Skip to main content

Chwaraeon Cymru a Parkwood Leisure i ffurfio partneriaeth newydd ym Mhlas Menai

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Chwaraeon Cymru a Parkwood Leisure i ffurfio partneriaeth newydd ym Mhlas Menai

Mae Chwaraeon Cymru yn falch iawn o gyhoeddi Parkwood Leisure fel y partner comisiynu a ffafrir i weithio ochr yn ochr â hwy yn y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ym Mhlas Menai o fis Ionawr 2023 ymlaen yn dilyn proses gaffael helaeth. 

Nod y bartneriaeth gyda’r darparwr rheoli hamdden arobryn yw sicrhau bod gan y Ganolfan ym Mhlas Menai ddyfodol cynaliadwy yn y tymor hir, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau’r cyfleuster ac arfordir trawiadol Gogledd Cymru.

Mae Parkwood Leisure yn arbenigo mewn datblygu a gweithredu cyfleusterau hamdden, canolfannau atyniadau ymwelwyr, cyrsiau golff, safleoedd treftadaeth a theatrau ar ran cleientiaid awdurdodau lleol. Ers eu ffurfio yn 1995, maent wedi ehangu ac maent bellach yn un o'r darparwyr mwyaf profiadol o ddarpariaeth rheoli hamdden yn y DU. Eu cenhadaeth yw creu a chynnal partneriaethau cynaliadwy, parhaol i helpu i greu cymunedau lleol hapusach ac iachach.

O 30 Ionawr 2023 ymlaen bydd Parkwood Leisure yn gweithredu’r Ganolfan o ddydd i ddydd am gyfnod cychwynnol o ddeng mlynedd. Bydd yr adeiladau a'r tir yn parhau i fod yn eiddo i Chwaraeon Cymru. Bydd grŵp partneriaeth strategol sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru, Parkwood Leisure a staff sy'n gweithio ym Mhlas Menai yn monitro perfformiad y bartneriaeth. Yn ogystal â datblygu a gwella'r gwasanaethau presennol mae'n rhaid i'r bartneriaeth ddiogelu telerau ac amodau cyflogaeth y staff.

Dyn yn hwylfyrddio gydag adeilad Plas Menai yn y cefndir
Wedi’i leoli ar y Fenai, mae Plas Menai, Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, yn cynnig gweithgareddau a chyrsiau chwaraeon dŵr i ysgolion, grwpiau, teuluoedd ac unigolion.
Mae Parkwood yn amlwg yn deall pa mor bwysig yw Plas Menai i Chwaraeon Cymru ac mae eu hanes o gydweithio i wella a darparu gwasanaethau yng Nghymru a thu hwnt yn nodedig.
Graham Williams, Cyfarwyddwr yn Chwaraeon Cymru

Dywedodd Graham Williams, Cyfarwyddwr yn Chwaraeon Cymru: “Mae’n bleser gen i groesawu Parkwood Leisure i weithio gyda ni yn y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ym Mhlas Menai. Yn ystod y saith mis diwethaf maen nhw wedi creu argraff arnom ni gyda’u syniadau arloesol ynghylch datblygu darpariaeth gydol y flwyddyn, eu harbenigedd a’u hymrwymiad i ddeall anghenion y gymuned leol, yn ogystal â’r pwysigrwydd maen nhw’n ei roi i les staff. 

"Mae Parkwood yn amlwg yn deall pa mor bwysig yw Plas Menai i Chwaraeon Cymru ac mae eu hanes o gydweithio i wella a darparu gwasanaethau yng Nghymru a thu hwnt yn nodedig.

“Mae Plas Menai eisoes yn ddarparwr gweithgareddau awyr agored byd-enwog gyda staff balch ac angerddol a does gen i ddim amheuaeth y bydd yr arbenigedd ychwanegol a ddaw gyda Parkwood Leisure yn arwain at fwy o bobl yn mwynhau popeth sydd gan Blas Menai i’w gynnig. Rydw i’n gyffrous i weld yr hyn y gallwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd.”

Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi diwrnod cyntaf cyfnod segur cyfreithiol, sy’n para o leiaf 10 diwrnod. Dilynir hyn gan gynllun pontio tri mis cyn i'r bartneriaeth ddechrau ym mis Ionawr.

Newyddion Diweddaraf

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy