Mae James Ledger wedi mynd o fod yn rhywun oedd yn poeni na fyddai chwaraeon yn addas ar ei gyfer ef efallai, i fod yn athletwr sy’n anelu at wisgo fest Prydain Fawr yn y Gemau Paralympaidd yr haf yma.
Nid yw'r trawsnewid ar gyfer y sbrintiwr 100m - sydd â nam ar ei olwg - wedi digwydd heb waith caled ac ambell rwystr ar y ffordd, ond byddai'n ei argymell i unrhyw un.
“Yn bendant roedd yna adeg yn fy mywyd i pan oeddwn i’n meddwl nad oedd chwaraeon yn mynd i fod yn rhywbeth y gallwn i gymryd rhan ynddo,” meddai James, o Dreforys yn Abertawe, a gafodd ei eni gyda choloboma dwyochrog a nystagmws, cyflyrau sy’n effeithio ar ei olwg a symudiad ei lygaid ac sydd wedi ei adael gyda llai na phump y cant o olwg.
“Doeddwn i ddim yn teimlo bod drws ar agor i mi ac mae’n debyg fy mod i braidd yn ddiamcan.
“Pan oeddwn i’n iau, doedd gen i ddim breuddwydion na dyheadau mewn gwirionedd. Roeddwn i jyst yn ceisio cuddio pwy oeddwn i a ffitio i mewn. Fe wnes i chwarae pêl droed oherwydd bod fy ffrindiau i'n chwarae, ond doeddwn i ddim yn hoffi pêl droed hyd yn oed!
“Un diwrnod, fe ddywedodd fy nhad, sydd wedi bod y model rôl mwyaf i mi, nad oedd eisiau fy ngwylio i’n cropian i mewn i dwll. Roedd eisiau i mi ddod o hyd i rywbeth oedd yn fy ngwneud i'n hapus.
“Roeddwn i’n lwcus fy mod i wedi dod o hyd i athletau yn fuan, camp unigol lle nad oedd raid i mi ddibynnu ar eraill a ’fyddwn i ddim yn sefyll allan am wneud camgymeriadau. Roedd yn ymwneud â fi a fy ngweithredoedd i.”
Yn 30 oed bellach, James yw sbrintiwr Paralympaidd T11 mwyaf blaenllaw Cymru a Phrydain Fawr, a T11 ydi’r dosbarthiad ar gyfer athletwyr sydd â nam ar eu golwg.
Mae’n cyfuno cystadlu ledled y byd gyda’i swydd fel therapydd tylino chwaraeon cymwys, ond mae’n argyhoeddedig bod chwaraeon wedi rhoi cymaint mwy iddo na dim ond rasys a medalau.
“Pe bawn i heb ddod o hyd i chwaraeon, ’fyddwn i ddim wedi dod o hyd i dawelwch meddwl a’r agwedd at fywyd sy’n fy nghadw i i edrych ymlaen at bethau,” meddai James.
“Mae bod wedi'ch cofrestru fel person dall yn dod â llawer o heriau. I mi, mae wedi ymwneud â derbyn pwy ydw i a fy anabledd.
“Mae chwaraeon wedi fy helpu i i ddod i ddeall y pethau hynny, oherwydd mae chwaraeon yn gymaint o rolyrcostyr o emosiynau, uchafbwyntiau ac isafbwyntiau. Mae gen i rwystredigaethau bob dydd, ond rydw i’n gwneud fy ngorau glas i ganolbwyntio ar y pethau cadarnhaol mewn bywyd a mynd â’r teimlad hwnnw gyda fi ar y trac.”