Skip to main content

Arolwg wewydd yn edrych ar sut mae'r mislif yn effeithio ar gyfranogiad merched mewn chwaraeon ysgol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Arolwg wewydd yn edrych ar sut mae'r mislif yn effeithio ar gyfranogiad merched mewn chwaraeon ysgol

Mae digon o arolygon ar gael ar yr hyn sy'n effeithio ar chwaraeon merched mewn ysgolion, ond dim – mae'n ymddangos – am rywbeth mor sylfaenol ag effaith eu mislif.

Erbyn hyn, fodd bynnag, mae grŵp o academyddion yn ceisio newid hynny drwy gynnal ymchwil i lefel yr addysg am gylch y mislif a sut gallai hyn effeithio ar gyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol.

Mae athrawon ledled y DU yn cael eu hannog i gwblhau arolwg ar-lein yn y gobaith y gall y canlyniadau helpu i gryfhau parodrwydd a gallu merched i fod yn actif.

Mae Dr Natalie Brown o Brifysgol Abertawe yn un o'r rhai sy'n arwain yr ymchwil ac mae'n dweud iddi gael ei denu at y gwaith ysgolion ar ôl iddi ymwneud ag athletwyr elitaidd yn yr un maes.

Ar ôl edrych ar sut mae cylch y mislif yn effeithio ar athletwyr lefel uchaf o ran eu hyfforddiant a'u perfformiad, daeth yn amlwg nad oedd prin unrhyw waith wedi'i wneud gyda grwpiau oedran iau.

"Un o'r pethau ddeilliodd o'r ymchwil hwnnw oedd y diffyg addysg roedden nhw wedi'i chael pan oedden nhw'n iau, yn ymwneud â chylch y mislif," meddai Natalie, sydd wedi darparu cefnogaeth gwyddoniaeth chwaraeon i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad.

Ymchwil cyfyngedig

"Fe wnaethon ni ddechrau meddwl am y cwestiynau hynny ynglŷn â ble mae merched yn cael eu haddysg a sut addysg yw honno.

"Fe wnaethon ni ystyried os yw hyn yn effeithio ar athletwyr elitaidd, sut mae'n effeithio ar ferched iau? Ac a yw'n achosi iddyn nhw roi'r gorau i chwaraeon?"

Prin iawn yw'r ymchwil i rai agweddau ar yr hyn sy'n achosi i ferched beidio â chymryd rhan mewn chwaraeon mewn ysgolion, ond nod yr arolwg yw darparu darlun llawer ehangach."

Y gobaith yw, drwy siarad ag athrawon, y gall darlun cliriach ddod i'r amlwg ynghylch faint o gyfranogiad gan ferched mewn chwaraeon sy’n mynd ar goll efallai oherwydd materion yn ymwneud â chylch y mislif.

"Rydw i'n credu bod tair agwedd allweddol ar yr arolwg," meddai Natalie, sy’n gweithio yn adran gwyddoniaeth chwaraeon ac ymarfer Prifysgol Abertawe.

"I ddechrau, beth yw lefel yr addysg? Yn ail, a yw athrawon yn cael eu cefnogi? Ac yn drydydd, sut mae'r materion hynny'n rhyngweithio â lefel y cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol?”

Rhyddhad ioga

Yn anecdotaidd, mae Natalie yn dweud bod sgyrsiau gydag athrawon wedi dangos bod llawer o ferched yn colli gwersi Addysg Gorfforol neu weithgareddau eraill oherwydd eu mislif, neu efallai'n absennol o'r ysgol yn gyfan gwbl.

Ond awgrymwyd hefyd i'r grŵp nad yw merched yn cael llawer o gefnogaeth na chyngor gan athrawon, a allai fod yn teimlo'n anghyfforddus eu hunain, neu heb help ymarferol i gynorthwyo.

"Rydyn ni eisiau darganfod beth sydd ac sydd ddim yn cael ei drafod," ychwanegodd Natalie. "Er enghraifft, rydyn ni’n gwybod y gall ioga leihau crampau mislif, ond a yw'r opsiwn yma wedi'i drafod erioed neu a yw merched ar eu mislif yn peidio â chymryd rhan o gwbl?"

Mae athletwyr benywaidd elitaidd wedi gwybod bob amser am yr her fisol i'w hamserlenni hyfforddi a pherfformiad ac wedi defnyddio dulliau gwahanol i gyfyngu ar y tarfu. 

Un o ganfyddiadau’r ymchwil blaenorol oedd bod athletwyr elitaidd yn tueddu i ddod yn well am reoli eu harferion drwy brofiad, ond roedd merched iau weithiau'n cyfaddef nad oeddent wedi gwneud cysylltiad mewn gwirionedd rhwng dirywiad yn eu perfformiad neu eu brwdfrydedd dros hyfforddi a chael eu mislif.

Corff iach

Mae hyn i gyd yn awgrymu y gallai addysg i ferched yn yr ysgol sicrhau manteision sylweddol o ran gwersi sy’n cael eu hosgoi a gweithgareddau sy'n cael eu colli.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae rhai athletwyr elitaidd benywaidd mewn gwahanol chwaraeon wedi siarad yn gyhoeddus am ddefnyddio’r bilsen atal cenhedlu i reoli eu mislif, ac mewn arolwg yn 2020* dywedodd 60 y cant o athletwyr elitaidd benywaidd bod eu perfformiadau wedi cael eu heffeithio gan eu mislif.

Mae rhai eraill wedi gwneud honiadau am gael eu hannog i fod dan eu pwysau er mwyn stopio eu mislif yn gyfan gwbl.

"Mae merched a genethod yn ffodus," ychwanegodd Natalie. "Yn wahanol i ddynion, mae gennym ni’r arwydd yma ein bod ni mewn iechyd da iawn. Mae cael mislif yn dweud wrthym ni fod popeth yn ein corff yn gweithio'n dda iawn.

"Felly, mae'n bwysig iawn i ni ddysgu beth allwn ni ei wneud i gefnogi merched gyda chylch y mislif fel nad ydyn nhw'n colli Addysg Gorfforol ac yn rhoi'r gorau i chwaraeon.”

Arolwg 

Ydych chi'n addysgu mewn ysgol gynradd neu uwchradd? 

Cymerwch ran mewn arolwg ledled y DU i helpu i ddeall addysg mislif mewn ysgolion.

https://bit.ly/2HUuKmh

 

*https://www.bbc.co.uk/sport/53593459

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy