad efallai, gan fod gan y teulu Turnbull orffennol disglair yn y gamp, gyda hen hen ewythr Archie, Maurice Turnbull, yn ennill teitl Agored cyntaf Cymru yn 1938.

Aeth Maurice a’i frawd ymlaen i sefydlu Clwb Sboncen a Racedi Caerdydd, rhywbeth y mae Archie a’r teulu Turnbull yn falch iawn ohono. Gan gadw’r traddodiad yn fyw, y clwb bellach yw prif ganolfan hyfforddi Archie.

Roedd Maurice Turnbull yn athletwr eithriadol, nid yn unig yn cyflawni yn ei yrfa sboncen, ond hefyd yn chwarae rygbi a hoci i Gymru, yn ogystal â dod yn chwaraewr criced Prawf cyntaf Lloegr o Forgannwg.

Mae rhai haneswyr wedi ei alw’n seren chwaraeon fwyaf Cymru hyd yn oed o ystyried yr holl gampau mae wedi disgleirio ynddynt.

Ond er y gall rhai talentau chwaraeon gael eu trosglwyddo yn y genynnau, mae'r rhan fwyaf o unrhyw lwyddiant yn deillio o waith caled ac ymroddiad.

“Rydw i’n chwarae chwe gwaith yr wythnos fel arfer,” meddai Archie.

“Fy hoff agwedd i mae’n debyg yw’r ochr athletaidd oherwydd rydw i’n hoffi ymarfer llawer. Yr ymarferion rhedeg a phwysau’r corff ydw i’n eu mwynhau fwyaf.”

Mae'r parodrwydd i hyfforddi yn golygu bod y llanc ifanc o Gaerdydd yn hapus i fod yn uchel ymhlith y detholion ar gyfer twrnameintiau.

“Pan rydw i’n ddetholyn rhif un, rydw i bob amser eisiau ceisio cyrraedd y nod hwnnw. Rydw i wedi bod yn y safle hwnnw ar wahanol adegau.

“Oherwydd ei fod yn Rowndiau Cenedlaethol Prydain, mae’n newid pethau, oherwydd mae ychydig mwy o bwysau. Ond ’fyddwn i ddim yn dweud ei fod yn llethol.”

Enillodd Archie y twrnamaint mewn steil, gan drechu Oliver Gribble, Indie Flint a Diego Pita yn gyfforddus, cyn trechu Dylan Roberts yn yr ornest olaf.

“Roeddwn i’n hapus iawn ac fe roddodd hwb i mi chwarae sboncen hyd yn oed yn fwy. Felly, ar ôl hynny, fe wnes i strwythuro fy nghynllun hyfforddi i fod yn llawer mwy trylwyr ac ychwanegu deiet dda hefyd, oherwydd cyn hynny doeddwn i ddim yn canolbwyntio ar ddeiet mewn gwirionedd.

“Ond pan oeddwn i ffwrdd yn Birmingham (yn Rowndiau Cenedlaethol Prydain) roedd llawer o wahanol chwaraewyr proffesiynol yn sefydlu eu gwersylloedd allan yno.

“Fe gefais i gyfle i weld pa mor strwythuredig oedd eu gwersylloedd hyfforddi nhw, fel Joel Makin, er enghraifft, sy’n ysbrydoliaeth fawr i mi. Fe gefais i weld sut oedd e’n hyfforddi.”

Mae Archie yn dweud mai Makin, y perfformiwr o Gymru sydd ymhlith 10 uchaf y byd, yw un o’i fodelau rôl mwyaf, ac mae’n cydnabod bod ei gefnogaeth a’i ddylanwad wedi cael effaith sylweddol ar ei agwedd broffesiynol a’i baratoadau. 

“Fy hyfforddwr i ar hyn o bryd ydi hyfforddwr Joel (Nic Birt) ac roedd Joel yn arfer hyfforddi yn fy nghlwb i. Felly, pan rydw i’n siarad gyda phobl ac yn clywed am y pethau wnaeth e, mae'n fy atgoffa i ohono i fy hun.

“Rydw i’n cymryd cyngor ganddo ar gyfer ffitrwydd ac atal anafiadau.”

Archie Turnbull yn cau ei ddwrn wrth ddathlu
Archie Turnbull yn dathlu
Mae gen i ambell (nodau). Y cyntaf yw bod yn Bencampwr Dan 17 Prydain am 15, ac yna rwyf hefyd am ennill Pencampwriaeth Agored Prydain
Archie Turnbull

Mae Archie yn ymroddedig i'w grefft ac mae'n cyffroi wrth ddatblygu sgiliau newydd. Iddo ef, mae ymarfer a gwella yn hwyl.

“Fel arfer, yn ystod yr wythnos rydw i’n ceisio chwarae gwahanol steiliau o bobl, felly pan ydw i mewn twrnameintiau, rydw i wedi arfer chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr llaw chwith, llaw dde, pobl sy’n rhedeg lot, neu bobl sydd jyst yn ceisio chwarae ergydion.

“Os byddaf yn datblygu ymwybyddiaeth felly o gêm, drwy chwarae yn erbyn llawer o wahanol bobl, mae’n debyg y byddaf yn gallu ymdopi â hynny ychydig yn well pan fyddaf yn y twrnamaint.”

Dywedodd mam Archie, Judith Turnbull, bod Archie yn mwynhau'r her y gall chwaraewyr newydd, sy'n aml yn hŷn, ei chynnig.

“Mae’n hoffi cael ei roi mewn sefyllfaoedd anodd, er mwyn gallu meddwl am ffyrdd o ennill,” meddai.

“Mae wedi cael ei alw i garfan Cymru dan 19 yn ddiweddar. Mae hefyd yn cynrychioli’r pum gwlad gyda’r rhai dan 15 oed ac yn cynrychioli Cymru ar gyfer y rhai dan 19 oed.”

Does dim llawer o bobl ifanc yn eu harddegau yn cael cynrychioli eu gwlad mewn chwaraeon ac mae Archie yn cyfaddef: “Ydw, rydw i’n falch iawn.

“Fe wnes i osod hynny fel targed y llynedd ac fe wnes i nodi hynny fel rhywbeth roeddwn i eisiau ei gyflawni. Nawr fy mod i wedi cyflawni hynny, mae angen i mi ychwanegu targed arall, wrth gwrs. Ond rydw i wedi cyflawni hynny nawr ac fe alla’ i gael ychydig o seibiant a mwynhau hynny.”

Mae ei rieni wedi ymdrechu i gadw traed Archie ar y ddaear ac maent yn realistig ynghylch rheoli ei ddisgwyliadau a rhoi her iddo.

“Un o’r pethau mae James wedi’i wneud gydag Archie ydi ein bod ni wastad wedi ei chwarae i fyny gradd oedran. Felly, mae llawer o dwrnameintiau na fydd yn eu hennill, ond mae'n rhoi'r ymarfer iddo," meddai Judith.

“Mae bob amser yn anelu’n uwch. Felly mae'n chwarae pobl sy’n well nag o’i hun ac mae hynny'n rhywbeth mae wedi'i wneud, ac mae wedi derbyn ei fod eisiau ei wneud.

“Mae chwarae ei grŵp oedran ei hun fel y gwnaeth yn Rowndiau Cenedlaethol Prydain ac ennill yn anhygoel, ond yn aml iawn, mae’n chwarae ar lefel hŷn. Mae’r twrnamaint mae’n mynd iddo ac yn chwarae ynddo’r wythnos nesaf ar gyfer pobl ifanc 17 oed.

“Mae ei safle ymhlith grwpiau oedran hŷn yn y DU yn eithaf da hefyd. Nid ennill sy’n bwysig bob amser, mae'n ymwneud â meithrin profiadau a gwybodaeth am wahanol sefyllfaoedd. Dyna sut mae'n gweithio iddo fe mewn gwirionedd."

Mae Archie yn camu ymlaen yn y graddau oedran yn dilyn perfformiadau trawiadol drwy gydol y tymor.

Mae’r llanc ifanc yn edrych tua’r brig ac yn disgwyl her anodd wrth iddo symud drwy’r rhengoedd, ond yn gyffrous am y dyfodol sydd o’i flaen.

“Wel, fe alla’ i yn bendant aros yn gorfforol, a dim ond mater o roi digon o oriau o ymarfer tu ôl i’r llenni yw e. Yn ogystal ag aros yn heini, mae'n rhaid i chi allu cystadlu ar yr ochr dechnegol hefyd.

“Dyna lle mae fy hyfforddiant i, a fy hyfforddwr, Nic, yn bendant yn bwysig i helpu, oherwydd mae’n cynnal fy ansawdd uchel i drwy’r amser yn ystod y gêm.”

Felly, beth sydd nesaf ar restr uchelgeisiau Archie?

“Mae gen i ambell un. Y cyntaf yw bod yn Bencampwr Prydain dan 17 yn 15 oed, ac wedyn rydw i hefyd eisiau ennill Pencampwriaeth Agored Prydain a fyddai'n fy ngwneud yn rhif un y byd.

“Rydw i’n meddwl ei fod yn bosib yn bendant. Bydd yn waith caled hefyd, ond rydw i’n hoffi her.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy