Skip to main content

Cydweithredu ar draws bwrdeistrefi a ffiniau wedi helpu i gadw Cymru'n actif

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cydweithredu ar draws bwrdeistrefi a ffiniau wedi helpu i gadw Cymru'n actif

Bydd mwy o gydweithredu ar draws y bwrdeistrefi a’r ffiniau sy’n gwahanu Cymru’n sicrhau cenedl iachach a mwy heini, yn ôl prif weithredwr Newport Live, Steve Ward.

Wrth i gyfyngiadau symud a chyfnodau clo amrywiol a sefydlir oherwydd Covid-19 barhau i effeithio ar fywydau pawb, mae awdurdodau lleol wedi gorfod gweithredu’n gyflym er mwyn sicrhau bod pobl yn dal i allu cael mynediad i gyfleusterau. 

Ledled Gwent, mae llywodraeth leol a darparwyr hamdden wedi penderfynu pŵlio eu hadnoddau mewn ymgais i sicrhau nad yw cyfnodau clo’n arwain at gloi pobl allan.

Penderfynodd Newport Live – ymddiriedolaeth elusennol sy’n darparu gwasanaethau chwaraeon, hamdden a diwylliannol ar draws y ddinas – weithio gyda darparwyr eraill i gynnig un tocyn ar draws yr ardal gyfan fel nad oedd cyfyngiadau lleol yn atal pobl rhag defnyddio eu lleoliad agosaf.                 

Y canlyniad oedd Gwent Live – sefydliad ymbarél yn cynnwys Aneurin Leisure (Blaenau Gwent), Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, MonLife (Mynwy), Newport Live ac Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen.

Roedd cwsmeriaid oedd ag aelodaeth gydag un darparwr hamdden yn gallu mynychu eu campfeydd neu eu canolfannau hamdden lleol tra oedd y cyfyngiadau symud lleol yn eu lle o hyd.

Gwent Actif

“Yr her oedd cadw cwsmeriaid yn actif, cwsmeriaid oedd yn byw mewn ardal leol o dan gyfyngiadau symud ac felly’n methu defnyddio’r cyfleusterau roedden nhw’n eu defnyddio fel arfer,” meddai Ward.

“Neu efallai eu bod nhw’n gweithio mewn un ardal ac yn byw mewn ardal arall, gyda’r cyfleusterau wedi cau. Roedd y cydweithredu hwn yn golygu y gallent ddefnyddio eu cyfleuster lleol, hyd yn oed os oedd eu haelodaeth mewn lleoliad pellach i ffwrdd, yn agos at eu gweithle dyweder.”

Yn wreiddiol, roedd bwriad i Gwent Actif fod yn weithredol tan Hydref 31, ond cafodd ei ymestyn i gynnwys y cyfnod atal byr – er bod y cyfleusterau ar gau a’r help a’r cyngor ar gael yn rhithwir drwy ddarpariaeth ar-lein. 

Ond mae wedi bod mor llwyddiannus o ran cadw pobl yn gallu gwneud rhyw fath o weithgarwch ar garreg eu drws fel bod y cysyniad yn debygol o barhau. 

“Bydd Gwent Actif yn parhau oherwydd rydyn ni fel partneriaid wedi siarad ers sbel am gael cerdyn Gwent Actif, ac aelodaeth; am gael cwsmeriaid yn gallu symud ar draws ffiniau,” ychwanegodd Ward.

Ond, yn ôl Ward, ni fydd un tocyn unedig ar draws y rhanbarth sy’n galluogi mynediad i bob cyfleuster – yn syml oherwydd yr amrywiadau o ran beth gall awdurdodau lleol ei gynnig a’r cyfyngiadau o ran capasiti.

Gwybodaeth Casnewydd

“Yr ymrwymiad yw cydweithio a dod o hyd i ffordd unedig o weithio lle mae capasiti ar gael. Nid yw’n symud pobl nac yn tanseilio gweithrediadau, oherwydd fe fyddan’ nhw’n parhau i fod yn unigryw.           

“Felly dydyn ni ddim yn cyfuno endidau ar wahân, ond yn gweithio gyda’n gilydd i alluogi cwsmeriaid i ddefnyddio gwasanaethau yn eu cymuned leol. Bydd hynny’n parhau, ond mae’n rhaid i ni weithio drwy’r manylion.”

Nid cynllun Gwent Actif oedd y tro cyntaf i Gasnewydd fod ar flaen y gad yn ystod y pandemig.

I chwaraeon ar lawr gwlad, athletwyr elitaidd a phobl sy’n gwella ar ôl cael Covid-19, mae’r ddinas a’r rhanbarth wedi chwarae rhan bwysig iawn. 

Pan ddychwelodd nofwyr elitaidd i’r pwll, i Gasnewydd y daeth y dwsin neu fwy o nofwyr gorau Cymru wrth i fargen gael ei tharo oedd yn gwneud mwy o synnwyr ariannol i agor Canolfan Hamdden Casnewydd na’r pwll Olympaidd yn Abertawe.     

Daeth Felodrom Casnewydd ar gael yn fuan iawn i brif feicwyr Cymru, unwaith y codwyd y cyfyngiadau symud cyntaf, ac mae’r lleoliad wedi bod yn gartref i raglen adfer wedi’r coronafeirws hefyd. 

Cyfoeth mewn Iechyd

Mae cleifion wedi bod yn defnyddio’r cyfleuster modern fel rhan o’u cynllun adfer a manylwyd ar ymchwil gwerthfawr.         

Ychwanegodd Ward: “Y peth pwysig yw bod gennym ni berthynas dda iawn gyda’r Bwrdd Iechyd, felly roedd posib i ni hwyluso beth oedd ei angen.”

Mae Prif Weithredwr Newport Live yn cyfaddef bod digon o heriau o hyd i’r holl awdurdodau lleol a’r darparwyr hamdden, yn enwedig heriau ariannol.                       

Mae ei sefydliad ei hun yn gorfod gwneud diswyddiadau ond mae’n cyfaddef: “Mae’n mynd i fod yn gyfnod anodd iawn, ond mae gennym ni ddyletswydd fel sector i sicrhau nad yw pris yn rhwystr sy’n atal cyfranogiad.         

“Mae gan y rhan fwyaf yn y sector cyhoeddus bolisïau da iawn ar gyfer gostyngiadau. Rydw i’n meddwl bod y polisïau gostyngiadau yma’n mynd i fod yn allweddol yng Nghymru wrth i ni symud ymlaen. 

“Mae pawb yn gwybod am wir werth gweithgarwch corfforol. Iechyd yw ein cyfoeth ni.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy