Skip to main content

Crynodeb o’r Gemau Olympaidd: Athletwyr o Gymru yn Tokyo 2020

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Crynodeb o’r Gemau Olympaidd: Athletwyr o Gymru yn Tokyo 2020

Bydd Gemau Olympaidd Tokyo yn cael eu cofio fel y Gemau lle bu merched Cymru yn ailysgrifennu hanes eu gwlad.

Nid yn unig y daeth Hannah Mills a Lauren Price adref gyda medalau aur, ond hefyd roedd eu cyflawniadau’n gwbl arloesol i'r genedl.

Ochr yn ochr â Matt Richards a Calum Jarvis, fe wnaethant nid yn unig gyfrannu at dair cystadleuaeth medal aur a enillwyd gan athletwyr o Gymru dros Brydain Fawr (gan ddarparu aur i bedwar athletwr gan fod y nofwyr Richards a Jarvis yn rhan o'r garfan ras gyfnewid dull rhydd 4 x 200m) ond mae’r ddwy fenyw o Gymru bellach wedi camu i’r fan lle nad oes unrhyw un arall wedi mynd o'r blaen.

Bellach Mills yw'r hwylwraig Olympaidd fenywaidd fwyaf llwyddiannus erioed gyda dwy fedal aur ac un  arian.

 

Bydd ei chystadleuaeth, y dosbarth 470, yn gymysg ym Mharis yn 2024.

Price yw'r focswraig gyntaf o Gymru i ennill aur Olympaidd a dim ond yr ail focswraig Brydeinig fenywaidd i gyrraedd brig y podiwm Olympaidd.

Mae ei buddugoliaeth ar y diwrnod olaf yn Japan yn golygu bod athletwyr o Gymru bellach wedi ennill medalau aur yn y chwaraeon canlynol: athletau, bocsio, beicio (trac a ffordd), rhwyfo, neidio ceffylau, nofio, taekwondo, cystadleuaeth tridiau a pholo dŵr.

Am yr ail Gemau Olympaidd yn olynol, roedd mwy o fenywod hefyd nag o ddynion yn nifer y medalau a enillodd cystadleuwyr Cymru.

Bedair blynedd yn ôl yn Rio, roedd aur Mills yn un o wyth a enillwyd gan fenywod allan o 11 i gyd gan athletwyr o Gymru.

Yn Tokyo, unwaith eto roedd 11 enillydd medal o Gymru ac roedd chwech yn ferched.

Pa athletwyr o Gymru enillodd fedalau yn Tokyo 2020

Hannah Mills, 470 Hwylio – AUR 

Lauren Price, Bocsio Pwysau Canol - AUR 

Matt Richards, 4 x 200 cyfnewid dull rhydd - AUR 

Calum Jarvis, 4 x 200 cyfnewid dull rhydd - AUR 

Lauren Williams, -67kg Taekwondo - ARIAN 

Elinor Barker, Gweithgaredd Tîm y Merched – ARIAN

Tom Barras, Pedwarawd Rhwyfo – ARIAN

Sarah Jones, Hoci merched - EFYDD 

Leah Wilkinson, Hoci merched - EFYDD 

Oliver Wynne-Griffith, Wythawd Rhwyfo’r Dynion - EFYDD 

Josh Bugajski, Wythawd Rhwyfo’r Dynion – EFYDD

 

Ac nid dyna ddiwedd stori lwyddiannus Cymru yn y Gemau Olympaidd hyn, chwaith.

Chwalodd Jake Heyward record 1500m Cymru yn rownd gynderfynol y trac cyn gorffen yn nawfed yn y rownd derfynol yn ei Gemau Olympaidd cyntaf yn 22 oed.

Roedd Matt Richards nid yn unig wedi nofio trydydd cymal rhyfeddol ar ei siwrnai at aur y cyfnewid yn y pwll, ond fe dorrodd record Cymru hefyd am y 200m dull rhydd yn y treialon Olympaidd yn Llundain.

Cyrhaeddodd Alys Thomas a Dan Jervis y rownd derfynol Olympaidd yn y pwll, ac roedd chwech o nofwyr o Gymru, mwy nag erioed, yn cyfrif am 20 y cant o garfan nofio Team GB.

Enillodd Lauren Williams yr arian yn y taekwondo, fel y gwnaeth Elinor Barker yng ngweithgaredd tîm y merched yn y beicio a Tom Barras yn y pedwarawdau rhwyfo heb lywiwr. Ac fe wnaeth yr efydd mewn hoci a rhwyfo arwain at 11 o fedalau i gyd - y cyfanswm mwyaf ar y cyd o enillwyr medalau o Gymru mewn Gemau unigol ochr yn ochr â phedair blynedd yn ôl.

Dywedodd Sarah Powell, prif weithredwr Chwaraeon Cymru: “Roedd y rhain yn Gemau oedd yn destun siarad am yr holl resymau anghywir yn y cyfnod yn arwain atyn nhw, ond unwaith i’r campau ddechrau hawliodd yr athletwyr y llwyfan ac fe gawsom ni gyfle i fwynhau eiliadau gwirioneddol eiconig o chwaraeon.

“Er ei fod yn amlwg yn brofiad gwahanol iawn i’r rhai allan yn Tokyo, wrth i gefnogwyr wylio’r holl fwrlwm gartref, fe gawsom ni ddigon o gyfle i fwynhau’r rolyrcosdyr cyfarwydd o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau sy’n rhan o chwaraeon a dyma un o’r rhesymau pam mae bod yn gefnogwr yn rhoi cymaint o foddhad.

“I mi, roedd y chwaraeon a’r fformatau newydd yn ychwanegu elfen ffres at y Gemau gan ddod ag egni a chyffro newydd a chynulleidfa newydd gobeithio.

“Mae campau Lauren Price yn dod yn bencampwraig focsio Olympaidd gyntaf Cymru a Hannah Mills yn dod yr hwylwraig gyda’r nifer mwyaf o fedalau yn hanes y Gemau Olympaidd wedi hawlio’r penawdau.

“Fe ddylen ni fod yr un mor falch o’r rhai na chyflawnodd eu nodau personol ond a oedd yn cynrychioli Team GB a Chymru yn wych ar lwyfan y byd gan ddangos bod digon o ffyrdd o gysylltu â’r cyhoedd a’u hysbrydoli heb orfod ennill medal.

“Roedd yn teimlo fel trobwynt i chwaraeon. Dewisodd llawer o'r athletwyr ddefnyddio'r llwyfan a roddwyd iddyn nhw i rannu eu teimladau a siarad yn agored am y pwysau sy'n eu hwynebu.

“Maen nhw wedi helpu i greu dadl iach iawn am bwysigrwydd creu’r amgylchedd cywir. Gobeithio ei bod hi’n sgwrs sy’n parhau ac y byddwn ni’n gweld mwy o gynnydd yn ystod y misoedd sydd i ddod.

“Roedd eu didwylledd yn eu gwneud yn llawer haws uniaethu â nhw ac roedd y ffocws ar siwrnai’r athletwr a’r cymunedau sydd wedi cefnogi a siapio eu profiadau yn wych i’w wylio. Rhaid i mi ddweud bod cyfweliad Lauren ddoe wedi dod â deigryn i'm llygad.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at droi fy sylw at y Gemau Paralympaidd sydd i ddechrau mewn dim ond 15 diwrnod a pharhau i chwerthin a chrïo ochr yn ochr â’n hathletwyr anhygoel ni.”

OLYMPIAID CYMRU 

Rhestr Anrhydeddau Medalau’r Gemau Olympaidd 

 

1908 LLUNDAIN 5 medal

Paulo Radmilovic, Polo Dŵr – AUR

Paulo Radmilovic, 4x200 nofio dull rhydd – AUR

Albert Gladstone, Wythawd y Dynion – AUR

Reginald Brooks-King, Saethyddiaeth (Rownd Iorc Dwbl y Dynion) – ARIAN

Tîm Cymru, Hoci – EFYDD 

 

1912 STOCKHOLM 5 medal (1 fenyw)

David Jacobs, 4x100m ras gyfnewid sbrint – AUR

Irene Steer, 4x100m nofio dull rhydd – AUR

Paulo Radmilovic, Polo Dŵr – AUR

William Titt, gymnasteg – EFYDD

William Cowhig, gymnasteg (cyffredinol tîm y dynion) – EFYDD 

 

1920 ANTWERP 4 medal

Paulo Radmilovic, Polo Dŵr – AUR

Christopher Jones, Polo Dŵr – AUR

Cecil Griffiths, 4x400m cyfnewid – AUR

John Ainsworth-Davies, 4x400m cyfnewid – AUR 

 

1932 LOS ANGELES 4 medal (2 fenyw)

Hugh Edwards, Rhwyfo parau heb lywiwr – AUR

Hugh Edwards, Rhwyfo parau heb lywiwr – AUR

Valerie Davies, 100m nofio dull cefn – EFYDD

Valerie Davies, 4x100m nofio dull rhydd – EFYDD 

 

1948 LLUNDAIN 5 medal

Thomas Richards, Marathon – ARIAN

Ken Jones, 4x100m ras gyfnewid sbrint – ARIAN

Ron Davies, Hoci – ARIAN

William Griffiths, Hoci – ARIAN

Syr Harry Llewellyn, Neidio ceffylau tîm – EFYDD 

 

1952 HELSINKI 4 medal

Syr Harry Llewellyn, Neidio ceffylau tîm – AUR

John Disley, 3000m ras ffos a pherth –EFYDD

Graham Dadds, Hoci – EFYDD

John Taylor, Hoci – EFYDD 

 

1960 RHUFAIN 2 fedal

David Broome, Neidio ceffylau – EFYDD

Nick Whitehead, 4x100m cyfnewid sbrint – EFYDD 

 

1964 TOKYO 1 fedal

Lynn Davies, Naid hir – AUR 

 

1968 DINAS MECSICO 3 medal 

Richard Meade, Cystadleuaeth farchogol dridiau i dimau – AUR

Martyn Woodroffe, 200m nofio hedfan – ARIAN

David Broome, Neidio ceffylau – EFYDD 

 

1972 MUNICH 3 medal 

Richard Meade, Cystadleuaeth farchogol dridiau i dimau – AUR

Richard Meade, Cystadleuaeth farchogol dridiau unigol – AUR

Ralph Evans, Bocsio pwysau pryf ysgafn – EFYDD 

1980 MOSCOW 2 fedal (1 fenyw)

Michelle Probert, cyfnewid 4x400m – EFYDD

Charles Wiggin, Pâr rhwyfo heb lywiwr – EFYDD 

 

1984 LOS ANGELES 1 fedal

Robert Cattrall, Hoci – EFYDD 

 

1988 SEOUL 1 fedal

Colin Jackson, clwydi 110m – ARIAN 

 

1992 BARCELONA 1 fedal (1 fenyw)

Helen Morgan, Hoci – EFYDD 

 

1996 ATHEN 2 fedal 

Jamie Baulch, 4x400m cyfnewid – ARIAN

Iwan Thomas, 4x400m cyfnewid – ARIAN 

 

2000 SYDNEY 1 fedal

Ian Barker, Hwylio (dosbarth 49) – ARIAN 

 

2004 ATHEN 1 fedal

David Davies, 1,500m nofio dull rhydd – EFYDD 

 

2008 BEIJING 5 medal (1 fenyw) 

Nicole Cooke, beicio ras ffordd y Merched – AUR

Tom James, Pedwarawd rhwyfo heb lywiwr – AUR

Geraint Thomas, Gweithgaredd tîm beicio – AUR

Tom Lucy, Rhwyfo wyth dyn – ARIAN 

David Davies, Nofio dŵr agored 10km – ARIAN 

 

2012 LLUNDAIN 7 medal (3 menyw) 

Tom James, Pedwarawd rhwyfo heb lywiwr – AUR

Geraint Thomas, Gweithgaredd tîm beicio – AUR

Jade Jones, -67kg Taekwondo – AUR

Freddie Evans, bocsio – ARIAN 

Chris Bartley, Rhwyfo (pedwarawd ysgafn y dynion) – ARIAN 

Hannah Mills, Hwylio (dosbarth 470) – ARIAN 

Sarah Thomas, Hoci – EFYDD 

 

2016 RIO – 11 Medal (8 menyw) 

Hannah Mills, Hwylio 470 – AUR

Jade Jones, -58kg Taekwondo – AUR

Owain Doull, Gweithgaredd Tîm y Dynion – AUR

Elinor Barker, Gweithgaredd Tîm y Merched – AUR

James Davies, Rygbi Saith – ARIAN 

Sam Cross, Rygbi Saith – ARIAN 

Victoria Thornley, Sgwlio Dwbl y Merched – ARIAN

Rebecca James, Keirin – ARIAN

Rebecca James, sbrint – ARIAN

Jazz Carlin, 400 metr dull rhydd – ARIAN

Jazz Carlin, 800 metr dull rhydd – ARIAN 

 

2020 TOKYO – 11 Medal (6 menyw) 

Hannah Mills, Hwylio 470 – AUR 

Lauren Price, Bocsio Pwysau Canol – AUR 

Matt Richards, 4 x 200 cyfnewid dull rhydd – AUR 

Calum Jarvis, 4 x 200 cyfnewid dull rhydd – AUR 

Lauren Williams, -67kg Taekwondo – ARIAN 

Elinor Barker, Gweithgaredd Tîm y Merched – ARIAN

Tom Barras, Pedwarawd Rhwyfo heb lywiwr – ARIAN

Sarah Jones, Hoci merched – EFYDD 

Leah Wilkinson, Hoci merched – EFYDD 

Oliver Wynne-Griffith, Wythawd rhwyfo’r dynion – EFYDD 

Josh Bugajski, Wythawd rhwyfo’r dynion – EFYDD

 

Cyfanswm: 68 o fedalau  (31 Aur – 25 Arian – 12 Efydd) 

Newyddion Diweddaraf

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy

Paneli solar yn rhoi ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae chwyldro ynni gwyrdd ar droed mewn chwaraeon cymunedol yng Nghymru, gyda phaneli solar yn dod yn…

Darllen Mwy