Nid oes angen i unrhyw glybiau chwaraeon sy'n anelu at gynnig mwy o gyfleoedd cynhwysol i bobl anabl yn ystod 2024 edrych ymhellach na Chlwb Gymnasteg Bangor a Chlwb Sboncen Rhiwbeina am ysbrydoliaeth.
Mae’r ddau glwb yn esiamplau disglair o glybiau sydd wedi rhoi llawer o ystyriaeth i sut gallant greu lleoliad lle mae croeso i bawb fwynhau chwaraeon.
Boed hynny drwy gynnig gwahanol fformatau o’u campau, neu hyfforddi eu hyfforddwyr i ddarparu ar gyfer gwahanol anghenion pobl, mae’r ddau glwb wedi gwneud chwaraeon cynhwysol yn flaenoriaeth.
Dechreuodd Clwb Sboncen Rhiwbeina yng Nghaerdydd gynnig sesiynau pêl raced bob pythefnos fwy na 10 mlynedd yn ôl.
Ers hynny, maent wedi datblygu sesiynau sboncen cadair olwyn sy’n cael eu cynnal yno bob nos Iau.
Roedd John Cooper yn chwaraewr heb anabledd yn y clwb, sydd bellach yn defnyddio cadair olwyn ar ôl salwch difrifol.
Meddai Richard Plenty, aelod o bwyllgor y clwb: “Yn 2019, fe ddaeth John i un o’n sesiynau cadair olwyn ni ac mae wedi bod yn dod ers hynny.
“Mae’r sesiynau bob amser yn gorffen yn y bar ac rydyn ni’n mynd allan ar nosweithiau cymdeithasol i gael cwrw a chyrri!
“’Fydden ni ddim wedi gallu dechrau ar y siwrnai yma oni bai am yr hyfforddwyr, y cyfranogwyr, Joanna Coates-McGrath yn Chwaraeon Caerdydd, a’n noddwr ni, David Rees, wnaeth adael arian i ni, pan gafodd wybod ei fod yn mynd i farw, er mwyn i’n sesiynau ni allu parhau.”