Main Content CTA Title

Cymdeithas Ju Jitsu Prydain i barhau fel corff rheoli cenedlaethol ar gyfer y gamp yn y DU

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cymdeithas Ju Jitsu Prydain i barhau fel corff rheoli cenedlaethol ar gyfer y gamp yn y DU

Bydd Cynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref yn parhau i gydnabod Cymdeithas Ju Jitsu Prydain (BJJAGB) fel y corff rheoli cenedlaethol ar gyfer y gamp yn y Deyrnas Unedig gan eu bod bellach yn bodloni meini prawf Polisi Cydnabod y Cynghorau Chwaraeon.

Mae'r gydnabyddiaeth, fodd bynnag, yn amodol ar y CRhC yn bodloni nifer o amodau ac yn dangos eu hymrwymiad i greu sefydliad ac amgylchedd y byddai pawb yn teimlo bod croeso iddynt ynddo wrth gymryd rhan mewn ju jitsu.

Fis Awst diwethaf, yn dilyn adolygiad cydnabyddiaeth cynhwysfawr a gynhaliwyd gan Sport England yn unol â meini prawf Polisi Cydnabod y Cynghorau Chwaraeon, penderfynodd Byrddau Sport England, sportscotland, Chwaraeon Cymru a Chwaraeon Gogledd Iwerddon yn unfrydol i dderbyn canfyddiadau’r adolygiad a symud ymlaen i ddadgydnabod BJJAGB.

Rhoddwyd dyddiad penodol i BJJAGB, sef 1 Hydref, 2023, i gyflwyno tystiolaeth a gwybodaeth berthnasol yn dangos ei fod yn gallu bodloni’r meini prawf polisi er mwyn cynnal ei statws fel CRhC.

Yn dilyn adolygiad helaeth, mae Cynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref wedi cytuno y bydd eu cydnabyddiaeth barhaus i BJJAGB yn ddarostyngedig i’r amodau a ganlyn:

  1. Rhaid i BJJAGB gyhoeddi datganiad ysgrifenedig, sy'n foddhaol i Gynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref, yn nodi ei ymrwymiad i ymgorffori newid diwylliannol yn BJJAGB a chreu CRhC a fydd yn darparu amgylcheddau croesawgar i bawb sy'n cymryd rhan mewn ju-jitsu. Rhaid cyhoeddi hwn cyn 16 Gorffennaf 2024.
  2. Erbyn 13 Awst 2024, rhaid i BJJAGB sefydlu gweithgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) a fydd yn adolygu, yn barhaus, bolisïau ac arferion EDI BJJAGB. Rhaid i aelodaeth y Gweithgor EDI adlewyrchu natur amrywiol aelodaeth BJJAGB a rhaid iddo gynnwys Aelodau Bwrdd BJJAGB yn ogystal â chynrychiolwyr o glybiau a chymdeithasau sy'n aelodau. Rhaid i'r Gweithgor EDI fabwysiadu Cylch Gorchwyl sy'n foddhaol i Gynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref.
  3. Bydd BJJAGB yn mabwysiadu argymhellion i BJJAGB ddod yn sefydliad mwy agored a chroesawgar fel y nodir yn y fframwaith Symud at Gynhwysiant.

Bydd Sport England, ar ran Cynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref, yn neilltuo mentor Symud at Gynhwysiant y byddwch yn gweithio gydag ef i werthuso arferion EDI BJJAGB a chreu Cynllun Gwelliant Parhaus sy’n foddhaol i Gynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref.

Cyhoeddir y Cynllun o fewn amserlen sy'n foddhaol i Gynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref a bydd yn nodi newidiadau a argymhellir ar draws meysydd diwylliant, arweinyddiaeth, profiad, perthnasoedd a chyfathrebu o fewn y sefydliad.

Bydd BJJAGB yn cadw'r Cynllun a bydd Sport England, ar ran Cynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref, yn adolygu'r cynnydd yn erbyn ei argymhellion a'u gweithredu yn barhaus.

Bydd unrhyw fethiant i gydymffurfio'n llawn ag unrhyw un o'r amodau uchod yn arwain at ddadgydnabod BJJAGB yn awtomatig.

Newyddion Diweddaraf

Beth all eich clwb chwaraeon gael cyllid ar ei gyfer gyda’r Grant Arbed Ynni?

Dyma 7 gwelliant smart y gall eich clwb eu hariannu gyda hyd at £25,000 o'r Grant Arbed Ynni.

Darllen Mwy

Cyfarfod y rhai sy’n Newid y Gêm ar gyfer y Dyfodol drwy oresgyn rhwystrau yn y byd chwaraeon yng Nghymru

Ledled Cymru, mae cenhedlaeth newydd o arweinwyr chwaraeon yn ‘newid y gêm.’

Darllen Mwy

Sut mae clwb rhedeg ym Merthyr yn rhoi hwb i iechyd meddwl merched

Oherwydd y diogelwch a'r cyfeillgarwch, menywod yw 75% o'r rhedwyr yn Sole Mate.

Darllen Mwy