Skip to main content

Blociau adeiladu’r gymnast Joe ar gyfer y Gemau Olympaidd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Blociau adeiladu’r gymnast Joe ar gyfer y Gemau Olympaidd

Joe Cemlyn-Jones yw un o athletwyr mwyaf dawnus Cymru ac erbyn hyn mae'r gymnast yn hyderus bod ganddo'r blociau adeiladu yn eu lle i gystadlu yn y Gemau Olympaidd rhyw ddiwrnod.

Mae bod yn chwaraewr proffesiynol o safon Cemlyn-Jones yn gofyn am oriau di-ri o hyfforddi, ond nid dim ond yn y gampfa mae'r llanc 21 oed yn treulio ei amser.

Rhwng cystadlu mewn digwyddiadau mawr a hyfforddi, mae'r gymnast a anwyd ym Mryste - sy'n cynrychioli Cymru diolch i'w dad-cu sy’n Gymro - yn rhedeg siop e-bay sy'n gwerthu Lego.

Ac mae ei waith yn dosbarthu un o deganau enwocaf y byd mor llwyddiannus fel ei fod wedi dod yn fwy proffidiol ar hyn o bryd na bod yn athletwr proffesiynol.

Tystiolaeth, os oes angen, o fanteision dyfeisgarwch yn ystod y cyfnod hwn sydd wedi’i effeithio gan Covid-19.

Instagram: @joe_cemlyn_jones

"Rydw i'n entrepreneur yn ogystal ag athletwr proffesiynol felly rydw i’n prynu ac yn gwerthu Lego ar e-bay," meddai Cemlyn-Jones, sy'n gobeithio cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad dros Gymru yn Birmingham 2022.

"Mae gen i siop ar e-bay o'r enw jcj-bricks. Rydw i'n werthwr safon uchel ar e-bay ac mae llawer o fy eitemau i ar frig y canlyniadau chwilio.

"Rydw i’n prynu llwyth. Yr wythnos ddiwethaf, fe wnes i wario £400 ar 50 cilogram o frics Lego ail-law.         

"Rydw i'n dod â’r Lego i mewn, ei lanhau, ei olchi, ac wedyn ei werthu ar wahân. Rydw i'n ennill mwy ar e-bay nag o gymnasteg.

"Er ’mod i wrth fy modd yn cystadlu a hyfforddi, mae'n braf cael rhywbeth arall i syrthio'n ôl arno a'i wneud yn fy amser hamdden."

Felly, pan nad yw'n perffeithio ei Groes Haearn ar y cylchoedd, mae posib dod o hyd i Cemlyn-Jones yn sgleinio hen ffigur Lego o'r Dywysoges Leia – pigtails, gwn, y cyfan i gyd.   

Ac nid dyna'r cyfan.

"Rydw i hefyd yn llysgennad i gwmni Turmeric sy'n rhoi cynhyrchion i mi fel tyrmerig a fitamin D sy'n rhoi'r un y cant ychwanegol yna i mi i fod yn llwyddiannus."

Instagram: @joe_cemlyn_jones

Mae Cemlyn-Jones, sy'n aelod o Academi Falcons yn Barnstaple, ar y trac erioed at gyflawni pethau mawr ar ôl cynrychioli Prydain Fawr ers bod yn 11 oed.

Mae’r aelod o garfan Cymru wedi bod yn llwyddiannus yng Nghystadleuaeth Agored Llundain, Gemau Ysgolion y DU, pencampwriaethau Lloegr, Bundesliga yr Almaen a Chwpan y Byd.

Ond mae cyflawni llwyddiant o'r fath a chyrraedd y lefel gorfforol ofynnol yn golygu aberth enfawr a gwaith caled - yn enwedig wrth gystadlu yn erbyn rhai o'r athletwyr cryfaf ar y blaned.

"Hon oedd y broses hiraf yn fy mywyd i, cyrraedd y lefel i fod yn gymnast proffesiynol," meddai.

"Rydych chi'n dod mewn un diwrnod ac yn teimlo mor gryf fel eich bod chi’n gallu gwneud popeth. Ond fe fyddwch chi'n dod mewn y diwrnod canlynol ac yn methu gwneud hynny.

"Yr allwedd yw dyfalbarhau. Rhaid i chi ddal ati oherwydd os ydych chi'n teimlo'n dda bob dydd a ddim yn gwneud llawer, dydych chi ddim yn mynd i symud ymlaen.

"Rydw i'n hyfforddi o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Fel arfer, rydw i'n gwneud sesiwn dwbl bob dydd gyda dydd Mercher yn hanner diwrnod. Rydw i’n gwneud campfa pwysau ar ddydd Mercher a champfa pwysau ar ddydd Sadwrn.

"Rydw i'n gwneud tair awr yn y bore, yn cael egwyl ac wedyn rydw i'n gwneud dwy awr yn y prynhawn - gan ganolbwyntio ar atgyweirio neu unrhyw beth aeth o'i le yn y bore.

"Yn ystod y cyfnod cyn cystadlaethau byddaf yn ceisio gwneud pob un o'r chwe chyfarpar yn y sesiwn cyntaf ac wedyn yn yr ail sesiynau dydyn ni ddim yn gwneud gormod.

"Mae aberth mawr ar hyd y ffordd a dydych chi ddim yn cael llawer o fywyd cymdeithasol oherwydd yr ymrwymiad sydd ei angen i gyrraedd y lefel yma."

Instagram: @joe_cemlyn_jones

Mae Cemlyn-Jones yn unigolyn eithriadol frwd ac nid yw wedi dod yn agos at grafu wyneb ei botensial eto.

Ei freuddwyd yw cystadlu a llwyddo yn y Gemau Olympaidd ym Mharis yn 2024 – gan ddilyn yn ôl troed Cymro arall, Brinn Bevan, ac arwr Cemlyn-Jones ei hun, seren Prydain Fawr Dan Purvis.

"Fy nodau i yn y tymor hir yw'r Gemau Olympaidd a chael medal tîm i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad.

"Rydw i'n credu y bydd posib cyrraedd y nodau yma ond bydd angen llawer o waith caled. Mae lefel y gymnasteg yn wallgof nawr.

"Ar gyfryngau cymdeithasol rydych chi'n gweld athletwyr Rwsia a Japan yn postio fideos o gymnastwyr yn gwneud y sgiliau gwallgof yma ac rydyn ni'n ceisio codi ein lefel ni i gystadlu yn erbyn hynny. Mae fel ystol ac mae'r sgiliau'n mynd yn wallgof.

"Pan fyddwch chi'n gwneud yn dda mewn cystadleuaeth, neu’n ennill hyd yn oed, does dim gwell teimlad. Does dim posib ei ailadrodd yn unman arall oherwydd yr holl waith caled rydych chi wedi'i wneud i gyrraedd y lefel.

"Dyma beth rydyn ni’n hyfforddi ar ei gyfer felly mae'n rhaid i chi fwynhau'r adegau hynny. Mae pawb yn parchu pawb oherwydd pa mor anodd yw ein camp ni.

"Fe fyddwn ni’n cystadlu'n uniongyrchol yn erbyn rhywun ac fe fyddan nhw'n gwneud rhywbeth anhygoel ac rydych chi'n meddwl ‘waw, roedd e’n anghredadwy’.

"Ond rydw i'n gweithio mor galed ag y galla’ i er mwyn bod yn llwyddiannus ac rydw i'n cael fy ysbrydoli gan fy nhîm dros Gymru a Phrydain Fawr wrth i ni wthio’n gilydd yn gyson i wella bob dydd.”

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy