Awyddus i fynd yn wyrdd? Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.
I roi ychydig o ysbrydoliaeth i chi, rydyn ni’n edrych ar saith clwb a sefydliad chwaraeon ledled Cymru sydd i gyd yn cymryd camau breision i fod yn fwy cynaliadwy.
Beth all eich clwb ei wneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar?
Cael Adroddiad Ynni
Criced Cymru o ddifrif am ynni
Mae pedwar clwb criced yn Nhorfaen yn cymryd rhan mewn cynllun peilot arbed ynni. Wedi’i ysbrydoli gan gynhadledd Cynaliadwyedd y WSA y llynedd, penderfynodd Criced Cymru ei bod yn hen bryd iddo ddod i wybod mwy am ôl troed carbon unigol ei glybiau.
Mae bellach yn comisiynu Adroddiadau Arbed Ynni ar gyfer pedwar clwb gwahanol a, thrwy ei Gronfa Grantiau Sirol ECB, bydd wedyn yn gwario £10,000 ar fesurau arbed ynni ym mhob clwb.
Dywedodd y Rheolwr Buddsoddi mewn Cyfleusterau, Victoria Jones: “Fe fyddwn ni’n gallu gweld yn union pa fesurau fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf ac wedyn fe fyddwn ni’n gallu chwistrellu rhywfaint o arian i’r clybiau. Nid yn unig y bydd y clybiau’n gallu lleihau eu biliau, ond hefyd fe fyddan nhw’n torri eu hôl troed carbon.”
Casglu sbwriel ac ailddefnyddio deunyddiau’r digwyddiadau
Y clwb beicio sy’n arloesi
Mae Clwb Beicio Antur Oneplanet yn Llandegla yn llywio ei ffordd tuag at ddyfodol gwyrddach. I Mary Hext, mae’r cyfan yn dechrau gyda mwynhau a pharchu’r amgylchedd o’ch cwmpas chi:
“Fel hyfforddwyr, rydyn ni’n fodelau rôl yn ein hymddygiad; casglu sbwriel, gosod tiwbiau mewnol yn hytrach na'u taflu nhw a rhannu dillad a darnau beicio ail-law. Rydyn ni’n annog ein clwb plant ni i archwilio a mwynhau ein hardaloedd lleol ond, ar yr un pryd, parchu'r amgylchedd."
Mae Mary hefyd wedi bod yn llais blaenllaw i annog mwy o ledaeniad rhanbarthol ar rasys Beicio Cymru i leihau milltiredd. Mae tâp cyrsiau a byrddau rhifau cystadlaethau yn cael eu hailddefnyddio lle bo modd ac mae’r clymau cebl, oedd yn cael eu defnyddio i osod y byrddau rhifau yn eu lle, wedi cael eu newid am linyn biobydradwy. Wrth gwrs, gobeithio y bydd arfogi pobl ifanc â'r sgiliau i reidio beic hefyd yn arwain at deithio mwy cynaliadwy yn y dyfodol.
Gwobrwyo a dathlu arwyr cynaliadwyedd
Rhedwyr mynydd yn hyrwyddo cynaliadwyedd
Mae Cymdeithas Rhedwyr Mynydd Cymru yn dathlu gwaith ei chymuned ar draws Cymru a’r gororau ym maes cynaliadwyedd a materion amgylcheddol. Mae ei Gwobrau Amgylcheddol yn cynnwys categorïau ar gyfer trefnwyr rasys sy'n arwain y ffordd wrth wneud eu rasys mynydd yn fwy cynaliadwy.
Mae’r enillwyr yn derbyn aelodaeth blwyddyn am ddim hyd yn oed ac arian i'w wario ar wneud gwelliannau pellach ym maes cynaliadwyedd.
Mae'r sefydliad hefyd wedi penodi Swyddog yr Amgylchedd ac wedi cyhoeddi ei Ganllawiau Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd.