Y sgoriwr ceisiadau dirifedi dros St. Helens, Grace, yw un o enwau mawr gêm y byd ar hyn o bryd yn dilyn ei hatrig gyfareddol o geisiadau yn erbyn Rhinos Leeds yn gynharach yn y tymor.         

Ond bydd y chwaraewr sydd wedi’i eni ym Mhort Talbot yn ennill yr un faint o arian ag aelodau’r carfannau merched a chadair olwyn.

Mae’n esiampl ragorol o benderfyniad Rygbi’r Gynghrair yng Nghymru i sicrhau bod cynhwysiant yn nod canolog yn y gamp. 

“Pan fyddwn ni’n cystadlu yng Nghwpan y Byd y flwyddyn nesaf, bydd timau’r dynion, y merched a chadair olwyn yn cael yr un ffi am gymryd rhan,” meddai prif weithredwr Rygbi’r Gynghrair yng Nghymru, Gareth Kear. 

“Chwarae dros eu gwlad yw popeth. Rydyn ni eisiau hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gêm ni ac mae ein carfan cadair olwyn wych, sy’n drydydd yn y byd ar hyn o bryd, yr un mor werthfawr i ni â’r chwaraewyr sy’n ymarfer eu crefft yn yr Uwch Gynghrair a’r NRL. 

“Rydyn ni hefyd yn credu’n gryf mewn gwella gêm y merched yng Nghymru ac rydyn ni’n hyderus am ba mor dda fyddan’ nhw yng Nghwpan y Byd.” 

Yn hanesyddol, mae rygbi’r gynghrair wedi bod yn gamp ymylol yng Nghymru – yn ail ffidil i rygbi’r undeb a phêl droed. 

Mae sawl ymgais wedi bod i gynyddu poblogrwydd rygbi’r gynghrair yng Nghymru, yn seiliedig ar yr ecsodus o chwaraewyr undeb nodedig o’r gêm 15 dyn yn y 1980au a ffurfio carfan Uwch Gynghrair y Celtic Crusaders, oedd yn chwarae i ddechrau o Ben-y-bont ar Ogwr ac wedyn Wrecsam. 

Ond mae Kear yn gweithio’n galed i greu llwyfan mwy cynaliadwy ar gyfer y gêm yng Nghymru.

Yn lle gosod targedau eithriadol fel creu masnachfraint Uwch Gynghrair arall eto, mae Kear eisiau adeiladu o’r gwaelod i fyny. 

Y targed pwysicaf yw cynyddu lefelau cymryd rhan yng Nghymru a gwneud y cod 13 bob ochr yn gamp hyfyw i’w chwarae. 

Ychwanegodd Kear: “Yr un peth rydyn ni’n ei weld yw llawer o dwf gyda bechgyn a merched yn chwarae rygbi’r gynghrair. Rydyn ni’n ehangu bob blwyddyn. 

“Dyna un o’r ffactorau lle mae rygbi’r undeb a rygbi’r gynghrair yn wahanol. Yn y gorffennol, dim ond un dewis oedd, a rygbi’r undeb oedd hwnnw.       

“Ond mae rygbi’r undeb wedi mynd i gyfeiriad gwahanol. Pŵer a maint sy’n bwysig ac rydw i’n meddwl bod rygbi’r gynghrair wedi mynd i gyfeiriad cwbl wahanol. Cyflymder, amseriad a sgil sy’n allweddol. 

“Mae gofynion y ddwy gamp yn wahanol. Gyda rygbi’r gynghrair, does dim llinellau taflu na rycio cystadleuol, na sgrymiau cystadleuol chwaith. 

“Os ydych chi’n gallu rhedeg, pasio, dal a thaclo, fe allwch chi chwarae rygbi’r gynghrair. Does dim rhaid i chi arbenigo mewn safle gyda rhywun yn dweud wrthych chi eich bod chi’n brop, yn yr ail reng neu’n fachwr.

“Gan siarad yn gyffredinol, mae’n gamp i bawb. Cyn chwarae rygbi’r undeb, roedd pawb yn cael gêm o gyffwrdd a phasio wrth gynhesu. 

“Mae ein gêm ni’n estyniad ar y cyffwrdd a’r pasio hwnnw mae pawb yn ei ddeall. Mae gêm y merched wedi tyfu’n gyflym iawn i ni ar lefel iau a hŷn.         

“Fy nghefndir i yw rygbi’r undeb elitaidd ac roeddwn i’n hyfforddi academi Gleision Caerdydd a thîm y merched. Yr hyn rydw i’n ceisio ei wneud yw codi pontydd gyda’r undeb. 

“Rydyn ni eisiau i bobl ystyried rygbi’r gynghrair fel camp i’w chwarae. Rydyn ni eisiau i bobl gael yr opsiwn hwnnw.”

Mae pandemig Covid-19 wedi taro chwaraeon ar bob lefel yng Nghymru ac mae hynny’n wir am rygbi’r gynghrair. Ond mae Kear yn credu y gall y toriad mewn chwarae helpu rygbi’r gynghrair i sicrhau gwell dyfodol. 

“Mae Covid yn fygythiad i bob camp, ond hefyd yn gyfle. Fe wnes i weithio ar weithgor gyda Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a nifer o gyrff rheoli eraill.     

“Mae’r pandemig yma’n unigryw a does neb ohonom ni wedi bod drwy unrhyw beth fel hyn o’r blaen. Yn y gorffennol, mae rygbi’r gynghrair wedi bod ar y cyrion yng Nghymru ond mae cymryd rhan ac eistedd wrth y bwrdd yn golygu y gallwn ni ddefnyddio ein harbenigedd i fynegi ein barn. 

“Mae hefyd yn golygu fy mod i’n gweithio’n llawer agosach gydag Undeb Rygbi Cymru. Fel dwy gamp gyswllt, rydyn ni’n wynebu’r un heriau. 

“Rydyn ni wedi gweithio’n agos iawn ar rannu llawer o wybodaeth dechnegol a gwybodaeth feddygol er mwyn ceisio sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau i bawb.”

Mae llygaid pawb yn ddiweddar wedi bod ar Grace, sy’n un o’r chwaraewyr sy’n cael y sylw mwyaf yn yr Uwch Gynghrair.

Gallai’r rhedwr chwim ochrgamu’r amddiffynwyr gorau mewn blwch ffôn ac ni fyddent yn cyffwrdd bys ynddo.   

Mae wedi cael cymaint o effaith fel bod llawer o bobl wedi mynd ar gyfryngau cymdeithasol i annog y chwaraewr 23 oed i symud i’r undeb ond nid yw Kear yn rhagweld y bydd newid o’r fath yn digwydd. 

“Roedd hatrig Regan yn erbyn Leeds yn un o’r hatrigau gorau rydw i wedi’u gweld erioed ym myd rygbi’r gynghrair. 

“Mae’n siŵr o ddenu llawer o ddiddordeb oherwydd mae’n chwaraewr rhagorol, ond mae Regan wrth ei fodd yn chwarae rygbi’r gynghrair i Gymru.

“Ar ôl rownd derfynol yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf, yn lle mynd allan i yfed gyda chydaelodau ei dîm, daeth i’r maes awyr ar gyfer siwrnai 24 awr mewn awyren i Awstralia i chwarae dros Gymru.         

“Dyna faint mae’n ei olygu iddo fe. Mae ganddo fe ddyfodol enfawr yn y gêm ac mae’n mynd i fod yn rhan fawr o’n cynlluniau ni i wneud yn dda yng Nghwpan y Byd y flwyddyn nesaf.”

Stori gan Dai Sport (@Dai_Sport_)