Skip to main content

Chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan

Cyngor gan y Sefydliad Chwaraeon Mwslimaidd

Mae'n Ramadan - y Mis Sanctaidd ar y calendr Islamaidd! Yn ystod y mis yma, mae Mwslimiaid yn cadw at gyfnod o ymprydio lle maen nhw'n ymatal rhag bwyd a diod rhwng toriad y wawr a machlud haul.

Mae maeth a hydradu’n rhannau pwysig o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a dyna pam y gall ymprydio gael effaith. Nid yw hyn yn golygu bod pobl Fwslimaidd yn rhoi’r gorau i gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff drwy gydol Ramadan.

Beth yw Ramadan?

Ramadan yw nawfed mis y calendr lleuad Islamaidd, ac mae’n cael ei gadw gan Fwslimiaid ledled y byd fel cyfnod o ymprydio, myfyrio ysbrydol, elusen a gweddi. Mae'n gyfnod o ddefosiwn a mewnsyllu crefyddol dwysach. 

Pryd mae Ramadan yn cael ei gynnal?

Mae’r dyddiad yn newid bob blwyddyn yn dibynnu ar weld y lleuad cilgant newydd. Eleni, mae Ramadan rhwng Mawrth 23ain hyd at benwythnos Ebrill 21ain.

Mae diwedd Ramadan yn cael ei nodi gan ŵyl o'r enw Eid al-Fitr, sy'n amser ar gyfer gweddi, dathlu, undod teuluol a gwledd.

Pam mae Mwslimiaid yn ymprydio yn ystod Ramadan?

Mae Mwslimiaid yn credu bod ymprydio yn ystod Ramadan yn eu helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a thosturi Duw tuag at y rhai mewn angen.

Dyma gyngor y Sefydliad Chwaraeon Mwslimaidd ar gyfer cyflwyno a chymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan.

Sut i addasu chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan?

Er mwyn sicrhau bod Mwslimiaid yn gallu parhau i fwynhau manteision chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o sut i addasu chwaraeon a hyfforddiant. 

  • Byddwch yn sensitif ac yn llawn dealltwriaeth - Dylai hyfforddwyr a chyd-chwaraewyr fod yn sensitif i arferion diwylliannol a chrefyddol cyfranogwyr Mwslimaidd. Byddai dymuno “Ramadan Mubarak”, sy'n golygu “Ramadan Bendithiol”, yn golygu llawer. Byddai hefyd yn garedig gwneud addasiadau ar gyfer amseroedd gweddïo a darparu gofod preifat i gyfranogwyr weddïo. Dylid ystyried hyn drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond ar gyfer Ramadan.
  • Addasu dwysedd a hyd - Yn ystod Ramadan, dylid addasu dwysedd a hyd y gweithgarwch corfforol. Efallai y bydd angen i hyfforddwyr addasu eu sesiynau hyfforddi ar gyfer eu cyfranogwyr Mwslimaidd. Gall hyn helpu i arbed ynni ac osgoi dadhydradu.
  • Addasu amser yr ymarfer corff – Os oes modd, dylid cynnal hyfforddiant yn ystod oriau nad ydynt yn ymprydio er mwyn helpu i gynnal lefelau egni. Os gwneir yr hyfforddiant yn ystod yr oriau ymprydio, dylai fod yn ysgafnach ac yn llai dwys. Mae'n well bod hyn yn digwydd yn gynnar yn y bore ar ôl ailgyflenwi neu'n hwyr gyda'r nos cyn ail-lenwi â thanwydd.
  • Monitro iechyd a lles - Yn ystod Ramadan, gall athletwyr fod yn fwy agored i ddadhydradu, blinder, a phroblemau iechyd eraill. Dylai hyfforddwyr ac arweinwyr fonitro iechyd a lles yr athletwyr sy'n ymprydio yn fanwl a sicrhau nad ydynt yn gorymarfer.

Mae Golff Cymru a Chriced Cymru yn rhai o'r sefydliadau ledled Cymru sy'n cynnig sesiynau hanner nos i Fwslimiaid yn ystod Ramadan. Yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, bydd Foundation 4 Sports yn cyflwyno pêl fasged a phêl droed ochr yn ochr â thennis bwrdd a sboncen. 

Mae batiwr yn derbyn bowlen tra bod wicedwr yn aros y tu ôl i'r bonion.
Roedd sesiynau rhad ac am ddim hwyr y nos ym mis Ebrill yng Ngerddi Sophia yn caniatáu i Fwslimiaid a oedd yn arsylwi Ramadan chwarae criced ar ôl torri eu hympryd.

Cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan

Gall fod yn heriol cynnal trefn reolaidd o weithgarwch corfforol i gadw'n iach yn ystod Ramadan. Dyma rai pethau i'w hystyried ar gyfer y rhai sy'n ymprydio yn ystod y Mis Sanctaidd. 

  • Cymryd seibiant a gorffwys – Os ydych chi’n hyfforddi ar eich pen eich hun neu’n cystadlu fel rhan o dîm, dylai fod mwy o seibiannau i orffwys ac adfer wrth wneud ymarfer corff yn ystod yr ympryd.
  • Cael digon o orffwys - Mae'n hanfodol trefnu amser gorffwys digonol yn ystod y cyfnod ymprydio er mwyn rhoi cyfle i'r corff adfer. Oherwydd gweddïau hwyr y nos a blinder, gall cysgu am gyfnod byr iawn yn ystod y prynhawniau fod yn fuddiol iawn.
  • Bwyta'n iach - Wrth dorri'r ympryd ar fachlud haul, dylid canolbwyntio ar fwyta bwydydd iach, llawn maethynnau fel ffrwythau, llysiau, grawn cyflawn, a phroteinau heb lawer o fraster i gadw'ch corff yn llawn tanwydd am gyfnod hirach.
  • Hydradu’n gyson - Yfwch ddigon o ddŵr a defnyddiwch ddigon o electrolytau ar ôl machlud haul i gadw wedi hydradu wedyn drwy gydol y dydd.
  • Gofyn am gyngor meddygol - Os yw cyfranogwr yn dioddef o unrhyw gyflwr meddygol, mae'n hanfodol ymgynghori â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn ymprydio i hyfforddi yn ystod Ramadan

Diolch i’r Sefydliad Chwaraeon Mwslimaidd am gynnig y cyngor a’r wybodaeth yma ar gyfer y clybiau cymunedol ac ar gyfer cyfranogwyr chwaraeon Mwslimaidd yng Nghymru. 

Newyddion Diweddaraf

Wythnos Hinsawdd Cymru 2023: Beth mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd?

Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu’r genedl i gyrraedd sero net erbyn 2030 a chreu Cymru wyrddach, gryfach…

Darllen Mwy

Rhoi mwy o resymau i bobl ifanc ddewis sboncen

Dylai mwy o sylw ar y llwyfan byd-eang helpu i danio diddordeb pobl ifanc.

Darllen Mwy

Gorllewin Cymru yn cymryd cam hanfodol tuag at drawsnewid chwaraeon cymunedol

Mae Dr Sue Barnes wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru.

Darllen Mwy