Skip to main content

Buddsoddiad o £1m i helpu pobl dros 60 oed i fod yn fwy actif

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Buddsoddiad o £1m i helpu pobl dros 60 oed i fod yn fwy actif

Bydd pobl dros 60 oed yn cael mwy o opsiynau i fwynhau ymarfer corff wrth i Gymru adfer wedi'r pandemig, diolch i fuddsoddiad o £1m gan Lywodraeth Cymru. 

Mewn ymgais i leihau anghydraddoldeb iechyd ac ynysu cymdeithasol fel rhan o Gynllun Gweithredu Pwysau Iach, Cymru Iach 2020-22 Llywodraeth Cymru, mae'r cyllid wedi cael ei neilltuo i Chwaraeon Cymru ac wedyn yn cael ei rannu rhwng pob un o'r 22 awdurdod lleol i'w ddefnyddio ar brosiectau hyd at fis Ebrill 2022. 

Mae gweithgareddau wedi dechrau eisoes mewn rhai rhannau o'r wlad, gyda dosbarthiadau ar-lein yn helpu pobl dros 60 oed i ymarfer gartref. Wrth i gyfyngiadau gael eu codi ac i bwysau Covid ar wasanaethau hamdden gael ei leddfu, bydd y buddsoddiad yn arwain at amrywiaeth o sesiynau wyneb yn wyneb pwrpasol mewn canolfannau hamdden ledled y wlad ynghyd â sesiynau awyr agored creadigol.

 

Ymhlith yr awdurdodau lleol sydd wedi gallu dechrau eu rhaglen well i bobl dros 60 oed eisoes gydag ymarferion rhithwir mae Sir Gaerfyrddin. Yn gynharach yr wythnos hon, ymunodd yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, â sesiwn ymarfer ar-lein 'Actif Anywhere' Cyngor Sir Caerfyrddin, i gael blas ar yr hyn sydd ar gael. 

Dywedodd yr Arglwydd Elis Thomas: "Fe wnes i fwynhau'r dosbarth yn fawr a chael fy atgoffa o'r brawdgarwch gwych rydych chi'n ei brofi wrth ymarfer gyda phobl eraill, er mai yn rhithwir mae hynny’n digwydd ar hyn o bryd. Mae'r agwedd gymdeithasol yr un mor bwysig â'r ochr gorfforol. 

"Rydyn ni’n cydnabod yn llwyr nad yw gweithgareddau arferol pobl wedi bod ar gael bob amser yn ystod y pandemig, felly rydw i’n edrych ymlaen at weld sut mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r cyllid yma mewn ffordd wedi'i thargedu i gynyddu'r ystod o opsiynau i bobl dros 60 oed fwynhau manteision ymarfer corff wrth i ni adeiladu'n ôl wedi'r argyfwng ofnadwy yma. Cadwch lygad ar wefannau’r cynghorau am ddiweddariadau." 



Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yng Nghyngor Sir Caerfyrddin: "Roedden ni’n falch iawn o gael rhoi blas i'r Dirprwy Weinidog o'r sesiynau ar-lein rydyn ni’n eu cynnig ar hyn o bryd a siarad ag e am ein cynlluniau cyffrous ar gyfer pryd byddwn yn lansio ein cynllun yn llawn unwaith y bydd y cyfyngiadau'n cael eu codi. Rydyn ni’n edrych ymlaen at allu dweud mwy wrth bobl leol am ein cynlluniau'n fuan." 



Mae ymchwil a gasglwyd gan ComRes Savanta ar ran Chwaraeon Cymru yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf yng Ngwanwyn 2020 yn awgrymu bod pobl dros 60 oed hefyd yn debygol o fod ymhlith y grwpiau sy'n cael eu taro galetaf gan y cyfyngiadau presennol o ran faint o ymarfer corff maent yn ei wneud. 



Felly, mae clybiau chwaraeon yn cael eu hannog i ystyried sut gallent wneud cais i Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru i wella cyfleoedd i bobl hŷn yn y dyfodol, yn ogystal â grwpiau oedran eraill, ac mae’r sector chwaraeon yng Nghymru hefyd yn uno tu ôl i'r hashnod #CymruActif i ddod ag amrywiaeth eang o awgrymiadau, syniadau ac adnoddau ymarfer corff yn y cartref at ei gilydd. Y gobaith yw y bydd y rhain yn gwneud bywyd ychydig yn haws, yn iachach ac yn fwy o hwyl ar hyn o bryd. Ewch i www.chwaraeon.cymru i gael gwybod mwy.

Newyddion Diweddaraf

Sut perfformiodd athletwyr Cymru ym Mharis 2024?

Wel mae wedi bod yn haf gwych! Efallai bod Paris 2024 wedi dod i ben, ond bydd atgofion Olympiaid a…

Darllen Mwy

‘Oedi’ Cronfa Cymru Actif ar gyfer ceisiadau newydd

Oherwydd y nifer aruthrol o geisiadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn eleni, mae Chwaraeon Cymru yn oedi…

Darllen Mwy

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy