Skip to main content

Cefnogaeth athletwyr Tîm Cymru i'r Arolwg Chwaraeon Ysgol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cefnogaeth athletwyr Tîm Cymru i'r Arolwg Chwaraeon Ysgol

Mae athletwyr Tîm Cymru wedi cymryd seibiant o'u gwaith paratoi ar gyfer Gemau'r Gymanwlad i annog pobl ifanc ledled y wlad i lenwi Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022.

Mae'r arolwg cenedlaethol, sy'n cael ei gynnal gan Chwaraeon Cymru, yn cael ei lenwi gan blant rhwng 7 ac 16 oed yn ystod amser ysgol a bydd eu barn yn cael ei defnyddio i helpu i lunio dyfodol chwaraeon yng Nghymru.

Nid yn unig y bydd canlyniadau’r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn rhoi darlun o ba chwaraeon a gweithgareddau y mae plant yn cymryd rhan ynddynt ar hyn o bryd y tu mewn a'r tu allan i'r ysgol, a pha mor aml, bydd hefyd yn datgelu pa chwaraeon a gweithgareddau yr hoffent gael y cyfle i fwynhau mwy ohonynt.

Mae'r arolwg yn cau ddydd Gwener 22 Gorffennaf.

Aled Sion Davies, dyn ifanc mewn gwisg tîm cymru, yn gwenu i mewn i'r camera o'r ochr gyda'i freichiau wedi'u croesi.
Mae chwaraeon yn hynod bwysig ar gyfer datblygu cymaint o sgiliau gwahanol. Rwy'n credu'n gryf fod gan bawb ddawn gudd a bod llwybr addas allan yno i bawb drwy chwaraeon. Nod yr Arolwg Chwaraeon Ysgol yw helpu pob person ifanc i gael mwy o gyfleoedd i ddod o hyd i weithgareddau pleserus sy'n addas ar eu cyfer.
Paralympaidd Aled Sion Davies

Dywedodd Nia Jones, capten tîm pêl-rwyd Cymru, sydd hefyd yn athrawes Addysg Gorfforol yn Ysgol y Gadeirlan yng Nghaerdydd: "Byddai pob athletwr o Dîm Cymru wrth ei fodd yn ysbrydoli plant i gadw'n heini am oes. Er mwyn helpu gyda hyn, mae'n hanfodol ein bod yn lledaenu'r gair am yr arolwg hwn fel y gellir clywed lleisiau pobl ifanc. Mae'r arolwg yn cymryd yr un faint o amser i'w lenwi â chwarter pêl-rwyd, felly cymerwch ran.”

Dyma'r pumed tro ers 2011 i Chwaraeon Cymru gynnal yr arolwg o arferion gweithgareddau pobl ifanc, ac mae dros 60,000 o ddisgyblion o gannoedd o ysgolion eisoes wedi llenwi'r arolwg eleni ers iddo agor ddiwedd mis Mawrth. 

Dywedodd Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Chwaraeon Cymru: "Bydd yr arolwg eleni yn ein helpu ni a'n partneriaid ar draws chwaraeon, addysg ac iechyd, i adeiladu ar ganfyddiadau'r arolwg blaenorol a pharhau i weithio'n galed i ddarparu cyfleoedd sy'n canolbwyntio ar anghenion a chymhellion pobl ifanc.

"Drwy gasglu a gwrando ar eu barn, gall pawb sy'n rhan o chwaraeon Cymru ddysgu mwy am beth mae pobl ifanc eisiau ei weld, nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth mewn cymunedau ledled y wlad, gwneud penderfyniadau mwy gwybodus am adnoddau yn y dyfodol, a chael gwell dealltwriaeth o ba gymorth sydd ei angen i gael gwared ar unrhyw rwystrau sy'n atal pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.

"Fel bob amser, rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth enfawr sy'n cael ei roi gan ein partneriaid, a phartneriaid awdurdodau lleol yn benodol, i gyflwyno'r Arolwg Chwaraeon Ysgol.”

Cafodd pob ysgol yng Nghymru e-bost gyda’u dolen unigryw eu hunain i'r Arolwg Chwaraeon Ysgol ddydd Llun 28 Mawrth. Os nad yw’r ddolen ganddynt mwyach, gallant e-bostio [javascript protected email address] a gofyn iddi gael ei hanfon eto.

Cynghorir ysgolion hefyd i wirio'r hyn y mae angen iddynt ei wneud er mwyn bod yn gymwys ar gyfer eu Hadroddiad Arolwg Chwaraeon Ysgol unigol eu hunain. Yna gall yr ysgol ddefnyddio'r adroddiad hwn i deilwra eu gweithgareddau chwaraeon a lles i gyd-fynd yn well ag anghenion eu disgyblion.

Fel cymhelliad ychwanegol i ysgolion gymryd rhan, bydd pob ysgol sy'n gymwys ar gyfer ei hadroddiad unigol ei hun hefyd yn cael ei chynnwys mewn raffl i ennill ymweliad gan rai o athletwyr Tîm Cymru ar ôl iddynt gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad... gydag ychydig o fedalau i ddangos i’r disgyblion gobeithio! 

Mae cyfoeth o adnoddau ar gael ar-lein i helpu athrawon i arwain eu disgyblion drwy'r arolwg. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys 'fideo esbonio', ewch i https://www.chwaraeon.cymru/ymchwil-a-gwybodaeth/arolwg-chwaraeon-ysgol/. Bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref.