Padel. Wedi clywed amdano erioed? Naddo mae’n debyg. Wel, mae'n gamp y gallech chi fod yn clywed llawer mwy amdani yng Nghymru wrth i'w phoblogrwydd dyfu.
Mae Padel - a ddyfeisiwyd ym Mecsico yn 1969 - yn gamp raced sy'n cyfuno elfennau o dennis, sboncen a badminton, ac mae’n cael ei chwarae fel dyblau dan do ac yn yr awyr agored.
Mae'n boblogaidd ledled ardal Môr y Canoldir, yn enwedig yn Sbaen, ac mae ganddi hefyd lawer iawn o edmygwyr yn Ne America, yn enwedig yn yr Ariannin.
Ond mae'n gymharol newydd i'r DU a Chymru yn benodol. Felly, mae cyfle i fod yn fabwysiadwr cynnar.
Fel tennis, mae rhwyd ganol yn bresennol ac mae'r peli yn debyg, ond ychydig yn feddalach.
Felly, beth arall sy'n wahanol am y gamp? Wel, mae’n cael ei chwarae ar gwrt llai na thennis (10m x 20m) ac mae cwrt padel wedi'i amgylchynu gan waliau gwydr, y gall y chwaraewyr chwarae ergydion oddi arnynt.
Serf o dan y fraich yw'r dull o ddewis i roi cychwyn i’r gêm.
Yr unig wahaniaeth mawr arall o gymharu â thennis yw bod y raced ychydig yn wahanol - mae'n llai ac yn gwbl solet sy'n gwneud y dechneg o daro'r bêl yn llawer haws.
Mae'r sgorio yr un fath â thennis, mae angen chwe gêm i ennill set a’r tîm sy'n ennill dwy set sy’n ennill y gêm.