Skip to main content

Gymry, Byddwch Actif – Rydyn Ni Yma i’ch Cefnogi Chi

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Gymry, Byddwch Actif – Rydyn Ni Yma i’ch Cefnogi Chi

Gymry, Byddwch Actif – Rydyn Ni Yma i’ch Cefnogi Chi  

Mae pob mis Ionawr fel rheol yn creu ymdeimlad newydd o optimistiaeth wrth i bobl geisio gosod nodau, meithrin arferion newydd ac, yn aml iawn, rhoi egni o’r newydd yn eu trefn ymarfer corff. 

Wrth gwrs, mae'r Flwyddyn Newydd hon yn un wahanol iawn. Ond mae bod yn actif er budd eich iechyd corfforol a meddyliol yn parhau i fod yn hollbwysig. 

Roedd ymgyrch Cymru Actif Chwaraeon Cymru – sy’n cael ei chefnogi gan bartneriaid ar draws sector chwaraeon Cymru – yn ysbrydoliaeth i gael y genedl i symud yn ystod cyfyngiadau symud y gwanwyn diwethaf, a'i nod yw gwneud yr un peth y tro hwn, er gwaethaf tywydd y gaeaf, gan roi her ychwanegol. 

Er bod canolfannau hamdden a champfeydd ar gau, a gweithgareddau clybiau wedi’u gohirio, nod yr ymgyrch yw eich cymell a'ch cefnogi chi drwy dynnu sylw at amrywiaeth o opsiynau ymarfer corff eraill. Dilynwch yr hashnod #CymruActif a chael eich ysbrydoli i ddilyn ymarferion ar-lein, codi rhai syniadau ar gyfer ymarfer sgiliau chwaraeon gartref, neu ddysgu mwy ynghylch pam mae gweithgareddau penodol yn dda i chi. 

 

 

Mae'r ymgyrch yn dod â'r holl awgrymiadau, syniadau ac adnoddau hynny at ei gilydd, gan ei gwneud yn haws dod o hyd i rywbeth addas i chi, eich rhieni, eich neiniau a’ch teidiau, neu eich plant wrth i chi jyglo eich ymrwymiadau gwaith eich hun gydag addysgu gartref. 



Mae’r wybodaeth a gafwyd yn sgil cyfyngiadau symud gwanwyn 2020 yn dweud wrthym mai pobl hŷn a phobl ifanc sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yw dau o'r grwpiau sy'n debygol o gael eu taro galetaf gan gyfyngiadau presennol y coronafeirws, felly mae gan yr ymgyrch nod penodol o gefnogi pobl dros 60 oed a phlant drwy'r cyfnod yma a thu hwnt.   

Mae sefydliadau o bob rhan o'r wlad yn gweithio'n galed i sicrhau bod y grwpiau hyn yn cael y cyfle gorau i fod yn actif yn ystod y cyfnod yma. Rydyn ni wedi eu casglu i gyd mewn un lle ar gyfer mynediad hwylus fel bod pawb yn gallu mwynhau manteision bod yn actif.