1. Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r Ddeddf a’i goblygiadau
Cred Chwaraeon Cymru ei bod yn ofynnol i bawb mewn bywyd cyhoeddus gefnogi'r cyfathrebu am wella llesiant pobl Cymru, a bod angen negeseuon clir, cyson a syml i werthu'r Ddeddf i'r cyhoedd a thu hwnt.
2. Yr adnoddau sydd ar gael i gyrff cyhoeddus i weithredu’r Ddeddf a pha mor effeithiol maent wedi cael eu defnyddio
Mae llawer o adnoddau wedi'u darparu; fodd bynnag, nid ydynt o reidrwydd wedi'u gwreiddio mewn iaith bob dydd. Mae angen gallu cysylltu â hwy a gallu gweithredu arnynt yn syml. O gymharu, er enghraifft, mae'r 'Newidiadau syml' yn glir ac yn ddiamwys
3. Y gefnogaeth a roddir i gyrff cyhoeddus gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Swyddfa'r Comisiynydd wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â Chwaraeon Cymru ac mae cyfarfod blynyddol yn cael ei gynnal. Rydym yn teimlo ei bod hi a'i thîm yn weladwy ac yn hygyrch iawn, gan ddarparu syniadau ac arweiniad ar ein hamcanion llesiant a'r newidiadau bach y gallwn eu gwneud. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi bod yn hyrwyddwr ar ran y Ddeddf ac mae wedi codi ei phroffil, heb ofni sefyll drosti. Mae ei phroffil cyhoeddus wedi codi ymwybyddiaeth o'r Ddeddf a'i photensial.
4. Rôl arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru
Mae'r naratif gan Lywodraeth Cymru yn glir iawn bod Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn uchelgais glir sy'n cyd-fynd â phob datganiad polisi a bwriad. Mae'r Ddeddf yn gyfle gwych i feddwl yn wahanol ac i weithredu'n wahanol. Fodd bynnag, nid yw'n glir a ydym yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn ar hyn o bryd. Byddai dull mwy unedig o weithredu ar draws y Llywodraeth gyda’r Ddeddf yn sicrhau gwell cyfranogiad ac integreiddio yn unol â’r egwyddorion datblygu cynaliadwy.
5. Unrhyw rwystrau eraill sy’n atal gweithredu’r Ddeddf yn llwyddiannus (e.e. Brexit, COVID, ac ati)
Y prif rwystr i weithredu'r Ddeddf yn llwyddiannus o ran grymoedd allanol yw diffyg cyd-ddealltwriaeth a blaenoriaethu'r Ddeddf yn well. Er enghraifft, yn hytrach na bod gwaith i gyflawni yn erbyn y pum egwyddor o gynaliadwyedd yn cael llai o flaenoriaeth, mae'n fwy hanfodol nag erioed sicrhau bod llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn cael ei gyflawni. Gellid gweld yr ymrwymiadau Cenedlaethau'r Dyfodol fel rhai anodd eu gweithredu yn wyneb adfyd a byddai'n haws mynd yn ôl i wneud yr hyn sy'n gyfarwydd. Rhaid i adeiladu'n ôl ar ôl Covid ac ar ôl i ni drosglwyddo o'r Undeb Ewropeaidd fod yn seiliedig ar egwyddorion datblygu cynaliadwy.