Skip to main content

Cymru yn yr NBA? Pêl-fasged Cymru yn cyhoeddi partneriaeth newydd gyda'r sefdliad byd enwog

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cymru yn yr NBA? Pêl-fasged Cymru yn cyhoeddi partneriaeth newydd gyda'r sefdliad byd enwog

Mae Michael Jordan a LeBron James yn eiconau chwaraeon byd-eang ond cyn bo hir gallwn weld llwybr i arwyr NBA o'r fath sy’n cychwyn yma yng Nghymru.

Mae Pêl Fasged Cymru a’r NBA yn ymuno i greu cynghrair newydd yma yng Nghymru, a allai olygu, rhyw ddiwrnod, bod sêr chwaraeon mawr y dyfodol yn cael eu cynhyrchu yn rhywle yn eich ardal chi.

Mae'r fenter newydd hon yn rhan o fenter Iau yr NBA a bydd yn cael ei gweithredu fel twrnamaint mewn ysgolion, sy'n agored i fechgyn a merched rhwng 11 a 13 oed.

Mae Caelan Carson-Jones, 14 oed, sy'n chwarae i Glwb Pêl Fasged Swansea Storm ac yn un o sêr pêl fasged posib Cymru yn y dyfodol, yn annog pobl ifanc i gymryd rhan yn y gynghrair drwy ledaenu'r gair i'w hathrawon yn yr ysgol.

“Dim ond un gair sydd ei angen gennych chi neu eich ffrindiau,” meddai Caelan.

“Fe ddylech chi fynd at eich athrawon AG a dweud wrthyn nhw fod yr NBA wedi dechrau ymwneud ag ysgolion yng Nghymru.

“Rydw i’n siŵr y byddan nhw’n fwy na hapus i gael tîm yn cystadlu yn y twrnamaint.

“Does dim ffi yn gysylltiedig ac rydw i 100% yn siŵr y bydd yn brofiad positif i bobl ifanc.”

Un o atyniadau mawr y cyswllt gyda’r NBA yw y bydd yr holl ysgolion yn cael eu paru ag un o dimau gorau America. Bydd hyn yn cael ei benderfynu ar hap mewn digwyddiad ‘drafft’ yn Aberystwyth ym mis Tachwedd.

Mae’n golygu y bydd y chwaraewyr ifanc yn gallu gwisgo’r un cit â thimau’r NBA fel tîm James, yr LA Lakers, y Chicago Bulls - lle gellir dadlau y daeth Jordan yn seren chwaraeon fwyaf y byd - neu’r Brooklyn Nets a’u seren fawr Kevin Durant.

Gan ysbrydoli chwaraewyr ifanc o Gymru drwy wisgo'r un lliwiau, gobaith NBA Iau yw y gallant fynd ymlaen i ddal ati gyda’r gamp a chwilio am lwybrau datblygu i mewn i bêl fasged coleg yn UDA.

Un o brif nodau'r twrnamaint yw hyrwyddo gwerthoedd allweddol fel parch, mwynhad a phwysigrwydd cadw'n heini.

Gyda chyfyngiadau’r coronafeirws yn llacio bellach, mae Caelan o'r farn mai dyma'r amser perffaith i bobl ifanc ymgymryd â champ newydd fel pêl fasged.

“Yn amlwg, fe wnes i golli chwarae gan fy mod i wedi arfer chwarae dair gwaith yr wythnos felly doedd e ddim yn ddelfrydol peidio â chwarae o gwbl am ychydig.

“Doeddwn i ddim yn gallu aros i fynd yn ôl i chwarae ac rydw i’n siŵr bod llawer mwy o bobl ifanc allan yna sy’n methu aros i gymryd rhan yn eu camp eto hefyd.

“Mae rhwyd pêl fasged yn rhywle yn eich cymuned chi bob amser, felly dylai pawb roi cynnig arni.

“Rydw i wedi cael cymaint o wahanol gyfleoedd i deithio ledled y byd drwy bêl fasged. 

“Mae’n gallu agor cymaint o ddrysau newydd i bobl ifanc fel fi.

“Pan ddechreuais i chwarae gyntaf, doeddwn i ddim yn gwybod llawer am bêl fasged. Jyst gweld y gamp ar y teledu a meddwl ei bod yn edrych yn cŵl, rydw i am roi cynnig arni.

“Ymarfer sy’n bwysig, i berffeithio eich chwarae. Does neb yn dechrau ar y brig, mae'n rhaid i chi weithio'ch ffordd i fyny.” 

Caelan Carson Jones yn siarad yng nghynhadledd newyddion Pêl-fasged Cymru
Caelan Carson Jones yn siarad yng nghynhadledd newyddion Pêl-fasged Cymru

 

Nod arall y gynghrair yw creu cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu sgiliau newydd, y gallant wedyn eu defnyddio wrth iddynt fynd i'r brifysgol neu ymgeisio am swyddi yn y dyfodol.

Mae chwaraewraig ryngwladol Cymru, Funmi Oduwaiye, 17 oed, sy'n chwarae ei phêl fasged i Archers Met Caerdydd, bellach yn rhy hen i chwarae yn y twrnamaint ond mae hi'n edrych ymlaen at gymryd rhan fel gwirfoddolwr.

“Hyd yn oed os ydych chi dros 14 oed, fe allwch chi gofrestru o hyd i fod yn wirfoddolwr fel fi,” meddai Funmi.

“Fe fydd yn gymaint o hwyl. Mae popeth sy'n ymwneud â'r cynllun yma’n newydd, yn ffres ac yn wahanol.

“Fe allwch chi ymwneud â dyfarnu, hyfforddi, gwaith cyfryngau a chymaint mwy. 

“Rydw i’n credu y bydd yn helpu cymaint o bobl ifanc gyda’u hyder, eu sgiliau cyfathrebu a byddwch yn cael gwneud cymaint o ffrindiau newydd.”

Mae Funmi hefyd eisiau annog ysgolion i gynnig chwaraeon mwy amrywiol i'w myfyrwyr.

“Mae pêl fasged yn gamp hwyliog. Rydw i’n gwybod nad ydi pobl sy'n hoffi pêl droed yn barod i gyfaddef hynny, ond rydw i’n credu mai hon yw'r gamp orau.

“Ar ôl i chi fynd i mewn iddi, rydych chi mewn iddi.”

Mae Jon Bunyan, sef arweinydd prosiect Iau NBA ar gyfer Pêl Fasged Cymru, yn awyddus i gynnwys ysgolion o bob rhan o Gymru ac mae hefyd yn bwriadu agor y cynllun i chwaraeon anabledd.

“Mae wedi cymryd llawer o waith caled gan grŵp ymroddedig o bobl i gyrraedd y pwynt yma ac rydyn ni i gyd wrth ein bodd bod yr NBA wedi cymeradwyo ein cynlluniau ni ar gyfer y gynghrair,” esboniodd Bunyan.

“Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, fe fyddwn ni’n datblygu menter NBA Iau i gynnwys cynghrair i ferched yn unig, cystadleuaeth cadair olwyn yn ogystal â datblygu cysylltiadau â sefydliadau chwaraeon ieuenctid. 

“Ein huchelgais yw ehangu’r gystadleuaeth fel bod llawer mwy o ysgolion yn gallu cymryd rhan, a mwy o bobl ifanc yn cael cyfle i chwarae pêl fasged.”

Yn debyg i'r NBA, bydd y timau'n cael eu rhannu'n ddwy adran - Gogledd a De.

Disgwylir i'r gemau gael eu cynnal ym mis Mawrth 2022 mewn lleoliadau ym Mangor a Chaerdydd, a bydd Rowndiau Terfynol y Gynghrair yn cael eu cynnal ym mis Mehefin 2022 yn Aberystwyth.

Am fwy o wybodaeth am raglen y Gynghrair NBA Iau yn y DU, ewch i jrnbaleague.uk/ a dilyn Jr. NBA ar Facebook (Facebook.com/jrnba), Instagram (@jrnba) a Twitter (@jrnba).

Rhwyd ​​pêl-fasged gyda machlud yn y cefndir

Newyddion Diweddaraf

Mae pobl ifanc yn gwirioni ar dennis bwrdd, diolch i dechnoleg fodern

Mae Clwb Tenis Bwrdd Cynffig yn defnyddio technoleg laser modern i helpu i wneud eu camp yn fwy deniadol…

Darllen Mwy

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Darllen Mwy

Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye…

Darllen Mwy