Skip to main content
  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Chwaraeon Cymru yn cyhoeddi rhaglen ddysgu newydd ar gyfer y sector chwaraeon

Chwaraeon Cymru yn cyhoeddi rhaglen ddysgu newydd ar gyfer y sector chwaraeon

Mae Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi rhaglen fawr o ddysgu a datblygu ar gyfer y sector chwaraeon a fydd yn dechrau ym mis Ionawr 2020.

Bydd y Rhaglen Gyfathrebu, Dysgu a Dirnadaeth (CLIP) yn darparu mynediad rheolaidd i gyfleoedd addysg a hyfforddiant.

Mae'r rhaglen yn ddull gweithredu ar y cyd gan dimau cyfathrebu a dirnadaeth Chwaraeon Cymru a bydd yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth sydd â'u ffocws ar feysydd fel dangos tystiolaeth o effaith, defnyddio data, cyfryngau cymdeithasol a defnyddio technoleg mewn marchnata.

Bydd CLIP yn cael cymorth ariannol gan Chwaraeon Cymru er mwyn sicrhau bod y sesiynau'n fforddiadwy ar gyfer yr amrywiaeth o sefydliadau sy'n rhan o sector chwaraeon Cymru.

Mae'n dilyn cyfnod prawf llwyddiannus gyda 100% o'r rhai a oedd yn bresennol yn dweud bod y sesiynau dysgu o werth mawr a 95% yn dweud eu bod wedi profi'n fuddiol eisoes i'w gwaith.

Bydd sesiynau ar gael wyneb yn wyneb neu ar-lein, gyda dosbarthiadau ymarferol yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled y wlad, i wella mynediad.

Dywedodd Paul Batcup, Rheolwr Cynnwys Digidol ar gyfer Chwaraeon Cymru:

"Wrth galon strategaeth Chwaraeon Cymru mae ein hymrwymiad ni i helpu i gefnogi sector chwaraeon llwyddiannus, o dan arweiniad dirnadaeth a dysgu ar y cyd.  Mae'r rhaglen yn elfen allweddol o gyflawni'r ymrwymiad hwnnw.

"Mae technoleg yn benodol yn newid y ffordd mae pobl yn ymwneud â chwaraeon ac ymarfer ac mae'n rhaid i ni wneud ein darpariaeth yn berthnasol ac yn gyffrous.

"Rydyn ni hefyd yn gwybod mai dim ond os yw'n cael ei chyfathrebu'n effeithiol mae tystiolaeth yn cael effaith, a dyma pam mae'r themâu dirnadaeth a chyfathrebu wedi cael eu datblygu ochr yn ochr. Rydyn ni eisiau i bawb sy'n cymryd rhan yn y rhaglen ddeall sut orau i wella'r ffordd maen nhw'n gweithio o ganlyniad i'w data.

 "Mae ein dull o ddysgu, cyflawni a dathlu gyda'n gilydd gyda'n partneriaid ni'n rhan ganolog o'r ffordd mae'r rhaglen yma wedi cael ei chynllunio ac rydyn ni'n gyffrous i ddal ati i adeiladu ar lwyddiant enfawr y peilot CLIP gwreiddiol."

Bydd gan CLIP 'dymhorau' dysgu penodol, gyda'r cyntaf yn weithredol rhwng misoedd Ionawr ac Ebrill 2020 o dan y thema 'Bod yn Berson Ganolog / Deall Eich Cynulleidfa'.

A bydd pob tymor yn cynnwys gwahanol ffyrdd o ddysgu:

  1. Digwyddiadau
  2. Sesiynau
  3. Dysgu
  4. Ar-lein

Bydd manylion y sesiynau dysgu'n cael eu rhyddhau yn fuan.

Gall partneriaid Chwaraeon Cymru gofrestru i dderbyn gwybodaeth am CLIP yma: href="mailto:communications@sport.wales">communications@sport.wales.  

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy