Mae pedair menyw ysbrydoledig wedi’u henwebu ar gyfer gwobr Menywod mewn Chwaraeon Womenspire, sy’n cael ei noddi gan Chwaraeon Cymru.
Mae pob un o'r menywod hyn wedi cyfrannu'n sylweddol ac wedi gwneud gwahaniaeth i'w chwaraeon yn eu ffyrdd unigryw eu hunain. Fel athletwr neu hyfforddwr, maent wedi cael effaith gadarnhaol ar chwaraeon menywod yng Nghymru.
Mae Gwobrau Womenspire Chwarae Teg yn dathlu menywod sydd wedi goresgyn rhwystrau ac sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i gyflawni’r hyn maent wedi rhoi eu meddwl arno.
Darllen mwy am straeon yr enwebeion ar gyfer y wobr Menywod mewn Chwaraeon isod
Vera Ngosi-Sambrook
Swydd newydd osododd Vera Ngosi-Sambrook ar y llwybr (beicio) at enwebiad Womenspire. Ar ôl cael ei hannog gan ei gweithle i fynd ar gefn beic, mae Vera wedi dod yn arweinydd sy’n cynyddu cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig mewn beicio.
Ar y dechrau dim ond beicio fel hamdden oedd hi, nes i Vera ennill Ysgoloriaeth Pellter Wltra, sydd ar gyfer lleiafrifoedd du ac ethnig. Arweiniodd hyn at Vera yn cymryd rhan mewn taith feicio 2000km heriol.
Pan roddwyd y brêcs ar feicio grŵp yn ystod y pandemig, daeth yn ddylanwadwr ar y cyfryngau cymdeithasol, gan rannu ei phrofiadau a'i llwybrau at fod yn feiciwr pellter hir unigol. Mae rhywfaint o’i gwaith gorau yn y byd beicio yn cael ei wneud oddi ar y beic, gan ymgysylltu’n frwd â’r Women in Colour Cycling Collective i annog pobl o’r cefndiroedd yma i fynd ar gefn beic.