Skip to main content

Cronfa Cymru Actif – Cychod newydd i glwb yn Abertawe

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cronfa Cymru Actif – Cychod newydd i glwb yn Abertawe

Mae'r clwb a lansiodd Ben Pritchard tuag at bodiwm pencampwriaeth y byd yn llwyddo i gadw’i ben uwch ben y dŵr diolch i arian grant o Gronfa Cymru Actif.

Mae Clwb Rhwyfo Dinas Abertawe – a aeth â Pritchard ar y dŵr wedi i ddamwain feicio roi terfyn ar ei yrfa trithlon yn 2016 – yn gorfod addasu i fyd cwbl newydd.

Tan fis Mawrth eleni, roedd y clwb ym Marina Abertawe yn helpu i fireinio sgiliau Pritchard ar Afon Tawe.

Ac fe wnaeth waith eithaf da hefyd, wrth iddo ddilyn yn ôl troed seren para-rwyfo flaenorol y clwb, James Roberts, ac roedd yn edrych fel pe bai am ddilyn ei gydaelod yn y clwb i’r Gemau Paralympaidd hefyd, cyn i Covid-19 daro.

Yn hytrach, gorfododd y cau i lawr y clwb i gau ei ddrysau i Pritchard a'i 65 aelod arall ac mae cael y cychod allan eto wedi bod yn her anodd.

Fel athletwr elitaidd gyda Rhwyfo Prydain, mae Pritchard, a enillodd fedal efydd yng Nghwpan y Byd, wedi gallu dal ati i hyfforddi o leiaf yn eu canolfan yn Caversham, ger Reading. 

Ond i’r rhwyfwyr rheolaidd yn y clwb, y broblem fawr fu gofynion cadw pellter cymdeithasol wrth i’r cyfranogwyr orfod dilyn canllawiau newydd llym y gamp.

“Gyda rhwyfo, oni bai eich bod chi mewn un cwch ar eich pen eich hun, neu mewn cwch gydag aelod o'r teulu, rydych chi’n mynd yn groes i’r canllawiau cadw pellter cymdeithasol," meddai llywydd y clwb Andrew Williams

“Mae'r rhan fwyaf o'n haelodau ni'n rhwyfo mewn cychod mwy am eu bod nhw’n fwy sefydlog ac yn haws eu rhwyfo. Felly gan amlaf fe fydden nhw mewn cwch i bedwar.

“Mae gennym ni rai cychod llai, ond maen nhw’n tueddu i fod ar gyfer rhwyfo cystadleuol ac felly maen nhw ychydig yn anoddach eu trin ar gyfer rhwyfwyr heb fod yn rhwyfwyr cystadleuol. Roedd gennym ni efallai bedwar neu bump o gychod a allai fod wedi bod yn addas, ond allan o aelodaeth o ryw 60, doedd hynny ddim yn gwneud bywyd yn hawdd iawn.”

Yn syml, roedd angen cychod llai, mwy cyfeillgar i deuluoedd, a fyddai'n galluogi grwpiau teuluol ac unigolion i fynd yn ôl ar y dŵr.

Felly, gwnaeth y clwb gais i Chwaraeon Cymru am gyllid o Gronfa Cymru Actif ac mae’n ddiolchgar am yr arian sydd wedi ei alluogi i barhau i gynnig rhwyfo i'w aelodau.

Mae'r arian grant yn bosib diolch i Lywodraeth Cymru ac arian sydd wedi cael pwrpas newydd gan y Loteri Genedlaethol, sy'n parhau i fod yn un o gefnogwyr mwyaf chwaraeon yng Nghymru.

Nawr, maent wrthi'n prynu dau gwch dwbl ychwanegol; dwbl sefydlog a dwbl cragen fain.

“Rydyn ni wedi llwyddo i fenthyg cwch neu ddau gan y corff rheoli, sydd wedi helpu, ond mae clybiau eraill eu heisiau hefyd," ychwanegodd Andrew.

“Ar ôl i ni gael y cychod newydd yma, fe allwn ni roi'r rheini'n ôl ac fe all y clwb ddechrau anadlu eto. Gyda rhwyfo, os byddwch chi’n colli pobl i gamp arall, fe all fod yn anodd eu cael yn ôl, yn enwedig os byddan nhw’n cymryd rhan mewn camp y gallwch chi ei gwneud ym mhob tywydd

“Ein prif ffynhonnell ni o incwm yw tanysgrifiad yr aelodau, felly os bydd hwnnw'n dechrau gostwng tua chwarter dyweder, fe fydd y clwb mewn trafferthion difrifol yn sydyn iawn. Os nad ydych chi’n gallu talu eich aelodaeth o’r gymdeithas a'ch yswiriant, mae'n ddiwedd ar y gamp - felly mae'n hanfodol ein bod ni’n dal ati ac yn gallu cynnig rhwyfo.”

Gellir mesur gwerth y clwb i gymuned Abertawe yn ôl y ffaith bod yr aelodaeth yn pontio dau ben y sbectrwm grŵp oedran.

Mae gan y clwb nifer sylweddol o'r adran 12 i 18 oed, yn ogystal â'r rhai dros 40 oed, sydd wedi canfod bod y gamp yn llai o bwysau a straen ar y corff na rhedeg ar dir.

Hefyd mae Dinas Abertawe wedi sefydlu cysylltiadau â Phrifysgol Abertawe ac mae’n defnyddio'r cyfleusterau campfa newydd ar Gampws newydd y Bae ar gyfer un o'i sesiynau hyfforddi wythnosol.

Mae'r clwb yn croesawu aelodau newydd ac unwaith y bydd wedi gwneud yr addasiadau gyda'r mathau o gychod sydd ganddo i'w cynnig, mae’n obeithiol y gall oroesi a ffynnu.

“Does gan y bobl sy'n rhwyfo gyda ni am y tro cyntaf ddim syniad pa mor hyfryd yw'r Tawe fel darn o afon,” ychwanegodd Andrew. “Pan mae’r tywydd yn iawn, mae'n hardd ac rydyn ni'n lwcus iawn.” 

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy